Diwrnod Agored yn Aberystwyth

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored yn Aberystwyth

Y ffordd orau o brofi Prifysgol Aberystwyth yw ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored. Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi gwrdd â’n staff a’n myfyrwyr a dysgu mwy am ein cyrsiau. 

Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a chofrestrwch eich ddiddordeb.

Dyma 5 rheswm pam y dylech ymweld ag Aberystwyth ar Ddiwrnod Agored.

  1. Gweld y campws a’r llety

Ewch ar daith o amgylch y campws gyda’n llysgenhadon i gael gweld ble yn union y byddwch yn dysgu ac astudio. Fe gewch hefyd y cyfle i ymweld â un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf Cymru, ein Canolfan Chwaraeon ac ein Llyfrgell. Darganfyddwch pa lety fydd ar gael i chi a dewch i pa un fydd yn addas i chi.

  1. Sgwrsiwch â staff

Sgwrsiwch â’n staff o’r adrannau Cymorth i Fyfyrwyr, Derbyniadau a hefyd staff academaidd. Mae Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau a chael atebion a fydd o gymorth i chi wrth i chi ddewis pa gwrs a phrifysgol fydd yn addas i chi. Mae hefyd yn gyfle i ddarganfod pa gymorth fydd ar gael i chi fel myfyriwr wedi i chi ddechrau.

  1. Sgwrsiwch â myfyrwyr

Dysgwch am fywyd myfyrwyr trwy sgwrsio â’n llysgenhadon, a dysgwch pam fod Aberystwyth y Brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr am y 9fed flwyddyn yn olynol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024). Mae ein holl lysgenhadon yn fyfyrwyr presennol ac felly mae’n ffordd wych o gael barn gonest am sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

  1. Dysgu mwy am ein cyrsiau

Ewch i ymweld ag ein hadrannau i ddysgu am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd gennym ar gael. Clywch am yr hyn y byddwch yn ei astudio gan y darlithwyr a fydd yn eich dysgu, a chael ddod i ddeall pam ein bod ymhlith y 3 uchaf yn y DU o ran ansawdd sysgu a phrofiad myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times).

  1. Dysgu mwy am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Dewch i ddysgu am yr ystod eang o gyrsiau a modiwlau rydym yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel myfyriwr Cymraeg yn Aberystwyth mae modd i chi fyw ac astudio yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. O astudio’r gyfraith i chwarae rygbi, o nosweithiau cymdeithasol i ganu mewn côr, mae’r bywyd Cymraeg byrlymus mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn ei gynnig yn unigryw. Cofiwch y bydd cyfle hefyd i chi ymweld â neuadd Pantycelyn, llety newydd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg a chartref UMCA.