Polisi Derbyn Myfyrwyr ar gyfer Mynediad yn 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o degwch, cynwysoldeb a thryloywder yn ein prosesau derbyn myfyrwyr. Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r dull a ddefnyddir i ddenu, dewis a derbyn myfyrwyr ar draws ein rhaglenni a addysgir a’n rhaglenni ymchwil, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r egwyddorion a amlinellir yng Nghod Ymarfer Derbyn Myfyrwyr yn Deg Prifysgolion y DU.

Egwyddorion Derbyn Myfyrwyr

1. Mae ein Polisi Derbyn Myfyrwyr yn amlinellu proses derbyn myfyrwyr y Brifysgol ar gyfer holl gyrsiau Aberystwyth ac eithrio'r cyrsiau hynny a addysgir mewn colegau/sefydliadau partneriaethol a lle mae'r broses derbyn myfyrwyr yn cael ei rheoli gan y coleg/sefydliad unigol. Mae'r polisi’n cael ei adolygu'n flynyddol gan y Pennaeth Gweithrediadau Derbyn Myfyrwyr i sicrhau ei fod yn adlewyrchu gweithdrefnau a rheoliadau cyfredol. Darperir goruchwyliaeth gan Fwrdd Marchnata a Denu a Derbyn y Brifysgol, sy'n adrodd i'r Senedd.

Derbyniadau Canolog

2. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu derbyniadau canolog ar gyfer y rhan fwyaf o'i chyrsiau ac mae’r staff Derbyn Myfyrwyr yn cadw at ganllawiau gweithredu safonol i sicrhau tegwch a chysondeb wrth ystyried a phrosesu ceisiadau. Caiff ceisiadau eu hasesu'n unigol, gan ystyried teilyngdod academaidd ac amgylchiadau personol. Caiff ceisiadau sy'n gofyn am gyfweliad neu adolygiad portffolio, eu cyfeirio at yr adran academaidd berthnasol i'w hystyried.

Gofynion Mynediad

3. Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n astudio ystod eang o gymwysterau o’r DU a chymwysterau rhyngwladol. Mae ein tudalennau cwrs ar-leinyn rhoi gwybodaeth am ein gofynion mynediad safonol ar gyfer pob rhaglen a cheir gwybodaeth am gymwysterau rhyngwladol ar y tudalennau sy'n benodol i'r wlad. Dylai ymgeiswyr sydd â chymwysterau nad ydynt wedi'u rhestru gysylltu â'n Swyddfa derbyn myfyrwyr am arweiniad.

Gwybodaeth benodol ar gyfer Ymgeiswyr Rhyngwladol

4. Mae ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol yn ddarostyngedig i'r un ystyriaeth â cheisiadau yn y DU, ac eithrio pan fo gofynion ychwanegol yn cael eu gosod ar y sefydliad gan gyrff llywodraethol/deddfwriaethol gan gynnwys Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI). Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol fel rheol gael cymhwyster iaith i fodloni’r gofynion mynediad ar gyfer eu rhaglen astudio.

5. Yn unol â chyfarwyddyd Fisâu a Mewnfudo'r DUrhaid i fyfyrwyr rhyngwladol ddarparu cyfieithiad gwreiddiol wedi'i ardystio'n llawn ar gyfer pob dogfen os nad yw’r ddogfen yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Rhaid i'r cyfieithiad gael ei ddarparu gan gyfieithydd proffesiynol neu gwmni cyfieithu, y gellir ei wirio'n annibynnol gan yr UKVI.

6. Lle bo ymgeiswyr sydd angen fisa myfyriwr wedi bodloni holl amodau eu cynnig, bydd y Brifysgol yn cyhoeddi Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS). Gall ein Swyddfa Denu Myfyrwyr a Datblygu Rhyngwladol a’n gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Fisâu ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ymgeiswyr rhyngwladol, os oes angen.

Ehangu Mynediad a Chynigion Cyd-destunol

7. Nod Prifysgol Aberystwyth yw denu myfyrwyr o bob cefndir a all elwa o'n haddysgu a'n hymchwil. Mae ein gweithgareddau Ehangu Mynediad wedi'u cynllunio i hyrwyddo cynwysoldeb ac amrywioldeb, gan fynd i'r afael â denu, cadw a chynnydd myfyrwyr o amrywiaeth eang o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch yn draddodiadol.

8. Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi Cynigion Cyd-destunol ar gyfer ymgeiswyr israddedig yn y DU i adnabod y rhai a allai fod wedi profi rhwystrau wrth ymgymryd ag addysg uwch a chyflwyno cynnig is i'r rhai sy'n bodloni meini prawf penodol.

