Cyfarwyddiadau Mathemateg a chyfrifiannell
Dylid darparu'r adnoddau canlynol i ymgeiswyr sy'n sefyll y papurau arholiad yma:
- Mathemateg a Mathemateg Bellach - Tablau Ystadegol
- Mathemateg a Mathemateg Bellach - bydd angen darparu papur llinellau A4 ar gyfer ymgeiswyr Mathemateg a Mathemateg Bellach
Mae hawl gan ymgeiswyr i ddefnyddio cyfrifianellau nad ydynt yn rhaglenadwy ar gyfer y papurau canlynol:
- Busnes a Rheolaeth
- Cemeg
- Cyfrifeg a Chyllid
- Economeg
- Ffiseg
- Mathemateg a Mathemateg Bellach
Ni chaniateir defnyddio unrhyw ddeunyddiau, testunau, na geiriaduron yn yr arholiadau.