Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth - Mynediad yn 2025

Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod; myfyriwr yn llyfrgell

Gallwch ennill £3,000 a chynnig diamod i astudio gyda ni!

I gael eich ystyried ar gyfer ein Hysgoloriaethau Prifysgol a Gwobrau Teilyngdod bydd angen i chi sefyll dau bapur arholiad mewn pynciau o'ch dewis* gyda'r arholiadau yn cael eu cynnal yn eich ysgol/coleg.

*Sicrhewch eich bod yn dewis papurau arholiad sy'n dderbyniol i'r Adran(nau) yr ydych wedi gwneud cais i astudio ynddynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi dewis pynciau priodol. Gall methu â gwneud hynny arwain at eich cais am yr ysgoloriaeth yn cael ei wrthod. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod cyn gwneud cais.

Os na fyddwch yn llwyddo i ennill dyfarniad ariannol a/neu gynnig diamod, bydd eich cynnig gwreiddiol yn aros yr un fath. Beth am roi cynnig ar yr arholiadau i weld a allwch wella'ch cynnig? Does dim byd i’w golli!

Sylwch nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Milfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.


Trosolwg o'r arholiadau

Pa wobrau sydd ar gael?

Ysgoloriaeth y Brifysgol – £1,000 y flwyddyn

Mae gennym 50 o Ysgoloriaethau’r Brifysgol i’w dyfarnu i’r ymgeiswyr sy’n cael y marciau cyfunol uchaf yn y ddau bapur arholiad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £1,000 ym mhob blwyddyn o’u cwrs a chynnig diamod.

Gwobr Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf

Rydym yn cynnig tua 100 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda yn yr Arholiadau ond yn methu o drwch blewyn â chael Ysgoloriaeth. Bydd deiliaid Gwobrau Teilyngdod yn derbyn £1,000 yn ystod eu blwyddyn gyntaf a chynnig diamod.

Cynig Diamod*

Gall perfformiad cryf yn yr Arholiadau arwain at y Brifysgol yn cadarnhau lleoedd ymgeiswyr heb fwy o amodau gan arwain at gynnig diamod trwy UCAS. Mae’n bosib bydd ymgeiswyr sy’n colli allan ar wobr o drwch blewyn yn derbyn cynnig diamod ar sail perfformiad cryf yn yr Arholiadau.

Os na fyddwch yn llwyddo i ennill dyfarniad ariannol a/neu gynnig diamod, bydd eich cynnig gwreiddiol yn aros yr un fath. Beth am roi cynnig ar yr arholiadau i weld a allwch wella'ch cynnig? Does dim byd i’w golli! 

Noder bod meini prawf cymhwysedd a dyfarniadau yn wahanol i ymgeiswyr rhyngwladol. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen hon.

*Noder bod y Cynnig Diamod ar gyfer y cwrs/cyrsiau yr ydych eisoes wedi gwneud cais amdano/amdanynt. Ni fydd modd i chi addasu eich cwrs yn dilyn canlyniadau Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth ac Arholiadau’r Wobr Teilyngdod. Nid oes unrhyw wobr ariannol gyda'r cynnig diamod. 

Sut fydd yr arholiadau ar-lein yn gweithio?

Sicrhewch eich bod yn darllen y Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr - 2024 ac yn gwylio'r fideo ar Sut i Gwblhau'r Arholiadau fel eich bod yn ymwybodol o drefn yr arholiadau ymlaen llaw. 

Gwnewch yn siwr hefyd eich bod wedi ymgyfarwyddo â'r Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da

Pryd a Ble mae'r Arholiadau?

Pryd?

Bydd yr arholiadau ar gyfer mynediad 2025 yn cael eu cynnal ar Ddydd Gwener, 7 Chwefror 2025.
Cofiwch gyflwyno cais erbyn 4pm Dydd Gwener, 31 Ionawr er mwyn i'ch cais gael ei ystyried. 

Ble?

