Ein Cyfleusterau
Mae gennym gyfleusterau, adnoddau a chyfarpar rhagorol a fydd o gymorth ichi ar ein holl fodiwlau.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy.
Ymhlith ein cyfleusterau mae:
- tair stiwdio berfformio â chyfarpar cyflawn
- stiwdio deledu ac oriel
- labordy ffilm analog
- stiwdio recordio sain
- editing and grading suites
- sinema
- tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar cyflawn
- cyfarpar gwisgoedd a wardrob
- stiwdio senograffeg benodol yng nghanol y dre
- y tirlun lleol: adnodd sy'n ysbrydoli'n greadigol.
Stiwdio Teledu RGJ | Cyntedd |
---|---|
Stiwdio Emily Davis | Sinema Parry Williams |
Rydym wedi’n lleoli yn agos at y sefydliadau canlynol ac wedi meithrin perthynas agos â hwy:
- Canolfan y Celfyddydau - cartref i theatr prif lwyfan, theatr stiwdio, neuadd gyngherddau, pedair oriel a sinema
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a’r Archif Darlledu Cenedlaethol.
Yn y dref a'r cyffiniau mae cyfoeth o leoliadau a safleoedd ar gyfer perfformio a ffilmio sy'n cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae'r lleoliadau hyn, ynghyd â chyfleusterau Canolfan y Celfyddydau, yn cwrdd ag amrywiaeth eang anghenion ein myfyrwyr, staff ac ymarferwyr gwadd.
I wneud ymholiad ynglŷn ag defnyddio ein cyfleusterau, anfonwch e-bost i tftstech@aber.ac.uk