Mae byw dramor naill ai ar gyfer astudio, gweithio neu gyfnod byrdymor wir yn eich profi, a dylech gymryd amser i ystyried eich penderfyniad yn ofalus.
Er y gall fod yn brofiad cyffrous, nid yw mynd dramor yn ystod eich amser yn y brifysgol at ddant pawb. Efallai y byddwch yn wynebu heriau a straen.
Byddwch yn gadael ffrindiau a theulu ar ôl wrth ymdopi â gwahaniaethau diwylliannol. Gall dod i arfer â byw mewn gwlad arall greu lefel uchel o straen a all arwain at ymatebion emosiynol cryf a pheri trallod.
Mae ymatebion o'r fath yn gwbl normal ac i'w disgwyl. Treuliwch amser yn ystyried sut y byddwch yn ymdopi ac a ydych yn barod i ymgymryd â'r her hon.
- Cynlluniwch ymlaen llaw – pa heriau ydych chi’n disgwyl eu hwynebu tra byddwch chi dramor?
- Pa rwydweithiau cymorth sydd gennych chi? Sut y gallant eich cefnogi tra byddwch chi dramor?
Ymchwiliwch yn drylwyr i’ch cyrchfan a’r brifysgol a fydd yn eich croesawu. Po fwyaf yr ydych chi'n ei wybod ymlaen llaw am yr hyn sydd i ddod ac yn gallu paratoi a chynllunio ar gyfer sut y byddwch chi'n ymdopi, y lleiaf llethol fydd y profiad. Byddwch yn realistig am yr heriau y gallech eu hwynebu. Byddwch yn barod gyda rhwydwaith cymorth a meddyliwch am strategaethau ymdopi iach a fydd yn helpu os bydd pethau'n anodd.