Astudio yng Nghymru
Dim ots ble rydych yn byw, mae sawl rheswm dros astudio yng Nghymru.
Prif Resymau:
- Gwlad unigryw
Mae gan Gymru hanes cyfoethog, diwylliant Celtaidd a threftadaeth falch, byddwch yn rhan o barhau’r traddodiad. - Tirwedd amrywiol
Mae yma leoliadau astudio sy’n amrywio o drefi arfordirol hardd i ddinasoedd hanesyddol bywiog. - Cost byw yn is
O’i gymharu â’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig, bydd eich arian gwario yn mynd ymhellach. - Ysgoloriaethau a bwrsarïau
Unwaith eto, o’i gymharu â’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig, gallwch gael cymorth ariannol hael tuag at eich astudiaethau. - Myfyrwyr hapus
Mae gan Brifysgol Aberystwyth rhai o'r myfyrwyr mwyaf bodlon yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, rydym Ar y Brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr (ACF 2023). - Mae yma rywbeth bob amser i’w weld neu ei wneud
O siopa i ymweld â llefydd diddorol, o glybiau chwaraeon i gyngherddau byw – a does dim rhaid i chi deithio’n bell i fod ar draeth, mewn coedwig neu wrth droed mynyddoedd. - Addysgu ac ymchwil ardderchog
Ym mhrifysgolion Cymru, gyda’i gilydd, ceir nifer sylweddol o adrannau academaidd sydd wedi’u graddio’n 4* i gydnabod eu rhagoriaeth ryngwladol. - Cyflogadwyedd uchel
Mae graddau sydd â blwyddyn mewn cyflogaeth a chysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu bod graddedigion o brifysgolion Cymru yn mynd ymlaen i gael gwaith boddhaus neu wneud astudiaethau pellach.