Cydnabod Dysgu Blaenorol

9. Ystyrir ceisiadau â phrofiad proffesiynol a/neu brofiad bywyd perthnasol neu dystiolaeth o astudiaeth flaenorol fesul unigolyn. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr i drafod amgylchiadau unigol.

Y Broses Ymgeisio

10. Ceisiadau UCAS: Dylai ymgeiswyr israddedig ar gyfer cyrsiau amser llawn wneud cais drwy UCAS.

11. Ceisiadau uniongyrchol: Dylid cyflwyno pob cais arall yn uniongyrchol i'r Brifysgol gan ddefnyddio'r ffurflen gais uniongyrchol ar-lein (gellir dod o hyd i'r ddolen iddi ar dudalennau’r cyrsiau unigol ar y wefan).

12. Dylid cyflwyno ceisiadau o leiaf bedair wythnos cyn dyddiad cychwyn y rhaglen, fodd bynnag, dylid caniatáu amser ychwanegol ar gyfer prosesu fisa Myfyrwyr lle bo angen.

13. Graddau Ymchwil:Mae mynediad i raddau ymchwil yn dibynnu ar argaeledd goruchwyliaeth briodol a chyllid ymchwil.

Proses Penderfynu

14. Ein nod yw prosesu ceisiadau wedi'u cwblhau'n llawn o fewn 7 diwrnod gwaith i'r dyddiad y daethant i law, fodd bynnag, gall oedi ddigwydd yn ystod cyfnodau prysur neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol neu fod gwybodaeth ar goll. Caiff penderfyniadau ynghylch cynigion eu cyfleu drwy UCAS Hub ar gyfer ymgeiswyr UCAS, neu drwy e-bost ar gyfer ymgeiswyr uniongyrchol. Dilynir y cynigion a wneir i bob ymgeisydd gydag e-bost sy'n cysylltu â'r Polisi Derbyn Myfyrwyr, y dylid ei ystyried ar y cyd â Thelerau ac Amodau Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol a’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Caiff pob un ohonynt eu hadolygu'n flynyddol.

Digwyddiadau Dewis, Cyfweliadau ac Ystyried Portffolio:

15. Pan fydd mynediad i raglen yn gofyn am gwblhau prawf dewis neu gyfweliad, bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau'r cwrs ar ein gwefan.

16. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad i ddatgelu unrhyw anabledd neu ofynion hygyrchedd cyn y cyfweliad. Os caiff y rhain eu datgelu mewn da bryd, gwneir addasiadau rhesymol i fodloni gofynion yr ymgeisydd.

17. Pan fydd cwrs yn gofyn am bortffolio, bydd ymgeiswyr yn derbyn gwybodaeth bellach yn uniongyrchol gan yr adran.

 Cynigion amgen

18. Os nad yw ymgeisydd yn bodloni'r amodau ar gyfer eu dewis gwreiddiol, mae’n bosibl y cânt eu hystyried a chael cynnig mynediad ar gyfer rhaglen amgen. Mae hyn yn berthnasol ar adeg y cynnig cychwynnol ac ar yr adeg cadarnhau.

19. Nid yw’r ymgeiswyr o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn cynnig amgen ar unrhyw adeg yn y broses a dylent ystyried pob opsiwn cyn gwneud hynny.

Polisïau a Gweithdrefnau

Mynediad gohiriedig

20. Gall ymgeiswyr wneud cais i ohirio eu mynediad, yn amodol ar fodloni’r gofynion mynediad a nifer y lleoedd sydd ar gael. Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd eisiau gohirio mynediad am fwy na 12 mis ailymgeisio. Dylai ymgeiswyr anfon e-bost at y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr i wneud cais i ohirio.

Adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus

21. Gall ymgeiswyr aflwyddiannus ofyn am adborth drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr. Dylai ymgeiswyr sydd eisiau apelio yn erbyn penderfyniad gyfeirio at ein Gweithdrefn Cwynion ac Apeliadau Derbyn Myfyrwyr.

Ffioedd Dysgu a Blaendaliadau

22. Ceir gwybodaeth am Ffioedd Dysgu, costau byw nodweddiadol a blaendaliadau (gan gynnwys y Polisi Blaendal Ffioedd Dysgu Rhyngwladol) ar wefan y Brifysgol. Mae statws ffioedd yn cael ei bennu yn ôl Canllawiau UKCISA ac efallai y gofynnir i ymgeiswyr am wybodaeth ychwanegol i gadarnhau eu statws ffioedd.

