Yn y rhan fwyaf o achosion, os gwneir cais am wybodaeth sylfaenol ynghylch unigolyn penodol a digwyddiad penodol (e.e. cadarnhad o statws myfyriwr, cyfeiriad, rhif ffôn, tebygolrwydd o leoliad yr unigolion ar unrhyw adeg), mae’r Brifysgol yn debygol o ymateb yn gadarnhaol. Dylid nodi y gallai gwrthrych y data fod yn ddioddefwr, yn dyst posibl neu dan amheuaeth o bosibl.
Mewn achosion lle cyflwynwyd cais am lawer iawn o wybodaeth, neu wybodaeth a ystyrir yn sensitif / categori arbennig yn ôl y ddeddfwriaeth diogelu data (e.e. iechyd corfforol neu feddyliol, rhywioldeb) bydd y staff awdurdodedig yn ystyried perthnasedd a chymesuredd y cais.
Yn yr un modd, os darperir disgrifiad yn unig, a bod nifer o wrthrychau data posibl, mae’n rhaid ystyried yn fanylach ba wybodaeth y gellir ei datgelu, ynghyd â’r tebygolrwydd o sgwrsio’n uniongyrchol â’r swyddogion dan sylw.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu bryderon cysylltwch ag llywodraethugwyb@aber.ac.uk