Beth yw'r broses?

 

Astudio Cyfnewid a Lleoliadau Gwaith

Siaradwch â'ch cydlynydd adrannol am y dyddiad cau i wneud cais

Ymchwiliwch i'ch opsiynau

Meddyliwch am y profiadau yr hoffech eu cael wrth astudio neu weithio dramor.

 Porwch drwy ein rhestrau o brifysgolion partner ar wefan Cyfleoedd Byd-eang (astudio) neu siaradwch â'ch cydlynydd blwyddyn mewn diwydiant am awgrymiadau (diwydiant/gwaith).

Ystyriwch a yw'r lleoliad yn addas ar gyfer eich cynllun astudio ac yn cefnogi eich amcanion academaidd (a ydynt yn cynnig y modiwlau sydd eu hangen arnoch).

Ymchwiliwch i bethau fel costau byw, ac a fydd yn hawdd dod o hyd i lety yno.

Dewiswch dri opsiwn (gan gynnwys un yn yr UE/AEE) a gwnewch apwyntiad i siarad am y rhain gyda'ch Cydlynydd Adrannol.

Sicrhau eich lleoliad – astudio trwy gynllun cyfnewid

Enwebiadau

Unwaith y byddwch wedi dewis tair prifysgol, cysylltwch â'ch cydlynydd adrannol i'w trafod. Bydd eich cydlynydd adrannol yn eich enwebu i Gyfleoedd Byd-eang ac yn trosglwyddo eich tri dewis i ni.

NODER: Mae rhai prifysgolion yn derbyn ceisiadau yn gynnar, ac felly bydd dyddiadau cau cynt yn berthnasol.

Dyraniadau

Bydd Cyfleoedd Byd-eang yn dyrannu lle i chi yn un o'n prifysgolion partner.

Mae'r broses yn un gystadleuol, nid oes sicrwydd y byddwch yn cael lle yn un o’ch dewisiadau gan fod nifer y lleoedd sydd ar gael yn newid bob blwyddyn, efallai na fydd rhai prifysgolion ar gael, neu efallai mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael. Pan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, bydd y ffactorau penderfynu yn cynnwys eich statws academaidd a'ch cofnod presenoldeb.

 

Sicrhau eich lleoliad gwaith

Cysylltwch â'ch Cydlynydd Adrannol / Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant i gael cyngor cychwynnol ar ddod o hyd i leoliad gwaith addas a'i sicrhau. Bydd angen iddynt gymeradwyo eich lleoliad gwaith dymunol.

Unwaith y bydd eich lleoliad gwaith dymunol wedi'i gymeradwyo, mae angen i chi a'ch cydlynydd adrannol gysylltu â Chyfleoedd Byd-eang i gadarnhau manylion y lleoliad gwaith.

Sylwch y gallai eich adran ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau ychwanegol gael eu cwblhau a'u cyflwyno i gefnogi eich lleoliad gwaith.