Cwestiynau a Holir yn Aml
Monitro Presenoldeb
-
Oes rhaid i mi fod yn bresennol yn y Cyfrifiad Canolog?
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 cynhelir gwiriadau cyfrifiad ar gyfer pob myfyriwr nad yw ar ei flwyddyn gyntaf.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sydd â fisa Myfyriwr / Fisa Haen 4 ac a ddechreuodd ar ei astudiaethau cyn mis Medi 2022 fynychu'r Cyfrifiad Canolog a drefnir gan y Swyddfa Cydymffurfiaeth. Mae'r sesiynau hyn yn orfodol. Cysylltir â chi i drefnu apwyntiad i ddod i'n gweld.
Bydd gofyn i chi ddod â'r canlynol:
- Eich Pasbort
- Eich cerdyn preswylio biometrig - BRP (Os oes gennych chi un)
Cynhelir gwiriad cyfrifiad gyda phob myfyriwr unwaith y flwyddyn i sicrhau bod y manylion cywir ar eich cofnod cydymffurfiaeth. Byddwch yn cael gwybod y dyddiad ymlaen llaw.
-
Sut alla i gymryd absenoldeb awdurdodedig?
Gweler y dudalen Absenoldeb Awdurdodedig i gael manylion: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/compliance-information/absenoldeb-awdurdodedig/
-
Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n cymryd rhan yn y gweithgareddau sydd wedi'u hamserlennu?
Mae'n rhaid i Brifysgol Aberystwyth fonitro eich ymroddiad a'ch presenoldeb yn rhan o'i chyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr sy'n cael eu noddi ar Fisa Myfyrwyr yn ymroi i’w hastudiaethau.
Eich cyfrifoldeb chi:
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'n rhaid ichi ymroi i’ch cwrs yn llawn. Os na fyddwch yn ymroi i’ch astudiaethau fel y nodir yn y Polisi Ymroddiad Academaidd gallech gael eich gwahardd o’r Brifysgol, gellid tynnu eich nawdd yn ôl a gellid dod â’ch fisa i ben.
Os bydd eich Adran neu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth yn cysylltu â chi ynglŷn â’r graddau yr ydych yn ymroi i’ch astudiaethau, rhaid ichi ymateb a rhoi rheswm dros unrhyw absenoldeb neu esbonio pam nad ydych yn ymroi i’ch astudiaethau.
-
A gaf i ddychwelyd adref i ysgrifennu fy nhraethawd hir (Myfyrwyr Uwchraddedig a Addysgir)?
Os hoffech ysgrifennu traethawd hir eich gradd Meistr o'ch cartref, bydd angen i’ch adran gymeradwyo hynny. Dim ond os ydych wedi bod yn bresennol yn yr holl sesiynau dysgu gofynnol, eich bod wedi cwblhau'r holl waith labordy gofynnol a’ch bod wedi trafod â’ch goruchwyliwr sut y gellir sicrhau goruchwyliaeth o bell y bydd eich adran yn cymeradwyo’r cais.
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd angen ichi roi gwybod i'r Swyddfa Gydymffurfiaeth a darparu copi o’r cadarnhad bod eich awyren yn hedfan cyn ichi adael y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn tynnu eich nawdd yn ôl a bydd eich fisa yn dod i ben. Er y bydd eich fisa yn dod i ben, byddwch yn parhau i fod yn fyfyriwr tan ddiwedd eich cofrestriad.
**Ni fyddwch yn gallu dychwelyd i'r DU ar eich Fisa Myfyriwr ar ôl i’ch nawdd gael ei dynnu'n ôl. Mae hyn hefyd yn golygu na fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fisa Llwybr Graddedig
**Dylech wirio telerau unrhyw fenthyciad/ysgoloriaeth y gallech fod yn ei derbyn i sicrhau eich bod yn bodloni’r amodau hynny.
-
A gaf i ysgrifennu o'm cartref (Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig)?
Os hoffech ysgrifennu traethawd hir eich gradd Meistr o'ch cartref, bydd angen i chi drafod hyn â’ch arolygwr/wyr a chael eu caniatâd. Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd angen ichi roi gwybod i'r Swyddfa Gydymffurfiaeth a darparu copi o fanylion y daith (bydd cadarnhad electronig o’r archeb yn ddigonol) cyn ichi adael y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn tynnu eich nawdd yn ôl a bydd eich fisa yn dod i ben. Bydd gofyn i’r Brifysgol roi gwybod am y newid hwn i’r Swyddfa Gartref a thynnu nawdd eich Fisa Myfyriwr yn ôl. O ganlyniad i hyn bydd eich fisa yn cael ei ddiddymul ac os bydd angen i chi ddychwelyd i’r wlad e.e. ar gyfer eich viva voce, bydd angen i chi gael/wneud cais am Fisa Ymweld.
