Realiti rhithwir a thechnoleg gêm fideo yn trawsnewid drama radio

Y profiad rhith-realiti rhyngweithiol ym Mhrifysgol Aberystwyth
21 Chwefror 2025
Gallai realiti rhithwir a thechnegau gemau fideo roi bywyd newydd i ddramâu radio a theatr.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi trawsnewid drama radio a ysgrifennwyd fwy nag 20 mlynedd yn ôl yn brofiad rhith-realiti rhyngweithiol (VR).
Caiff cynulleidfaoedd gyfle i brofi’r ddrama Mapping the Soul mewn ffordd unigryw ac ymdrochol drwy wisgo setiau pen VR.
Maen nhw’n symud trwy gyfres o leoliadau a gynhyrchir gan gyfrifiadur, gan ddilyn y prif gymeriad Adam a rhyngweithio ag ef wrth iddo fynd ar daith athronyddol trwy ei isymwybod i chwilio am ei enaid.
Darlledwyd Mapping the Soul am y tro cyntaf ar BBC Radio 4 yn 2004 ac fe’i ysgrifennwyd gan y dramodydd Dr Lucy Gough, sy’n Gymrawd Ymchwil Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Mae Dr Gough wedi bod yn gweithio gyda Dr Piotr Woycicki, darlithydd mewn Theatr a Chyfryngau Newydd yn Aberystwyth, i ailweithio ei drama radio a’i thrawsnewid yn brofiad rhithwir.
Cafodd eu hymchwil ei gynnwys fel rhan o Her y Coroni, a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol ac sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr o brifysgolion a cholegau a enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar, yr anrhydedd uchaf i’w dyfarnu ym myd addysg.
Dros gyfnod o flwyddyn, bu’r fenter ymchwil yn edrych ar sut y gall y cyfuniad o greadigrwydd ac egin dechnolegau - a elwir yn CreaTech - ysgogi arloesedd, creu swyddi a gosod y Deyrnas Gyfunol fel arweinydd byd-eang yn y diwydiannau creadigol.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau mewn adroddiad mawr newydd ym mis Chwefror 2025, The Coronation Challenge: CreaTech Report, gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a’r Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol.
Dywedodd Dr Piotr Woycicki o Adran Astudiaethau Teledu, Ffilm a Theatr Prifysgol Aberystwyth: “Roedd ein prosiect yn profi galluoedd unigryw VR a sut y gellir defnyddio’r dechnoleg at ddibenion dramatig a naratif. Roedden ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyfrannu at adroddiad CreaTech, sy’n dangos sut y gall creadigrwydd ac egin dechnolegau ryngweithio i dyfu’r diwydiannau creadigol a chael effaith gryfach fyth ar yr economi a chymdeithas. Ein gobaith yw y bydd ein hymchwil yn ysbrydoli cynhyrchwyr theatr i ymgysylltu mwy â chrewyr gemau VR a thechnoleg greadigol a chydweithio â dramodwyr i greu cynnwys mwy theatrig.”
Dywedodd Dr Lucy Gough:
“Trwy droi Mapping My Soul yn brofiad rhith-realiti, rydyn ni’n gallu edrych yn fanwl ar alluoedd unigryw VR, megis ymgorfforiad rhithiol ac amgyffrediad synhwyraidd, i gyfoethogi adrodd straeon ac ymgysylltu â’r gynulleidfa. Yn ogystal â darparu llwyfan arall i ystyried y dychymyg creadigol, rydyn ni hefyd yn dangos bod ffyrdd newydd o ddod â’r ddrama radio i’r arena gyhoeddus a bod cyfrwng arall yn esblygu a all ysgogi naratifau ffres a phosibiliadau dramatig.”
Mae prototeip o Mapping the Soul VR ar gael am ddim ar-lein ond bydd angen i wylwyr ddefnyddio eu clustffonau VR eu hunain i ddilyn y ddrama. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i rannu’r fersiwn derfynol yn fyd-eang ar blatfform Steam ac i lwyfannu dangosiadau cyhoeddus mewn theatrau neu orielau.
Derbyniodd prosiect Mapping the Soul VR gefnogaeth hefyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW – a elwir bellach yn Medr).