Ga' i weithio wrth astudio?

Mae'n ofynnol i chi edrych ar eich fisa, naill ai ar sticer y pasbort (caniatâd mynediad neu drwydded breswylio) neu ar eich trwydded breswylio fiometreg (cerdyn adnabod) er mwyn gweld a oes gennych chi hawl i weithio neu beidio yn ystod eich cyfnod yn y Deyrnas Unedig.

Sylwch fod gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol i wirio eich bod yn cael gweithio yn y Deyrnas Unedig a rhaid i chi allu darparu tystiolaeth iddynt trwy ddangos eich fisa. Rhaid i chi hefyd roi gwybodaeth i'ch cyflogwr ynghylch dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs er mwyn i'ch cyflogwr wybod pryd bydd modd i chi weithio'n rhan-amser (yn ystod y tymor) neu'n llawn amser (dros y gwyliau). Rhaid i'r wybodaeth hon fod ar un o'r ffurfiau canlynol:

  • Allbrint o wefan y brifysgol yn dangos dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (mae'r wybodaeth hon i'w gweld ar y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/dates-of-term/);
  • Copi o lythyr neu e-bost gan y brifysgol yn cadarnhau dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, inimadadvice@aber.ac.uk i ofyn am y cadarnhad);
  • Llythyr gan y brifysgol at eich cyflogwr yn cadarnhau dyddiadau tymor a gwyliau eich cwrs (cysylltwch â'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, inimadadvice@aber.ac.uk i ofyn am y llythyr).

Sylwch fod y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y mae disgwyl i gyflogwyr ei wirio a lle dylai cyflogwyr fynd i wirio hawl unigolyn i weithio; mae'r canllaw hwn ar gael ar y ddolen ganlynol: www.gov.uk/government/collections/employers-illegal-working-penalties.