Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n cymryd rhan yn y gweithgareddau sydd wedi'u hamserlennu?

Mae'n rhaid i Brifysgol Aberystwyth fonitro eich ymroddiad a'ch presenoldeb yn rhan o'i chyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr sy'n cael eu noddi ar Fisa Myfyrwyr yn ymroi i’w hastudiaethau.

Eich cyfrifoldeb chi:

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'n rhaid ichi ymroi i’ch cwrs yn llawn. Os na fyddwch yn ymroi i’ch astudiaethau fel y nodir yn y Polisi Ymroddiad Academaidd gallech gael eich gwahardd o’r Brifysgol, gellid tynnu eich nawdd yn ôl a gellid dod â’ch fisa i ben.

Os bydd eich Adran neu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth yn cysylltu â chi ynglŷn â’r graddau yr ydych yn ymroi i’ch astudiaethau, rhaid ichi ymateb a rhoi rheswm dros unrhyw absenoldeb neu esbonio pam nad ydych yn ymroi i’ch astudiaethau.