Gwiriadau Hawl i Astudio

Beth yw'r 'hawl i astudio'?

Mae'r 'hawl i astudio’ yn golygu bod gennych ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac nid yw'r caniatâd hwn yn eich atal rhag astudio yn y DU, neu'n fwy penodol, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pam mae angen inni wirio hawl pobl i astudio?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dal Trwydded Noddwr Fisa Myfyrwyr , sy'n rhoi caniatâd iddi dderbyn myfyrwyr rhyngwladol ar fisâu myfyrwyr y DU. 

Mae'r Swyddfa Gartref yn gofyn inni sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n astudio yn y Brifysgol hawl i astudio yn y DU drwy gydol eu cyfnod astudio. Os na wnawn ni hynny, ni fyddwn yn cyflawni ein dyletswyddau fel Noddwr Fisa Myfyrwyr, a gellid cymryd camau yn ein herbyn ni neu gallai ein Trwydded Noddwr Fisa Myfyrwyr gael ei thynnu'n ôl.

Ar bwy y mae angen gwiriad hawl i astudio?

Unrhyw un sy'n dymuno cofrestru i astudio cwrs o unrhyw hyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Bydd gofyn i fyfyrwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth ddangos rhagor o ddogfennau sy'n ymwneud â'u hawl i astudio os yw eu caniatâd presennol i aros yma ar fin dod i ben.

Sut ydym yn gwybod fod gennych hawl i astudio?

Os oes gennych chi basbort y DU/Gweriniaeth Iwerddon, mae gennych hawl i astudio yn y DU. Bydd yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o'ch cenedligrwydd cyn ichi gofrestru ar eich cwrs. 

Mae gennych fisa neu gymeradwyaeth, neu efallai bod hawl gennych i aros yn y DU am fod gan aelod o'ch teulu ganiatâd i aros yn y DU.

Os daw eich statws mewnfudo i ben yn fuan ar ôl i'ch cwrs gychwyn, neu os oes gennych chi gais sy'n aros am benderfyniad a allai olygu na fydd modd inni benderfynu a oes gennych chi hawl i astudio, efallai yr hoffech ohirio eich astudiaethau hyd nes bod eich statws mewnfudo wedi'i ymestyn neu ei sicrhau.

Sut / pryd y bydd angen ichi ddarparu'r dogfennau hawl i astudio?

Gwladolion y DU/Gweriniaeth Iwerddon 

Bydd gofyn ichi uwchlwytho eich dogfennau hawl i astudio cyn cyrraedd Aberystwyth yn rhan o'r broses 'rhoi ar waith'. Yn fuan ar ôl ichi roi eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth ar waith, fe gewch gyfarwyddiadau er mwyn ichi uwchlwytho eich dogfen/dogfennau i dudalen uwchlwytho ddiogel. 

Gwladolion o du allan i'r DU/Gweriniaeth Iwerddon 

Os ydych wedi derbyn CAS ac yn dal fisa byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Gwiriad Rhag Gofrestru i Fyfyrwyr Rhyngwladol, lle gofynnir ichi ddarparu sawl dogfen wreiddiol.

Os ydych wedi rhoi tystiolaeth o’ch statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel rhan o’r broses derbyn, nid oes angen rhoi hyn eto.

A oes rhaid imi ddarparu dogfennau hawl i astudio?

Oes. Ni fydd hawl gennych gofrestru ar eich cwrs oni fyddwn wedi gwirio eich hawl i astudio.

Eich cyfrifoldeb chi fydd cynnal eich hawl i astudio (eich statws mewnfudo) os yw eich caniatâd i astudio yn y DU ar fin dod i ben, neu os yw eich amgylchiadau'n newid i'r graddau y bydd hyn yn effeithio ar eich statws mewnfudo.

Bydd y Brifysgol yn atal dros dro neu'n gwahardd unrhyw fyfyriwr nad oes ganddo hawl mwyach i astudio yn y DU.

Pa ddogfennau / tystiolaeth y mae'n rhaid imi eu darparu?

Mae'r tablau isod yn rhoi enghreifftiau o'r mathau mwyaf cyffredin o statws mewnfudo a fisâu, ac mae'n dweud pa ddogfennau y byddai'n rhaid ichi eu darparu i ddangos bod gennych hawl i astudio. 

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha ddogfennau y dylech eu darparu, neu os ydych chi'n cael trafferth darparu'r ddogfennaeth ofynnol, e-bostiwch rtsstaff@aber.ac.uk am gymorth.

Gwladolion Prydeinig neu wladolion yr UE/yr AEE/y Swistir

Cenedligrwydd

Cyfyngiadau astudio

Y dogfennau angenrheidiol

Dinesydd Prydeinig/Gwyddelig

Dim cyfyngiadau astudio

Pasbort y DU / Gweriniaeth Iwerddon


neu

 

Dystysgrif geni neu fabwysiadu'r DU wedi'i roi yn y DU / yn Ynysoedd y Sianel / ar Ynys Manaw neu Iwerddon 

 

neu

 

Dystysgrif cofrestru fel dinesydd Prydeinig neu dystysgrif dinasyddiaeth Brydeinig

 

neu

 

Tystysgrif hawl i fyw yn Y Deyrnas Unedig

 

 
 

 

Gwladolion o du allan i'r DU / Gweriniaeth Iwerddon 

Categori Mewnfudo

Cyfyngiadau astudio

Y dogfennau angenrheidiol

Fisa Myryrwyr - noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth (CMRTYMH23)

Dim cyfyngiadau astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar y cwrs y rhoddwyd y Cadarnhad Derbyn i Astudio ar ei gyfer.

