Ffair Cyfleoedd Byd-Eang 2024

 

Dydd Iau 7 Tachwedd, Medrus Mawr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn treulio amser dramor yn rhan o'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae pob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfle i astudio, gweithio, neu wirfoddoli dramor.

Ymunwch â'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang ddydd Iau 7 Tachwedd 10yb – 4:30yp ym Medrus Mawr i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi treulio amser dramor, a chan fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd ar gynllun cyfnewid yn Aberystwyth o'n prifysgolion partneriaethol o bob cwr o'r byd.

Bydd y Tîm Cyfleoedd Byd-eang hefyd ar gael i roi gwybod i chi sut mae'r cyfan yn gweithio a rhoi cyngor personol i chi ar ba gyfleoedd sydd ar gael yn benodol i chi.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i'r holl fyfyrwyr a staff ac fe’i cynhelir trwy gydol y dydd. Mae croeso i chi alw heibio rhwng darlithoedd neu yn ystod eich awr ginio a byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes.

Leiniwch

Amser Pwnc
10:00 - 10:15 Croeso a Chyflwyniadau - Cyfleoedd Byd-Eang Rheolwr Gweithrediadau
10:15 - 10:30 Prifysgol Wageningen, Iseldiroedd
11:00 - 11:15 Rhaglenni byr - Kirsten Foerster, Swyddog Allanol
11:15 - 11:30 Rhaglen byr - Achub eliffant, Gwlad Thai
12:00 - 12:15 Blwyddyn mewn Diwydiant - Paula Hughes, Cydlynydd Blwyddyn Ddiwydiannol
12:15 - 12:30 Blwyddyn mewn Diwydiant - Hope for Wildlife, Canada
13:00 - 13:15 Astudio Dramor - Kirsten Foerster, Swyddog Allanol
13:15 - 13:30 Prifysgol Nottingham, Ningbo, Tsieina
14:00 - 14:15 Dysgu Gydol Oes - Antonio Barriga Rubio
14:15 - 14:30 Prifysgol Hong Kong Baptist
15:00 - 15:15 TESOL - Jo Eastlake
15:15 - 15:30 Prifysgol Arctig Norwy
16:00 - 16:15 Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus (ESN)
16:15 - 16:30 Prifygsol Rennes 2, Ffrainc