Rheoli Cofnodion
Beth yw Rheoli Cofnodion?
- “Maes rheolaeth sy’n gyfrifol am reoli creu, cynnal a chadw, defnyddio a chael gwared â chofnodion mewn modd effeithlon a systematig”[1]
- Nod Rheoli Cofnodion yw sicrhau fod pob gwybodaeth a gofnodir yn cael ei greu, ei gynnal, ei reoli a’i waredu mewn modd sy’n hwyluso’r defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol ohoni.
Beth y mae rheoli cofnodion yn ei olygu i’r brifysgol?
Mae’n rhaid i’r Brifysgol, ynghyd â sefydliadau eraill ledled y DU, weithio tuag at gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n gofyn am y lleiafswm ym maes cadw cofnodion. Mae’r Brifysgol yn credu hefyd y bydd yn ennill nifer o fanteision trefniadol o weithredu rhaglen rheoli cofnodion. Dylai’r rhain gynnwys:
- Defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o le corfforol ac i weinyddwyr
- Defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o amser staff
- Gwell rheolaeth ar adnoddau gwybodaeth gwerthfawr
- Cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau
Beth y mae’r Brifysgol yn ei wneud ynglÿn â rheoli cofnodion?
Mae’r Brifysgol wedi penodi rheolwr cofnodion.
- Ar hyn o bryd mae’r Rheolwr Cofnodion yn cynnal archwiliad gwybodaeth o BOB adran yn y brifysgol.
- Bydd polisi a strategaeth Rheoli Cofnodion yn cael ei lunio a’i weithredu i symud y brifysgol yn ei blaen
- Bydd canllawiau a threfnau penodol yn drefnau ar bynciau penodol fel cadw cofnodion.
Sut all Rheoli Cofnodion fy helpu i?
Mae Rheolwr Cofnodion y Brifysgol ar gael i roi cyngor i bob adran weinyddol ac academaidd yn y Brifysgol.Y nod yw sicrhau fod yr holl wybodaeth a gofnodir yn cael ei greu, ei gynnal a’i waredu mewn modd sy’n hwyluso ei ddefnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol. Efallai y gall y Rheolwr Cofnodion eich helpu ag un neu’r cyfan o’r dulliau canlynol:
- Cyngor ynglÿn â phob agwedd ar gadw cofnodion.
- Dinistrio cofnodion ('marw') yn gyfrinachol pan ddônt i ddiwedd eu hoes waith .
- Nodi a throsglwyddo’n fuan ddeunydd archifol i’r archif i’w cadw’n barhaol.
BS ISO 15489 Information and documentation --Records management