Bwrsariaeth Gwyneth Evans - £500
£500 y flwyddyn
Gwnaed yn bosibl trwy rodd hael i'r Brifysgol gan y diweddar Gwyneth Evans.
Yn agored i israddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn unrhyw bwnc sydd:
- mewn caledi ariannol
- a naill ai wedi eu geni yng Ngheredigion neu wedi byw yng Ngheredigion am y 3 blynedd cyn gwneud cais
Cyflwynwch eich cais, gan gynnwys tystiolaeth o'r uchod i ysgoloriaethau@aber.ac.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer Ymgeiswyr Mynediad 2025 yw 30 Awst 2025