Nodwch mai dim ond pan fyddwch wedi cyrraedd y cyfnod ysgrifennu (Abeyance) y gallwch ddychwelyd adref i ysgrifennu. My hyn hefyd yn golygu na fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fisa Llwybr Graddedig.
-
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nhraethawd ymchwil? (Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig)?
Ar ôl ichi gyflwyno'ch traethawd ymchwil, bydd yn dal angen ichi gyflawni eich dyletswyddau o ran presenoldeb ac ymroddiad academaidd. Byddwch yn parhau i gwrdd â'ch goruchwyliwr bob mis i drafod y paratoadau ar gyfer eich viva voce a chyflwyno adroddiadau sy’n sôn am sut yr ydych yn ymroi i’r gwaith hwnnw.
Os nad ydych yn dymuno aros yn Aberystwyth ar ôl ichi gyflwyno’ch traethawd, gallwch ddychwelyd adref (cyn belled â'ch bod o fewn y cyfnod ysgrifennu), ond bydd angen ichi drafod hyn â’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr yn gyntaf er mwyn iddynt gymeradwyo’ch cais. Ar ôl cymeradwyo’r cais, bydd gofyn ichi roi gwybod i'r Swyddfa Gydymffurfiaeth cyn ichi adael, a bydd gofyn ichi ddarparu copi o fanylion eich hediad (bydd cadarnhad electronig o’ch archeb yn ddigon). Bydd gofyn i'r Brifysgol roi gwybod am y newid hwn i'r Swyddfa Gartref a thynnu’r nawdd a roddwn tuag at eich Fisa Myfyriwr yn ôl. O ganlyniad i hyn, bydd eich fisa yn dod i ben ac os bydd angen ichi ddychwelyd i’r wlad e.e. ar gyfer eich viva voce, bydd angen ichi gael/gwneud cais am Fisa Ymweld.
Sylwer. Ni fydd myfyrwyr sy’n dewis ysgrifennu eu traethawd hir adref yn gymwys i wneud cais am Fisa Llwybr Graddedig.
-
Beth sy'n digwydd os byddaf yn cwblhau fy nghwrs yn gynnar?
Os dyfernir eich gradd cyn dyddiad diwedd y cwrs a nodir ar eich Cadarnhad Derbyn i Astudio, mae angen i'r Brifysgol roi gwybod i'r Swyddfa Gartref eich bod wedi cwblhau’r cwrs yn gynnar a thynnu’r nawdd tuag at eich fisa yn ôl.
Pan fydd yr adroddiad hwnnw’n barod, bydd Fisâu a Mewnfudo y DU yn dweud wrthych chi erbyn pryd y bydd yn rhaid ichi adael y DU.
Ewch i wefan UKCISA i gael gwybodaeth am y dyddiadau y daw caniatâd mewnfudo i ben ac i gael gwybod yn bendant faint o amser fydd gennych i gau pen y mwdwl ar eich astudiaethau: https://www.ukcisa.org.uk/
Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS)
-
Beth yw'r Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS)?
Mae'r Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) yn rhif cyfeirnod unigryw y bydd y brifysgol sy'n eich noddi* yn ei gael gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) i'ch galluogi i wneud cais am fisa Myfyriwr.
*Nodwch fod y 'noddi' yn y fan hon yn cyfeirio at noddi eich cais am fisa myfyriwr; nid nawdd ariannol mo hyn.
-
Pam mae angen Cadarnhad Derbyn i Astudio arnaf?
Mae arnoch angen y Cadarnhad hwn er mwyn gallu gwneud cais am fisa i astudio yn y Deyrnas Unedig am gyfnod hwy na 6 mis.
-
Sut gallaf gael Cadarnhad Derbyn i Astudio?
Pan fyddwch wedi darparu tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl amodau a nodwyd gan y Brifysgol yn eich llythyr cynnig amodol, cewch fersiwn ddrafft o'r Cadarnhad Derbyn i Astudio ar ebost. Bydd angen i chi roi cadarnhad ysgrifenedig (mewn ebost) bod y manylion a amlinellir yn gywir neu roi gwybod i'r Brifysgol am unrhyw gamgymeriadau. Os canfyddir unrhyw gamgymeriadau byddant yn cael eu cywiro a rhoddir fersiwn ddrafft arall ichi.
