Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn gartref i gymuned academaidd Gymraeg fywiog ac amrywiol, ac rydym yn awyddus iawn i’ch croesawu atom i fanteisio ar y bywyd academaidd hwnnw yn ogystal â’r cyfleoedd euraidd i fod yn rhan o fywyd cymdeithasol byrlymus y Brifysgol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ysgoloriaethau

Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.  Hefyd, bydd myfyrwyr sy’n astudio dros bum credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg yn derbyn Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig. 

  • Ysgoloriaethau Prif Ysgoloriaeth - £1,000 y flwyddyn
    Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg - sef o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.
  • Ysgoloriaethau Cymhelliant - £500 y flwyddyn
    Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 120 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn pwnc cymwys, o leiaf 40 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn. 

Dysgu mwy

Cyflogadwyedd

Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgil fanteisiol iawn yn y gweithle, ac mae astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn rhoi mantais ichi yn y farchnad swyddi, nid yn unig dros ymgeiswyr di-Gymraeg ond hefyd ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg ond sydd heb ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefel raddedig. Hefyd, mae cyflog graddedigion sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. 

Dysgu mwy