Gwobr Adran Mathemateg
Hyd at £500 y blwyddyn.
Mae ein Adran Mathemateg yn cynnig Gwobr Adrannol i ymgeiswyr anrhydedd sengl (£500 y flwyddyn) neu anrhydedd gyfun (£250 y flwyddyn).
Sut mae gwneud cais?
Nid oes angen gwneud cais - bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn awtomatig. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill Ysgoloriaeth a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth yn y pwnc perthnasol neu gradd A* yn eu harholiadau Mathemateg Safon Uwch.
Mae nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn amrywio a bydd Panel Dyfarnu'r Adran yn penderfynnu ar y dyfarniadau.
Gwerth y wobr yw £500 y flwyddyn ar gyfer ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd sengl a chyrsiau prif/is-bwnc (y prif bwnc mewn mathemateg), a £250 y flwyddyn i ymgeiswyr am gyrsiau anrhydedd cyfun. Ar gyfer ymgeiswyr cydanrhydedd, mae'n bosibl derbyn gwobr gan y ddwy Adran.
Caiff myfyrwyr gadw’r wobr os ydynt yn cael cyfartaledd o 70% neu uwch y modiwlau perthnasol bob blwyddyn.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Mathemateg: maths@aber.ac.uk