Polisi Euogfarnau Troseddol

1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb mewn addysg uwch, sydd â'r gallu, y potensial a'r penderfyniad i lwyddo. Ni ddylai cael euogfarn droseddol rwystro rhywun rhag gwneud cais i astudio yn Aberystwyth gan fod manteisio ar addysg yn rhan bwysig o feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol.

2. Er ein bod yn derbyn mai rôl a chyfrifoldeb y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol yw penderfynu ar addasrwydd unigolyn i’w integreiddio o fewn cymdeithas ehangach, mae'r Brifysgol yn credu bod lles a diogelwch ei holl fyfyrwyr a'i staff yn hollbwysig, ac felly rhaid ystyried addasrwydd ymgeisydd i ymuno ac astudio yn y Brifysgol. Felly mae'r Polisi canlynol ar waith ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyrsiau sy'n gofyn am wiriad DBS

3. I gael mynediad, mae rhai cyrsiau'n gofyn am wiriad cefndir cofnod troseddol, a elwir yn Wiriad DBS, a nodir hyn yn adran y gofynion mynediad ar dudalen gwybodaeth y cwrs ar wefan Prifysgol Aberystwyth. Gwahoddir ymgeiswyr sy'n cael cynnig lle i astudio i gwblhau gwiriad DBS ar yr adeg briodol yn ystod y cylch derbyn.  Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod pa lefel o wiriad DBS sydd ei angen gan fod hyn yn amrywio yn ôl cynnwys y cwrs/lleoliad. 

4. Yn ddelfrydol, rhaid cwblhau'r gwiriad DBS cyn cofrestru a rhaid ei gwblhau cyn ymgymryd ag unrhyw leoliadau cwrs bob amser.

5.Bydd canlyniad y gwiriad DBS yn dangos naill ai 'wedi’i glirio' neu ‘heb ei glirio’. Bydd Panel Euogfarnau Troseddol y Brifysgol yn ystyried achosion lle nad yw'r gwiriad DBS wedi’i glirio, sy'n golygu bod rhywfaint o wybodaeth wedi ei datgelu ar y dystysgrif gan y gwiriad DBS. Bydd y Panel, dan arweiniad y Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, neu unigolyn a enwebwyd, yn cynnal asesiad risg i benderfynu a fydd cofnod troseddol yr ymgeisydd yn ei atal rhag cofrestru ar y cwrs. Os daw’r Panel Euogfarnau Troseddol i’r casgliad na all yr ymgeisydd gofrestru ar y cwrs, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a/neu unrhyw gofrestriad dilynol yn cael ei ganslo mewn achosion lle mae cofrestru eisoes wedi digwydd.

Cyrsiau nad ydynt yn gofyn am wiriad DBS

6. Gofynnir i ymgeiswyr sy'n cynnig am gyrsiau lle nad oes angen gwiriad DBS hysbysu’r Brifysgol os oes ganddynt unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu a/neu os ydynt wedi'u rhwymo gan gyfyngiadau neu os oes ganddynt amodau prawf/trwydded i'w cyflawni yn dilyn euogfarn.   Cysylltir â’r ymgeiswyr drwy e-bost ar ôl iddynt gael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol – gweler Atodiad Un. Gellid ystyried bod methu â datgan unrhyw wybodaeth berthnasol i'r Brifysgol yn torri Gweithdrefnau Disgyblu y Brifysgol a gall hyn atal yr ymgeisydd rhag cofrestru ar y cwrs, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a/neu unrhyw gofrestriad dilynol yn cael ei ganslo os yw'r ymgeisydd eisoes wedi cofrestru. 

7. Weithiau, efallai y cysylltir â'r ymgeisydd cyn i'r cynnig gael ei brosesu, os yw’r cais yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n cyfeirio at euogfarn droseddol yr ymgeisydd, er enghraifft, a grybwyllir yn y geirda neu'r datganiad personol.

8. Bydd ymatebion yr ymgeiswyr yn cael eu gwirio a bydd unrhyw ddatganiadau perthnasol yn cael eu hasesu o ran risg gan Banel Euogfarnau Troseddol y Brifysgol a fydd yn cadarnhau a all yr ymgeisydd gymryd ei le ar y cwrs. Efallai y byddant yn dod i'r casgliad bod mesurau diogelu i'w hystyried neu eu rhoi ar waith yn gyntaf, neu, mewn achosion prin, y dylid tynnu cynnig yr ymgeisydd yn ôl.  Bydd cynnig yr ymgeisydd yn cael ei dynnu'n ôl os bydd y mesurau diogelu, y cyfyngiadau a/neu fod amodau'r drwydded yn rhwystro’r ymgeisydd, yn ymarferol, rhag cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.  Os yw'r ymgeisydd eisoes wedi cofrestru ar y cwrs, yna byddai unrhyw gofrestriad dilynol yn cael ei ganslo a byddai’r myfyriwr yn cael ei eithrio o’r cwrs.

9. Mae penderfyniad y Panel Euogfarnau Troseddol yn derfynol ac nid oes hawl i apelio oni bai bod gwybodaeth ychwanegol i’w hystyried nad yw wedi'i chyflwyno o’r blaen gan yr ymgeisydd, a bod digon o amser i’w hystyried cyn dyddiad dechrau'r cwrs. Felly, mae'n bwysig bod yr ymgeisydd yn darparu'r holl wybodaeth berthnasol, pan ofynnir amdani, cyn gynted â phosibl.

10. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, cysylltwch â'r Pennaeth Gweithrediadau Derbyn yn datganderbyn@aber.ac.uk