Yn eich Ysgol neu Goleg yn y DU*. Cysylltwch ysgoloriaethau@aber.ac.uk os nad yw eich Ysgol neu Goleg yn gallu cynnal yr arholiadau. 

*Mae ymgeiswyr rhyngwladol israddedig o wledydd dethol yn gymwys ar gyfer yr arholiadau. Os nad yw ymgeiswyr rhyngwladol yn mynychu ysgol gymwys (e.e. Ysgol Ryngwladol), efallai y bydd opsiwn i sefyll yr arholiadau yn un o swyddfeydd y Cyngor Prydeinig. Byddai unrhyw drefniadau o'r fath ar draul yr ymgeisydd, a byddai angen iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol yn uniongyrchol gyda'r Cyngor Prydeinig cyn cyflwyno eu ffurflen gais.

 

Beth yw'r arholiadau Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth?

  1. Mae Arholiadau Ysgoloriaeth a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth yn arholiadau ar-lein gwbl ddewisol sy’n rhoi cyfle i’n hymgeiswyr israddedig sicrhau dyfarniad ariannol a/neu gynnig diamod.
  2. Cynhelir yr arholiadau ar-lein a bydd angen defnydd o gyfrifiadur eich ysgol/coleg gyda Microsoft Word, cysylltiad â’r rhyngrwyd, a phorwr gwe Chrome (neu Firefox) er mwyn cael mynediad at y papurau arholiad a’u cyflwyno. Byddwch chi, a’ch ysgol/coleg, yn derbyn cyfarwyddiadau llawn cyn diwrnod yr arholiadau. Os oes gennych amgylchiadau arbennig sy'n eich atal rhag cwblhau'r arholiadau ar gyfrifiadur, nodwch hyn ar eich ffurflen gais.
  3. Bydd ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiadau Mathemateg a Mathemateg Bellach yn derbyn cyfarwyddiadau ychwanegol ar sut i gyflwyno eu papurau.
  4. Bydd ymgeiswyr sy'n dewis cyflwyno Portffolio Celfyddyd Gain neu Bortffolio Ffotograffiaeth fel un o'u harholiadau yn derbyn cyfarwyddiadau ychwanegol ar sut i gyflwyno eu papurau arholiad. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu portffolio digidol erbyn diwedd diwrnod yr arholiadau. Yn ogystal, nodwch mai dim ond UN portffolio y gellir ei gyflwyno ar gyfer Arholiadau Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth. 
  5. Byddwch yn sefyll dau arholiad o'r dewis o bynciau a gynigiwn (Strwythur yr Arholiadau a Chyn Papurau).
  6. Mae pob arholiad yn para am awr a hanner, a bydd y ddau ar yr un diwrnod.
  7. Caiff yr arholiadau eu gosod a'u marcio gan ein hadrannau academaidd, felly nid ydynt yn dilyn unrhyw faes llafur penodol, ond dylent fod yn safon debyg i arholiadau Safon Uwch.

Beth sy'n cael ei ganiatáu i fynd i'r ystafell arholiad?

Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd â ffonau symudol, oriawr digidol (smart watch) nag unrhyw ddyfeisiau digidol tebyg i fewn i'r Arholiadau.  Oni noder yn wahanol isod, ni chaniateir defnyddio testunau, geiriaduron, atlas, nac ychwaith unrhyw ddogfennau neu gyfarpar ychwanegol yn yr arholiadau:

  • Busnes a Rheolaeth– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Celf (Portffolio) – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Cemeg– darperir tabl cyfnodol a gellir defnyddio cyfrifiannell.
  • Cyfrifeg a Chyllid – gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Economeg– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Ffiseg– bydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chynnwys yn y papur, ond gall yr ymgeiswyr fynd ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ a ganiateir gan eu Byrddau Arholi i’r ystafell arholiad i’w defnyddio yn yr arholiadau hynny os hoffent. Caiff yr ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg).
  • Ffotograffiaeth (Portffolio) – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Mathemateg– Gall ymgeiswyr fynd ag unrhyw lyfrynnau gwybodaeth neu dablau ystadegol a gymeradwyir gan eu bwrdd arholi i'w defnyddio mewn arholiadau i'r arholiad. Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau bwrdd arholi Safon Uwch.

