Gweithdrefn Derbyn
Beth yw’r Contract Meddiannaeth?
Bydd angen i chi gwblhau’r Contract Meddiannaeth (rhaid gwneud hyn erbyn y dyddiad cau a rhoddwyd i chi).
Mae’r Contract Meddiannaeth’n cynnwys:
- Telerau ac amodau eich cytundeb trwydded (wedi’u cynnwys yn y Llawlyfr i Breswylwyr).
- Ein system talu ar-lein i dalu’r ffi dderbyn a threfnu cynllun talu ar gyfer eich ffioedd llety.
- Gwybodaeth am fyw yn llety’r brifysgol.
- Rhaglen Gyflwyno ar-lein.
Beth os na allaf dderbyn fy Nghontract Meddiannaeth erbyn y dyddiad cau?
Mae angen i chi gwblau'r Contract Meddiannaeth erbyn y dyddiad a nodir. Os nad ydych wedi cwblhau'r contract erbyn y dyddiad cau penodol, bydd eich ystafell yn cael ei rhyddhau.
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd gysylltiad â’r rhyngrwyd sy’n caniatáu i chi wirio eich negeseuon e-bost yn rheolaidd, hyd yn oed os ydych ar wyliau.
Rhaid cwblhau eich Contract Meddiannaeth a thalu eich ffioedd derbyn ar-lein.
Os oes gennych chi unrhyw broblemau eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni.
A allaf newid fy llety?
Cyn i chi gyrraedd, gallwch ganslo'ch archeb am lety ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'r Porth Llety ac archebu ystafell arall (yn amodol ar argaeledd)
Ar ôl i chi symud i mewn, gallwch lenwi ffurflen gais i newid llety a allai ganiatáu i chi symud ystafell – gweler ein tudalen trosglwyddo i gael rhagor o fanylion.
Sut mae ysgogi fy e-bost Prifysgol Aberystwyth?
Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn eich e-bostio o fis Gorffennaf ymlaen gyda gwybodaeth am sut i ysgogi eich e-bost Prifysgol Aberystwyth. Cyn gynted ag y byddwch yn cael yr e-bost hwn dylech ysgogi eich cyfrif e-bost. Bydd hyn yn sicrhau nad oes oedi wrth sicrhau eich llety. Ar ôl ysgogi eich e-bost Prifysgol Aberystwyth, bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon i’r e-bost hwn felly mae’n bwysig eich bod yn ei wirio’n rheolaidd.
Rwyf hefyd wedi sicrhau llety yn y sector preifat – beth yw fy newisiadau?
Bydd angen i chi benderfynu pa lety sydd orau gennych. Fe’ch cynghorir, os ydych eisoes wedi llofnodi contract â’r Brifysgol neu yn y sector preifat, i beidio â llofnodi un arall nes eich bod yn gwybod bod modd i chi gael eich rhyddhau o’ch contract presennol – fel arall, gallech fod yn rhwymedig i dalu rhent am y ddau lety.