Wedi ichi gadarnhau bod y manylion ar eich Cadarnhad Derbyn i Astudio yn gywir bydd yn cael ei ffurfioli ac yna bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi rhif CAS ar eich cyfer i'r Brifysgol a bydd y Brifysgol yn rhoi'r manylion ichi.
Cysylltiadau
Ymgeiswyr Israddedig - Ebost: derbyn-israddedig@aber.ac.uk
Ymgeiswyr Ôl-raddedig - Ebost: pg-overseas@aber.ac.uk
Adnewyddu ac Estyniadau i fyfyrwyr presennol PA - Ebost: immigrationadvice@aber.ac.uk
-
Am ba mor hir y mae'r Cadarnhad Derbyn i Astudio yn ddilys?
Mae'r Cadarnhad yn ddilys am 6 mis o'r dyddiad pan gaiff ei ffurfioli a bydd yn dod i ben yn awtomatig os na chaiff ei ddefnyddio o fewn 6 mis i'r dyddiad pan gafodd ei greu.
Manylion Cyswllt
-
Pa un yw fy nghyfeiriad Cartref?
Eich cyfeiriad Cartref yw'r cyfeiriad lle'r ydych yn aros yn y wlad sy'n Gartref ichi. Gan fod gennych fisa Myfyriwr, ni all eich cyfeiriad Cartref fod yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r Swyddfa Cydymffurfiaeth yn cael gwybod yn awtomatig am unrhyw newidiadau a wnewch i'ch Cofnod Myfyriwr. Os oes unrhyw broblem â'r manylion a roddwch, mae'n bosibl y bydd y Swyddfa Cydymffurfiaeth yn cysylltu â chi er mwyn cael esboniad.
-
Pa un yw fy nghyfeiriad yn ystod y Tymor?
Eich cyfeiriad yn ystod y Tymor yw'r cyfeiriad lle'r ydych yn aros tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhaid i'ch cyfeiriad yn ystod y Tymor fod yn gyfeiriad yn Aberystwyth neu'r cyffiniau.
Mae'r Swyddfa Cydymffurfiaeth yn cael gwybod yn awtomatig am unrhyw newidiadau a wnewch i'ch Cofnod Myfyriwr. Os oes unrhyw broblem â'r manylion a roddwch, mae'n bosibl y bydd y Swyddfa Cydymffurfiaeth yn cysylltu â chi er mwyn cael esboniad.
-
Pa fanylion cyswllt y mae'n rhaid imi eu darparu ar fy nghofnod Myfyriwr?
Mae'n rhaid i'r Brifysgol gadw'r manylion cyswllt diweddaraf ar eich cyfer gan gynnwys eich
- Cyfeiriad Cartref
- Cyfeiriad yn ystod y Tymor
- Cyfeiriad E-bost Personol
- Rhif ffôn cyswllt
Os bydd y manylion hyn yn newid, rhaid ichi roi gwybod i'r Swyddfa Gartref yn ogystal ag i'r Brifysgol.
Ymestyn ac Adnewyddu Fisâu
-
A allaf ymestyn fy Fisa?
Mae gwybodaeth am ymestyn eich fisa ar gael gan y Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu.
Neu gallwch gysylltu â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol immigrationadvice@aber.ac.uk
-
Sut gallaf adnewyddu fy Fisa?
Mae gwybodaeth am adnewyddu eich fisa ar gael gan y Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu.
Neu gallwch gysylltu â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol immigrationadvice@aber.ac.uk
-
A allaf wneud cais am y Fisa Llwybr Graddedig?
Mae'n bosibl y gall myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n cwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus wneud cais am Fisa i Raddedigion. Bydd y tîm Cydymffurfiaeth yn rhoi gwybod i UKVI eich bod yn gymwys, yn y bôn, ar gyfer y math yma o fisa. Cewch eich hysbysu gan y tîm Cydymffurfiaeth eich bod yn gymwys, yn y bôn, ar gyfer y fisa a byddwn yn cadarnhau a ydym wedi rhoi gwybod am hynny i UKVI.
Dim ond os nad ydych yn bwriadu parhau â'ch astudiaethau mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig y dylech wneud cais am y fisa hwn. Os byddwch yn ymgeisio ac yn cael Fisa i Raddedigion, ni allwch astudio na chael eich cofrestru mewn prifysgol yn y DU.