Canlyniadau a Thaliadau

Canlyniadau

Byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr a Swyddogion Arholiadau 4-6 wythnos o’r arholiadau a gynhelir i roi gwybod iddynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus, neu’n aflwyddiannus yn eu hymgais i sicrhau Ysgoloriaeth Prifysgol, Gwobr Teilyngdod, a/neu Gynnig Diamod yn seiliedig ar eu perfformiad yn yr arholiadau.

Taliadau*

Bydd deiliaid Gwobr Ysgoloriaeth neu Deilyngdod y Brifysgol yn derbyn taliadau mewn dau randaliad cyfartal (Rhagfyr a Mawrth) yn uniongyrchol i mewn i'w cyfrif banc ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr gyda ni. Atgoffir deiliaid Gwobr Ysgoloriaeth a Theilyngdod y Brifysgol i nodi eu manylion banc ar eu porth myfyrwyr (o dan 'Gwybodaeth Bersonol') er mwyn i ni allu gwneud y taliadau.

*Sylwer nad oes dyfarniad ariannol gyda’r Cynnig Diamod.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Canllaw i Ymgeiswyr

Cynghorir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â'n Canllawiau i Ymgeiswyr 2025 ynghyd a'r Fideo Cyfarwyddiadau Uwchlwytho

Os ydych yn cyflwyno Portffolio Celfyddyd Gain, Portffolio Ffotograffiaeth, Papur Arholiad Mathemateg neu Fathemateg Bellach, byddwch yn defnyddio Blackboard Assignments i gyflwyno eich papur(au). Cynghorir ymgeiswyr ar gyfer y pynciau hyn i adolygu'r Canllawiau ar gyfer Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Mathemateg a Mathemateg Pellach 2025

Cynghorir pob ymgeisydd i ymgyfarwyddo â'r
 Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da Annheg ar gyfer yr Arholiadau

Pa bapurau arholiad ddylwn i eu dewis?

  1. Gwiriwch eich Gofynion Adrannol - Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer gwobr a/neu gynnig diamod mae’n bwysig dewis papurau arholiad sy’n dderbyniol i’r Adran(nau) yr ydych wedi gwneud cais i astudio ynddi/ynddynt.
  2. Dewiswch bapurau arholiad perthnasol - Sicrhewch eich bod yn dewis pynciau sy’n berthnasol i’r cynllun gradd rydych am ei astudio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi dewis pynciau priodol. Os na fyddwch yn sefyll arholiadau mewn pynciau priodol, gallai hynny olygu na fyddwch yn gymwys i gael gwobr a/neu gynnig gostyngol.
  3. Edrychwch ar Hen Bapurau - Mae’n syniad da edrych ar rai o Hen Bapurau’r Arholiadau er mwyn cael syniad o’r math o gwestiynau sy’n debygol o gael eu gofyn, ac ar ba lefel, ond cofiwch y gall ffurf y papurau cwestiynau newid o flwyddyn i flwyddyn.

Os ydych yn ymgeisio am gwrs sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen ac yn ansicr am ba bynciau i’w dewis, cysylltwch â ni: ysgoloriaethau@aber.ac.uk 

Sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Milfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Beth os oes gennyf ofynion arholi arbennig?

Ymgynghorwch â'ch Swyddog Arholiadau ynghylch unrhyw drefniadau sydd gennych ar gyfer arholiadau ysgol/coleg arferol.

Gweler ein Polisi ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll yr Arholiadau.

