Ysgoloriaeth Defi Fet

Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr rhagorol sy’n dilyn eu hastudiaethau drwy’r Gymraeg dros 5 mlynedd eu gradd.   Byddant yn derbyn £500 y flwyddyn a mentora gan fentor profiadol yn y maes yng Nghymru.  Rhaid ymgeisio am yr ysgoloriaeth cyn dod i Brifysgol Aberystwyth.  Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i ddeiliaid ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg.  Disgwylir i ddeiliaid hefyd cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn RVC, rhaid i ddeiliaid yr ysgoloriaeth ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (EMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.  Bydd y sawl sy’n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i’r agweddau cyfrwng Cymraeg.  Mae un ysgoloriaeth ar gael yn flynyddol.  Dyfarnir yr ysgoloriaeth ar sail y meini prawf canlynol:

  • Graddau ardderchog yn yr ysgol / prifysgol
  • Awydd i astudio drwy’r Gymraeg a asesir drwy ddarn ysgrifenedig 500 gair ar bwnc gosod
  • Argymhelliad gan athro
  • Dal Prifysgol Aberystwyth fel dewis cyntaf, gan gynnwys prawf o hyn

Rhaid cynnwys tystiolaeth eich bod yn dal Prifysgol Aberystwyth fel eich dewis cyntaf (e.e. e-bost gan UCAS). Atodwch y dystiolaeth ar y dudalen nesaf. Ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried heb y dystiolaeth hwn