Adolygiad Mewnol
Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd mae’r Brifysgol wedi trafod eich cais, gallwch gysylltu â ni i ofyn am adolygiad mewnol. Er enghraifft:
- Os na wnaethoch chi dderbyn yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani.
- Os ydych yn teimlo nad oedd yr eithriadau wedi’u defnyddio’n gywir.
- Os ydych yn teimlo na ddylai’r ffi fod wedi ei chodi.
- Os na wnaethoch chi dderbyn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, rhaid cyflwyno cais am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i ymateb olaf y Brifysgol.
Cyn gwneud cais am adolygiad mewnol, efallai y bydd canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd gwybodaeth ar eich hawl i ofyn am wybodaeth gan sefydliad cyhoeddus’ yn ddefnyddiol.