Her Ewch Wyrdd

 

Yn rhan o Addewid Cynaliadwyedd Cyfleoedd Byd-eang ac ar y cyd â'r Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd, mae'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang unwaith eto'n gwahodd myfyrwyr i wneud cais i Her Ewch Wyrdd.

Bydd Her Ewch Wyrdd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud cais am gyllid ychwanegol i’w rhoi mewn sefyllfa i gael cyfle byr cynaliadwy yn Ewrop yn yr haf 2024.

I gymryd rhan rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’u cais erbyn Dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Sut i wneud cais

Rhaid cyflwyno cynigion trwy glicio ar y ddolen isod erbyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Cofiwch ddarllen y meini prawf cymhwysedd isod i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gymryd rhan yn yr her.

Cliciwch yma i wneud cais

Meini prawf cymhwyster

Er mwyn sicrhau bod eich cais yn llwyddiannus, gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch taith yn bodloni'r holl feini prawf isod:

CHI:

  • Rhaid i chi fod wedi byw yn y Deyrnas Unedig am 3 blynedd cyn dechrau ar eich gradd
  • Rhaid llofnodi Addewid Cyfleoedd Byd-eang
  • Rhaid cyflwyno adroddiad taith ar ôl dod nôl i'r Deyrnas Unedig
  • Rhaid bod yn fyfyriwr sylfaen, myfyriwr israddedig neu'n fyfyriwr ôl-raddedig a ddysgir drwy gwrs

Y DAITH:

  • Rhaid iddi ddigwydd o fewn Ewrop (yn yr UE neu'r AEE)
  • Rhaid iddi fod yn daith o 3 diwrnod o leiaf, a dim hirach na 2 wythnos
  • Rhaid defnyddio dulliau teithio cynaliadwy (trên, bws, cwch, beic ac ati)
  • Rhaid i'r daith gynnwys gweithgaredd cymunedol neu eco-ymwybodol
  • Rhaid i ffocws y daith fod ar ddysgu, ar brofiad gwaith neu fod yn academaidd (h.y. nid gwyliau)