 

Mae'n bosib hefyd y caniateir astudiaethau atodol.

Trwydded Breswylio Fiometrig sydd â'r Rhif Trwydded Noddwr CMRTYMH23, a roddir am gyfnod cyfan y cwrs yr ydych yn ei astudio ar hyn o bryd neu yr ydych yn cofrestru arno

 

neu

 

Lythyr oddi wrth Fisâu a Mewnfudo'r DU sy'n cadarnhau bod eich cais am fisa'r DU wedi bod yn llwyddiannus ac y bydd eich Trwydded Breswylio Fiometrig ar gael i'w chasglu - byddwn yn eich cofrestru ar y ddealltwriaeth y bydd disgwyl ichi ddod â'ch Trwydded atom ni ar ôl iddi gael ei chasglu

 

neu

 

darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

Brawf o gais newydd a gyflwynwyd gan ddefnyddio Cadarnhad Derbyn i Astudio wedi'i roi gan Brifysgol Aberystwyth - bydd angen ichi ddangos tystiolaeth y gwnaed y cais cyn i'ch fisa blaenorol ddod i ben. 

 

SYLWER: Bydd angen ichi ddod â'r dogfennau gwreiddiol canlynol i'r Gwiriad Rhag Gofrestru i Fyfyrwyr Rhyngwladol:

 

  • Llythyr clirio mynediad (os yw'n berthnasol)
  • Pasbort a fisa cyfredol (Trwydded Breswylio Fiometrig) (os yw'n berthnasol)
  • Trawsgrifiadau gwreiddiol neu dystysgrif radd fel y nodir yn eich Cadarnhad Derbyn i Astudio (os yw'n berthnasol)
  • Prawf o'ch gallu iaith Saesneg fel y nodir yn eich Cadarnhad Derbyn i Astudio (os yw'n berthnasol)
  • Tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) (os yw'n berthnasol)

 

Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dim cyfyngiadau astudio

Os ydych wedi rhoi tystiolaeth o’ch statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel rhan o’r broses derbyn, nid oes angen rhoi hyn eto
Fisa Ymweld

Dim cyfyngiadau astudio ar cysiau 6 mis o hyd

Vignette (sydd â stamp dyddiad mynediad arno neu dystiolaeth arall o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren)

neu

 

Stamp Fisa Ymweld yn eich Pasport

 

neu

 

Os ydych yn dod o un o’r wledydd sydd yn gyniatau chi i ddefnyddio e-gate rhaid i chi rhoi dystiolaeth o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren


 

Fisa astudio tymor byr (Cyrsiau Iaith Saeneg yn unig)

Dim cyfyngiad astudio ar gyfer cyrsiau sy'n para hyd at 11

Vignette (sydd â stamp dyddiad mynediad arno neu dystiolaeth arall o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren)

 

ac i gyrsiau o 6 mis neu fwy Trwydded Breswylio Fiometrig


 

System Pwyntiau

(Fisa Haen 1,2,5, Gweithiwr Medrus a.y.y.b)

Dim cyfyngiadau astudio ond, gan ddibynnu ar y math o fisa sydd genych, efallai y bydd disgwyl ichi astudio rhan-amser yn unig

Trwydded Breswylio Fiometrig

 

neu

 

Vignette

 

neu

 

Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

 

Dibynyddion y System Seiliedig ar Bwyntiau

Dim cyfyngiadau astudio

Trwydded Breswylio Fiometrig

 

neu

 

Vignette

 

neu

 

Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

 


 

Priod / Partner Sifil / Partner Dibriod Gwladolyn Prydeinig neu berson â statws sefydlog

Dim cyfyngiadau astudio

Trwydded Breswylio Fiometrig

 

neu

 

Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

Caniatâd Amhenodol i Aros neu Breswyliad Parhaol 

Dim cyfyngiadau astudio

 

Gallech golli'ch statws os ydych chi wedi bod y tu allan i'r DU am ddwy flynedd neu ragor yn ddi-dor ers ichi gael Caniatâd Amhenodol i Aros.

 

Trwydded Breswylio Fiometrig

 

neu

 

Vignette

 

neu

 

Stamp mewn pasbort

 

neu

 

Lythyr sy'n cadarnhau bod gennych Ganiatâd Parhaol i Aros

Lloches / Ffoaduriaid / Caniatâd yn ôl disgresiwn / Diogelwch dyngarol

Dim cyfyngiadau astudio

 

Trwydded Breswylio Fiometrig

 

neu

 

Vignette

 

neu

 

Ddogfen Statws Mewnfudo

 

neu

 

Lythyr sy'n cadarnhau eich bod wedi cael caniatâd parhaol i aros 

Ceiswyr lloches

Nid chaniateir ichi astudio fel rheol oni bai eich bod yn dal Cerdyn Cofrestru Cais, neu os yw eich Hysbysiad Mechnïaeth Fewnfudo yn nodi bod gennych ganiatâd i weithio ac i astudio.

Cerdyn Cofrestru Cais

 

Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad ac apeliadau

Os oes gennych chi gais sy'n aros am benderfyniad dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, neu, os ydych yn dal i aros am benderfyniad eich apêl yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod cais dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, efallai y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â'r Swyddfa Gartref i gadarnhau bod gennych hawl i astudio cyn y gallwch gofrestru ar eich cwrs.  Byddwn yn gofyn ichi am eich caniatâd cyn inni gysylltu â'r Swyddfa Gartref. Bydd y caniatâd hwn yn eu galluogi nhw i rannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch hanes / statws mewnfudo.