Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg

Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg; Darlithydd Gymraeg; Darlith Gymraeg

Hyd at £400 y flwyddyn - Bwrsariaeth i annog siaradwyr Cymraeg i ddilyn cyfran neu’r cwbl o’u cwrs drwy’r Gymraeg.

Sut mae gwneud cais?

Does dim rhaid gwneud cais. Bydd pawb sy’n cofrestru ar fodiwlau cymwys yn derbyn y taliad yn awtomatig.  Bydd manylion y modiwlau cymwys ar gael pan gofrestrwch ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.

Beth yw gwerth yr Ysgoloriaeth?

Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ym Medi 2024:

  • £200 i fyfyrwyr sy'n astudio 5 – 24 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £250 i fyfyrwyr sy'n astudio 25-44 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £300 i fyfyrwyr sy'n astudio 45-64 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £350 i fyfyrwyr sy'n astudio 65-84 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £400 i fyfyrwyr sy'n astudio 85+ o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu yn syth i’ch cyfrif banc ar ddechrau mis Mawrth ym mhob blwyddyn pan fyddwch yn gymwys.

 

Telerau ac Amodau llawn.