Ymweld â ni

Beth bynnag fo’ch diddordebau a'ch maes astudio – gwaith myfyrwyr, addysgu ac ymchwil academaidd, hanes teuluol, ymchwil bersonol, prosiectau ysgol - dewch i weld beth sydd gennym yn archifau'r Brifysgol a allai eich helpu.  

Yn anffodus, nid oes gennym yr adnoddau i ymgymryd ag ymchwil helaeth sy'n cynnwys ein harchifau, ond rydym yn hapus iawn i helpu ymchwilwyr i wneud defnydd effeithiol o'n deunydd. 

Lleoliad ac amseroedd agor

Mae archifau ac ystafell ddarllen y Brifysgol wedi'u lleoli yn adeilad yr Arglwydd Milford yng Ngogerddan, ar y llawr cyntaf, sy'n gwbl hygyrch. Mae lifft wedi'i leoli i'r chwith o ardal y cyntedd pan fyddwch yn mynd i mewn i'r adeilad. 

Ein horiau agor yw: 

Dydd Llun i ddydd Mercher

09:00-17:00 

Ar gau dros ginio 12:30-13:30* 

*Mae’n bosibl y gallwn fod yn hyblyg o ran amser cinio. Ni chaniateir bwyta nac yfed yn yr archifau. Mae caffi Blas Gogerddan wedi'i leoli ar draws y ffordd ac mae'n cynnig bwyd a diodydd poeth ac oer. 

Rydym ar gau ar ddiwrnodau gwyliau cyhoeddus a diwrnodau pan fo’r Brifysgol ar gau, gan gynnwys am wythnos lawn adeg y Nadolig a'r Pasg. 

Mae maes parcio am ddim o flaen yr adeilad. Fel arall, os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae safle bws y tu allan, a dim ond oddeutu pymtheg munud ar droed ydyw i orsaf drenau Bow Street. 

Mae rhai o'n casgliadau wedi'u lleoli ar gampws Penglais felly, gan ddibynnu ar ba ddeunydd y mae gennych ddiddordeb ynddo, efallai y bydd gofyn i chi ymweld â'r ystafell ymgynghori sydd wedi'i lleoli yn Llyfrgell Hugh Owen 

Gwneud apwyntiad

Gofod cyfyngedig sydd gennym, felly, os ydych chi'n bwriadu ymweld â ni, mae'n hanfodol eich bod yn archebu lle ymlaen llaw trwy gysylltu â ni ar archives@aber.ac.uk. Fel arfer, fe'ch cynghorir i wneud apwyntiad wythnos ymlaen llaw i sicrhau y gallwn gwrdd â’ch anghenion. Yna byddwn yn cadarnhau dyddiad ac amser eich apwyntiad drwy e-bost. 

Nid oes angen archebu deunydd archifol ymlaen llaw, ond bydd yn cyflymu pethau os gallwch wneud hyn. 

Yn ystod eich ymweliad

Yn ystod yr oriau agor uchod, bydd y drws i'r adeilad yn cael ei ddatgloi. Fodd bynnag, er mwyn rhybuddio staff yn yr archifau eich bod wedi cyrraedd, canwch gloch y drws, ar ochr dde'r drws. Dewch i mewn a bydd aelod o staff gyda chi cyn bo hir, a gofynnir i chi: 

  • Ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi. Dylai staff a myfyrwyr y Brifysgol ddod â'u Cerdyn Aber dilys a dylai darllenwyr allanol ddod â cherdyn adnabod gyda nhw sy'n dangos eu ffotograff a'u cyfeiriad (pasbort neu drwydded yrru fel arfer).  
  • Golchwch eich dwylo cyn i chi fynd i mewn i'r ystafell ddarllen. 
  • Darllenwch y Rheolau i Ddarllenwyr a llofnodi’r Datganiad Darllenwyr.