Beth sy'n digwydd os byddaf yn cwblhau fy nghwrs yn gynnar?

Os dyfernir eich gradd cyn dyddiad diwedd y cwrs a nodir ar eich Cadarnhad Derbyn i Astudio, mae angen i'r Brifysgol roi gwybod i'r Swyddfa Gartref eich bod wedi cwblhau’r cwrs yn gynnar a thynnu’r nawdd tuag at eich fisa yn ôl.

Pan fydd yr adroddiad hwnnw’n barod, bydd Fisâu a Mewnfudo y DU yn dweud wrthych chi erbyn pryd y bydd yn rhaid ichi adael y DU.

Ewch i wefan UKCISA i gael gwybodaeth am y dyddiadau y daw caniatâd mewnfudo i ben ac i gael gwybod yn bendant faint o amser fydd gennych i gau pen y mwdwl ar eich astudiaethau: https://www.ukcisa.org.uk/