Rhaglenni Byr Dramor

 

Gall treulio amser byr dramor roi rhai o fanteision trochi mewn diwylliant arall i chi.

Nid oes angen cymeradwyaeth adrannol ar y rhain (os ydynt y tu allan i'r tymor), ac nid ydynt yn ennill credyd PA i chi, ond maent yn ffordd wych a fforddiadwy o deithio a chael buddion astudio neu weithio dramor heb ymestyn eich astudiaethau.

Rydym yn cynnig cyfleoedd ariannu ar gyfer lleoliadau cymeradwy sy'n para rhwng 3 diwrnod a 10-12 wythnos. Gall y lleoliadau hyn gynnwys gweithio, astudio, neu wirfoddoli dramor.

Camau nesaf

Defnyddiwch amrywiaeth o ffynonellau i'ch helpu i ddod o hyd i gyfle byr

  • Sianel Teams Cyfleoedd Byd-eang (manylion isod)
  • y Gwasanaeth Gyrfaoedd
  • ymchwil bersonol 

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i leoliad y mae gennych ddiddordeb ynddo, anfonwch e-bost at bydeang@aber.ac.uk  i drefnu apwyntiad i drafod cyfleoedd ariannu. Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i'ch lleoliad gynnig rhyw fath o fudd academaidd/cyflogadwyedd, a bydd hyn yn cael ei werthuso fesul achos.

Ar ôl i'ch cymhwysedd am gyllid grant gael ei gadarnhau, gallwch barhau â'ch cais ar gyfer y cyfle byr, gan sicrhau bod Cyfleoedd Byd-eang yn ymwybodol o’ch cynnydd.

Sylwch fod cyllid yn cael ei ddarparu ar sail y cyntaf i'r felin.

Sianel Teams Cyfleoedd Byd-eang

Rydym yn rhannu newyddion a gwybodaeth am raglenni byr dramor trwy ein hysbysfwrdd digidol. Anfonwch neges i bydeang@aber.ac.uk a byddwn yn hapus i roi mynediad i chi.

Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd

Mae'r Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd yn unigryw i Aberystwyth, a wnaed yn bosibl gan rodd hael iawn gan gyn-fyfyriwr o Aberystwtyh.

Mae'r gronfa yn helpu tuag at gostau byw a theithio ar gyfer gweithgareddau byr mewn cyrchfannau Ewropeaidd. Mae ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a llawn amser sy'n hanu o'r DU ar gyrsiau sylfaen, israddedig neu Radd Meistr a addysgir, sy'n dymuno gweithio, astudio, gwirfoddoli neu fynychu cynadleddau.

I fod yn gymwys rhaid i chi:

Bod yn fyfyriwr sy'n hanu o'r DU ar gwrs sylfaen, israddedig, neu gwrs Meistr a addysgir
Cymryd rhan mewn rhaglen o 3 diwrnod - 4 wythnos mewn gwlad Ewropeaidd
Rhaid i’r rhaglen fod â ffocws academaidd, dysgu neu brofiad gwaith (h.y. nid gwyliau)

Ar y cyd â'r cyllid hwn, mae Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn gwahodd myfyrwyr i wneud cais i Her Ewch Werdd. Mae Her Ewch Werdd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wneud cais am gyllid ychwanegol i'w helpu i gyflawni cyfle cynaliadwy byr yn Ewrop. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Her Ewch Werdd .