Gall y Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol immigrationadvice@aber.ac.uk eich cynorthwyo gyda'ch cais.
Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.aber.ac.uk/en/sscs/visa-support-advice/post-study/graduate-route/
Gwiriad Dogfennau Cyn cofrestru i Fyfyrwyr
-
Tasgau cyn cofrestru
Fel myfyriwr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth (neu fyfyriwr sy'n dychwelyd sydd â fisa newydd) bydd gofyn i chi ddod i sesiwn Gwirio Dogfennau cyn i chi gofrestru. Mae'r sesiwn hon yn orfodol i bob myfyriwr sydd â Fisa Myfyriwr.
Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth a chyn gallu cofrestru ar eich cwrs, mae’n rhaid i chi:
- Uwch-lwytho eich dogfennau trwy’r porth myfyrwyr (byddwn yn anfon gair i’ch atgoffa i wneud hyn yn rheolaidd)
- Bydd angen i fyfyrwyr sydd â Fisa Myfyrwyr drefnu apwyntiad i weld y Tîm Cydymffurfio wyneb yn wyneb hefyd.
Ar gyfer y sesiwn hon, dylech ddod â’r dogfennau gwreiddiol canlynol gyda chi:
- Copi wedi’i argraffu o fanylion eich taith awyren (e-bost cadarnhau neu docyn)
- Pasbort
- Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) (os yw’n berthnasol)
- Tystysgrif Iaith Saesneg (os yw’n berthnasol)
- Cymwysterau academaidd
- Llythyr yn caniatáu mynediad
- Tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) (os yw'n berthnasol)
Sylwch na fydd modd i chi gofrestru ar gyfer eich cwrs oni bai eich bod wedi cyflwyno'r ddogfen/dogfennau uchod i ni a chyfarfod â’r Tîm Cydymffurfio.
Ymadael â'r Brifysgol
-
Gadael Dros Dro
Os penderfynwch roi'r gorau i’ch astudiaethau dros dro a dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nes ymlaen, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais i ymadael dros dro. Mae'r ffurflen i'w gweld ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl 'Cofnod Academaidd'. Cofiwch fod gofyn i chi gydymffurfio â'r holl weithdrefnau a pholisïau sydd ar waith gan Brifysgol Aberystwyth i amddiffyn ei statws Noddwr Myfyrwyr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r adran academaidd ynglŷn â goblygiadau academaidd eich penderfyniad a'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) ynghylch goblygiadau'r posibilrwydd o ymadael i'ch fisa cyn gwneud y penderfyniad terfynol a chyn cwblhau'r ffurflen ymadael ar-lein.
Sylwch, ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ymadael ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo'ch cais i ymadael.
Pan gadarnheir eich penderfyniad i ymadael, byddwn ein nawdd ar gyfer eich fisa yn dod i ben a byddwn yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei chwtogi a bydd yn rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, fe allech fod yn torri'r gyfraith. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall fod â goblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os nad ydych yn y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn penderfynu gadael y Brifysgol dros dro, sylwch na fyddwch yn gallu dod i mewn i'r Deyrnas Unedig.
Pan fyddwch chi'n penderfynu dychwelyd i astudio, bydd angen i chi wneud cais am fisa newydd a bydd angen Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) newydd arnoch chi. Cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) o leiaf 3 mis cyn dychwelyd i astudio.
-
Ymadael yn Barhaol
Os ydych chi wedi penderfynu peidio â pharhau â'ch gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi lenwi ffurflen ymadael ar-lein. Mae'r ffurflen ar gael ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl 'Cofnod Academaidd'.
Sicrhewch, cyn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â rhoi'r gorau i'ch astudiaethau a chyn llenwi’r ffurflen ymadael ar-lein, eich bod wedi cysylltu â’ch adran academaidd a’r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (inimadadvice@aber.ac.uk) ynglŷn â goblygiadau posib ymadael ar eich fisa.
Sylwch, ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ymadael ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo'ch cais i ymadael.
Pan gadarnheir eich cais i ymadael bydd nawdd eich fisa yn dod i ben a byddwn yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei chwtogi a rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, fe allech fod yn torri'r gyfraith. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall fod â goblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi penderfynu astudio (trosglwyddo) neu weithio'n rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi roi manylion eich prifysgol neu gyflogwr newydd i ni.
Gweithio wrth astudio
-
Ga' i weithio wrth astudio?