Sut i ymgeisio

  1. Gofynnwch am ganiatâd y Swyddog Arholiadau i sefyll yr arholiadau ar-lein yn eich ysgol/coleg ar Ddydd Gwener, 7 Chwefror 2025. Bydd angen eu manylion cyswllt ar eich ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm Dydd Gwener, 31 Ionawr 2025.
  2. Gwiriwch ein tudalen we i weld pa ddau bapur arholiad y dylech eu dewis. Mae gan bob adran ofynion penodol a'ch cyfrifoldeb chi yw dewis pynciau sy'n berthnasol i'r cynllun gradd rydych am ei ddilyn. Gall methu â gwneud hynny effeithio ar eich cymhwysedd am wobr.
  3. Cyflwynwch eich cais ar-lein*. Rhaid gwneud hyn mewn un eisteddiad. Dylech gael e-bost cadarnhau yn dilyn eich cyflwyniad. Cysylltwch â ni os na fyddwch yn cael yr e-bost hwn: ysgoloriaethau@aber.ac.uk  

*Dylai ymgeiswyr rhyngwladol sydd â diddordeb ymweld â’r dudalen we hon i wirio eu cymhwysedd cyn cyflwyno cais. 

Sylwer: Er bod yn rhaid i chi fod wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn y dyddiad cau, nid oes rhaid i chi gael cynnig gennym cyn i chi sefyll yr Arholiadau. Os na fyddwch yn llwyddo i ennill dyfarniad ariannol a/neu gynnig diamod, bydd eich cynnig gwreiddiol yn aros yr un fath. Beth am roi cynnig ar yr arholiadau i weld a allwch wella'ch cynnig? Does dim byd i’w golli!

Gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr Hŷn a Gohirio Mynediad

Ymgeiswyr Hŷn

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, ond sylwer na chaiff ymgeiswyr fod wedi bod yn fyfyrwyr gradd yn unrhyw brifysgol am fwy nag 
un semester unrhyw bryd yn y gorffennol.

Gohirio Mynediad

Os ydych yn bwriadu gohirio eich cais i’r Brifysgol cewch sefyll yr arholiadau a gohirio unrhyw ddyfarniad law yn llaw â’ch mynediad gohiriedig i’r Brifysgol. Cewch hefyd ddewis sefyll yr arholiadau yn ystod eich blwyddyn allan.

 

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Mae ymgeiswyr rhyngwladol israddedig o wledydd dethol yn gymwys i sefyll yr Arholiadau Ysgoloriaeth a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y rhestr o wledydd cymwys, ewch i'r tudalen we.

Cymwynaswyr

Cynigiwn Ysgoloriaethau’r Brifysgol a’r Gwobrau Teilyngdod drwy garedigrwydd nifer o gymwynaswyr sydd wedi rhoi rhoddion hael i ni dros y blynyddoedd.

Mae cyfyngiadau ar rai gwobrau o ran pwy gaiff eu derbyn. Nid oes raid gwneud cais am Ysgoloriaeth benodol – os bydd eich canlyniadau’n ddigon da byddwn yn dyfarnu Ysgoloriaeth addas i chi.

Fodd bynnag, dylech roi gwybod i ni os ydych yn fab i Weinidog Anghydffurfiol ac felly’n gymwys i gael eich ystyried am Ysgoloriaeth Goffa David Morgan Thomas o Caterham.

Mae rhestr o’n cymwynaswyr a’r telerau a’r amodau sydd ynghlwm wrth wobrau unigol ar gael ar-lein.

Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Canllawiau ar gyfer Ysgolion a Cholegau

Gweler ein Canllawiau ar gyfer Ysgolion a Cholegau 2025.

Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r ddau arholiad yn yr un diwrnod. Mae croeso i ysgolion/colegau benodi amser dechrau addas i'w amserlenni unigol. Mae'r arholiadau'n para awr a hanner.  

Anfonir deunyddiau’r arholiadau at y Swyddog Arholiadau enwebedig oddeutu wythnos cyn yr arholiadau.

Ni chodir tâl am sefyll yr Arholiadau, ond ni all y Brifysgol gyfrannu at unrhyw gostau goruchwylio nac archebu ystafelloedd. Bydd trefniadau arholiadau arferol yn berthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu a ni drwy ebostio ysgoloriaethau@aber.ac.uk.