Absenoldeb Awdurdodedig i fyfyrwyr fisa

Mae'n ofynnol i'r Brifysgol fonitro ymwneud a phresenoldeb yn ystod y tymor.

Rhaid gwneud cais am absenoldeb awdurdodedig oddi allan i'r cyfnodau gwyliau cydnabyddedig, a phenderfynir ar bob achos yn unigol.

Absenoldeb Awdurdodedig ar gyfer Ôl-raddedigion a Ddysgir ac Israddedigion yn ogystal â Myfyrwyr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol

1. Myfyrwyr

Mae angen i chi anfon e-bost at eich  Cysylltiadau Cydymffurfiaeth Adrannol   i wneud cais am absenoldeb awdurdodedig. Rhowch yr wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

Dyddiad dechrau a diwedd yr absenoldeb

  • Y rheswm am y cyfnod o absenoldeb y gofynnwyd amdano
  • I ble byddwch yn teithio / eich lleoliad yn ystod y cyfnod absenoldeb.
  • Sylwch nad yw caniatâd llafar neu gytundeb anffurfiol yn dderbyniol. Rhaid gwneud cais ysgrifenedig.

Disgwylir i Fyfyrwyr Uwchraddedig a Ddysgir (a ddechreuodd eu cwrs ym mis Medi) fod yn Aberystwyth o fis Mehefin tan fis Medi. Nid cyfnod o wyliau yw hwn. Mae angen anfon unrhyw geisiadau am absenoldeb awdurdodedig yn ystod y cyfnod hwn yn uniongyrchol at arolygwr eich traethawd hir. Nid oes rhaid i arolygwr gytuno i unrhyw gais yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych chi'n sâl, mae angen i chi gyflwyno nodyn meddygol, neu unrhyw dystiolaeth arall y gofynnir amdani gan eich adran.

2. Cyswllt Cydymffurfiaeth yr Adran

Bydd eich Cyswllt Cydymffurfiaeth Adrannol yn anfon y cais ymlaen at yr aelod perthnasol o staff yr adran i'w gymeradwyo. Yna byddant yn anfon hwn ymlaen i'r Swyddfa Cydymffurfiaeth (conformity@aber.ac.uk )

3. Y Swyddfa Cydymffurfiaeth

Bydd y Swyddfa Cydymffurfiaeth yn asesu ac yn awdurdodi eich cais ac yn diweddaru eich cofnod presenoldeb.

Os ydych chi'n teithio y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, cewch lythyr a fydd yn amlinellu manylion eich taith. Dylech deithio â chopi o'r llythyr hwn pan fyddwch yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig gan ei bod yn bosibl y bydd staff rheoli ffiniau'r DU yn gofyn ichi roi tystiolaeth eich bod wedi cael caniatâd i adael y Brifysgol yn ystod y tymor.

 

Absenoldeb Awdurdodedig ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

1. Myfyriwr

Bydd angen ichi anfon ebost at eich goruchwyliwr academaidd yn gofyn am absenoldeb awdurdodedig, ac anfon copi o'r cais hwnnw a'r gymeradwyaeth at Gyswllt Cydymffurfiaeth yr Adran.

Sylwer nad yw cael caniatâd ar lafar na chytundeb anffurfiol yn dderbyniol. Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig.

Rhaid ichi nodi i le'r ydych yn mynd, am ba hyd, a pham.

2. Goruchwylydd Academaidd

Bydd eich goruchwylydd yn asesu eich cais.

Os ydynt yn fodlon awdurdodi eich absenoldeb, rhaid iddynt ddatgan yn ysgrifenedig h.y. mewn ebost, eu bod yn "cymeradwyo'r absenoldeb ac na fydd yr absenoldeb hwn yn effeithio ar eich dyddiad cyflwyno diweddaraf". Yna rhaid iddynt anfon eu caniatâd ymlaen ar ebost at y cyswllt yn yr adran, a fydd yn ei anfon ymlaen at y tîm cydymffurfiaeth.

3. Cyswllt Cydymffurfiaeth yr Adran

Bydd eich Cyswllt Cydymffurfiaeth Adrannol yn anfon y cais ymlaen at yr aelod perthnasol o staff yr adran i'w gymeradwyo. Yna byddant yn anfon hwn ymlaen i'r Swyddfa Cydymffurfiaeth (conformity@aber.ac.uk )

4. Y Swyddfa Cydymffurfiaeth

Bydd y Swyddfa Cydymffurfiaeth yn asesu ac yn awdurdodi eich cais ac yn diweddaru eich cofnod presenoldeb.

Os ydych chi'n teithio y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, cewch lythyr a fydd yn amlinellu manylion eich taith. Dylech deithio â chopi o'r llythyr hwn pan fyddwch yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig gan ei bod yn bosibl y bydd staff rheoli ffiniau'r DU yn gofyn ichi roi tystiolaeth eich bod wedi cael caniatâd i adael y Brifysgol yn ystod y tymor.

*Gwnewch yn siŵr bod eich cais am absenoldeb awdurdodedig wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo cyn gwneud eich trefniadau teithio yn derfynol. Bydd angen ychydig ddyddiau ar y Swyddfa Cydymffurfiaeth i baratoi'r llythyr, ond fel arfer byddant yn eu paratoi o fewn 48 awr i gael cymeradwyaeth eich goruchwylydd. Os nad ydych wedi cael eich llythyr cysylltwch â ni i ofyn beth yw hynt eich cais.

**Dylid gwneud ceisiadau am absenoldeb awdurdodedig yn ysgrifenedig ar ebost. Nid yw cael caniatâd ar lafar/yn anffurfiol yn dderbyniol.

 

Sylwer: Os ydych chi'n teithio y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, rhaid ichi ddilyn y broses absenoldeb awdurdodedig er mwyn cael llythyr i'w ddefnyddio wrth deithio ac i osgoi peryglu eich fisa.

Os ydych chi'n teithio o fewn y Deyrnas Unedig, rhaid ichi ddilyn y drefn absenoldeb awdurdodedig er mwyn osgoi peryglu eich fisa.