Mae'n ofynnol i chi edrych ar eich fisa, naill ai ar sticer y pasbort (caniatâd mynediad neu drwydded breswylio) neu ar eich trwydded breswylio fiometreg (cerdyn adnabod) er mwyn gweld a oes gennych chi hawl i weithio neu beidio yn ystod eich cyfnod yn y Deyrnas Unedig.
Sylwch fod gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol i wirio eich bod yn cael gweithio yn y Deyrnas Unedig a rhaid i chi allu darparu tystiolaeth iddynt trwy ddangos eich fisa. Rhaid i chi hefyd roi gwybodaeth i'ch cyflogwr ynghylch dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs er mwyn i'ch cyflogwr wybod pryd bydd modd i chi weithio'n rhan-amser (yn ystod y tymor) neu'n llawn amser (dros y gwyliau). Rhaid i'r wybodaeth hon fod ar un o'r ffurfiau canlynol:
- Allbrint o wefan y brifysgol yn dangos dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (mae'r wybodaeth hon i'w gweld ar y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/dates-of-term/);
- Copi o lythyr neu e-bost gan y brifysgol yn cadarnhau dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, inimadadvice@aber.ac.uk i ofyn am y cadarnhad);
- Llythyr gan y brifysgol at eich cyflogwr yn cadarnhau dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, inimadadvice@aber.ac.uk i ofyn am y llythyr).
Sylwch fod y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y mae disgwyl i gyflogwyr ei wirio a lle dylai cyflogwyr fynd i wirio hawl unigolyn i weithio; mae'r canllaw hwn ar gael ar y ddolen ganlynol: www.gov.uk/government/collections/employers-illegal-working-penalties.
-
Myfyrwyr Israddedig
Os ydych chi'n astudio ar lefel gradd yna ni chewch weithio mwy na 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor, ar yr amod bod hyn wedi'i nodi ar eich fisa. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o ddyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs. Cewch weithio'n llawn amser yn ystod y gwyliau ac mae dyddiadau gwyliau myfyrwyr israddedig Prifysgol Aberystwyth i'w gweld ar y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/dates-of-term/
-
Myfyrwyr Uwchraddedig a Addysgir
Os ydych chi'n astudio cwrs Uwchraddedig a Addysgir yn ystod y tymor, ni chewch weithio mwy na 20 awr yr wythnos ar yr amod bod hyn wedi'i nodi ar eich fisa. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o ddyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs.
Sylwch, yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi, eich bod yn gweithio ar eich traethawd hir. Nid yw hwn yn gyfnod gwyliau i chi gan eich bod yn astudio llawn amser yn ystod y misoedd hynny, ac felly mae cyfyngiad gweithio rhan amser ar y cyfnod hwn, fel y nodir ar eich fisa, nes i chi gyflwyno eich traethawd hir ac ar yr amod nad oes gennych chi unrhyw ymrwymiadau academaidd ar ddod. Ni chewch weithio'n llawn amser tra rydych yn ysgrifennu'ch traethawd hir a rhaid eich bod yn byw yn Aberystwyth yn hytrach nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i chi fynychu cyfarfodydd â'ch goruchwyliwr yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi a gallai beryglu eich fisa os byddwch yn methu â gwneud hynny. Mae dyddiadau gwyliau myfyrwyr Uwchraddedig a Addysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth i’w gweld ar y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/dates-of-term/
-
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig
Os ydych chi'n fyfyriwr Ymchwil Uwchraddedig, mae'n rhaid i chi fod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bod yn Aberystwyth am 44 wythnos yn y flwyddyn academaidd. Rhaid cymryd unrhyw wyliau pan fo hynny'n briodol yn unol â'ch ymchwil ac unrhyw ddigwyddiadau addysgu. Rhaid i'ch goruchwyliwr awdurdodi unrhyw wyliau a gofynnir i'ch goruchwyliwr gadarnhau hyn trwy e-bost a nodi nad yw unrhyw absenoldeb awdurdodedig o'r fath yn debygol o effeithio ar ddyddiad cyflwyno eich ymchwil. Bydd angen i'ch goruchwyliwr hefyd hysbysu'r Cyswllt Cydymffurfio Adrannol perthnasol o absenoldeb awdurdodedig o'r fath a byddant yn anfon y cais ymlaen i'r Swyddfa Gydymffurfio i'w gymeradwyo. Dim ond yn rhan-amser y caniateir i chi weithio yn ystod y tymor ar yr amod bod hyn wedi'i nodi ar eich fisa. Ni ddylech dybio y cewch weithio'n llawn amser yn ystod yr haf nac ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn nad oes unrhyw weithgareddau addysgu.