Eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr ym mhob agwedd o’u bywyd fel myfyriwr, rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac adnoddau i bob myfyriwr i’w cefnogi yn ystod eu hamser yma. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r heriau a gyflwynir gan gostau byw a sut mae hyn yn effeithio ar ein myfyrwyr.

Bydd myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf sy’n astudio yn Aberystwyth o fis Medi 2024 yn elwa ar:

Ystyrir Aberystwyth yn lle fforddiadwy i fyw ynddo o gymharu â llawer o drefi a dinasoedd prifysgol eraill ac mae wedi'i gosod ymhlith y 5 Dinas Myfyrwyr rhataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr gan Student Crowd.

Bywyd Myfyrwyr

Yn Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i gynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr, cawsom ein gosod ar y Brig yng Nghymru a Loegr ar gyfer fodlonrwydd myfyrwyr (ACF 2022) ac ar y Brig yng Nghymru (ACF 2023). Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i dros 100 o glybiau a chymdeithasau. Cefnogi ein myfyrwyr yw un o’n prif flaenoriaethau, ac mae tîm ymroddedig y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig y cyngor ymarferol, emosiynol ac ariannol angenrheidiol i'ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.

Dysgu mwy

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Yn Aberystwyth, cynigiwn ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael i roi cymorth ariannol i chi wrth astudio. Mae myfyrwyr yn gymwys i ennill mwy nag un dyfarniad sy'n golygu y gallech gael dros £18,000.

Mae ein hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau blaenllaw yn cynnwys:

  • Ysgoloriaethau Rhagoriaeth
  • Ysgoloriaethau Mynediad
  • Gwobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Ysgoloriaethau Cerdd
  • Ysgoloriaethau Chwaraeon.

Ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau

Astudio Dramor

Bydd myfyrwyr ar bron bob cynllun gradd yn cael cyfle i astudio neu weithio dramor. Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnwys blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys semester neu flwyddyn academaidd gyfan yn astudio yn un o'n prifysgolion partner neu'n cyflawni lleoliad profiad gwaith sy’n gysylltiedig â'ch gradd. Bydd ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn eich cynorthwyo i weld yr hyn sydd orau i chi.

Darganfod y byd yn Aberystwyth

Ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am fod yn ymchwil arweiniol ar lefel fyd-eang (FfRhY 2021). Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at brosiectau byd-eang sylweddol, yn cynnwys y Newid yn yr Hinsawdd a materion iechyd byd-eang. Yn Aberystwyth, cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd sy'n cymhwyso’u hymchwil i'w gwaith addysgu.

Dysgu mwy