Gofynion Proffesiynol a Rheoleiddiol

23. Gall rhaglenni sy'n ddarostyngedig i ofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol gynnwys meini prawf anacademaidd megis asesiadau addasrwydd i ymarfer, cwblhau gwiriadau DBS a/neu'r heddlu (gwiriadau cofnodion troseddol). Mae'r rhain i'w gweld ar dudalennau cwrs y rhaglen.

Ceisiadau gan ymgeiswyr o dan 18 oed

24. Amgylchedd i oedolion yn bennaf yw Prifysgol Aberystwyth lle mae myfyrwyr fel rheol yn 18 oed neu’n hŷn. Gall ymgeiswyr a fydd yn 17 oed ar ddechrau'r tymor gael eu hystyried ar gyfer mynediad, yn amodol ar gydymffurfio â Pholisi'r Brifysgol ar gyfer ymgeiswyr o dan 18 oed.

Euogfarnau Troseddol

25. Mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfrifoldeb am ei chymuned a gall ei gwneud hi’n ofynnol i ymgeiswyr ddatgelu rhai euogfarnau troseddol sydd heb eu disbyddu a/neu ddatgan pan fônt wedi'u rhwymo gan gyfyngiadau neu os oes ganddynt amodau prawf/trwydded i'w cwblhau yn dilyn euogfarn. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd rhai rhaglenni hefyd yn gofyn am ddatgeliad llawn o bob trosedd a rhybudd ar adeg y cais, yn unol â gofynion y corff proffesiynol a bod angen gwiriad DBS cyn cofrestru. Byddwn yn cysylltu â deiliaid cynigion i roi gwybod iddynt beth sydd ei angen. Gall peidio â datgelu arwain at dynnu cynnig yn ôl o bosibl. Mae manylion llawn ar gael yn ein Polisi Euogfarnau Troseddol.

Newidiadau i raglenni a Thynnu rhaglenni’n ôl

26. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i deitlau a chynnwys rhaglenni, gofynion mynediad, dyddiad cychwyn, dull cyflwyno, lleoliad astudio, costau, neu i atal, cyfuno neu dynnu rhaglen yn ôl, cyn ac ar ôl derbyn myfyriwr i'r Brifysgol, os ystyrir bod angen cymryd camau o'r fath. Mewn achosion o'r fath, rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr yr effeithir arnynt a chânt gymorth i bwyso a mesur eu dewisiadau.

Disgwyliadau Ymgeiswyr

27. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu gwybodaeth lawn a chywir yn eu cais, sicrhau bod y Brifysgol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau personol, ac ymateb i unrhyw geisiadau ychwanegol am wybodaeth sy'n berthnasol i'w cais yn brydlon.

28. Pan fo ymgeisydd, neu drydydd parti sy'n gweithredu ar ran ymgeisydd, yn camarwain y Brifysgol yn fwriadol drwy ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn rhan o'u proses ymgeisio, gellir tynnu unrhyw gynnig o le yn ôl. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn hysbysu cyrff perthnasol fel y bo'n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys UCAS, UKVI, a’r llu heddlu perthnasol yn y DU.

29. Disgwylir i ymgeiswyr ddatgelu pob astudiaeth Addysg Uwch flaenorol a’r canlyniadau ar eu cais. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i beidio ag ystyried derbyn ymgeisydd os ydynt wedi cael eu heithrio o Aberystwyth neu unrhyw sefydliad arall o’r blaen ar sail academaidd neu resymau eraill.

30. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd eu hastudiaethau blaenorol a'r canlyniadau yn cael eu hystyried, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol newydd, os yw'n berthnasol.

31. Ni chaniateir i ymgeiswyr sydd mewn dyled i'r Brifysgol am unrhyw reswm gofrestru ar gwrs yn y Brifysgol. Felly bydd unrhyw geisiadau newydd yn cael eu tynnu'n ôl ar adeg ymgeisio nes bod y ddyled wedi'i chlirio'n llawn neu fod cynllun ad-dalu wedi'i drefnu a’i roi ar waith gyda staff y Swyddfa Gyllid.

32. Rydym wedi ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal ac yn ceisio darparu amgylchedd diogel i ddysgu, gweithio a chymdeithasu nad yw’n gwahaniaethu. Mae gan fyfyrwyr, staff, ymwelwyr a phawb arall sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yr hawl i gael eu trin ag urddas, parch a chydraddoldeb, fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Os yw ymgeisydd yn dangos ymddygiad sy'n mynd yn groes i bolisi Cydraddoldeb ac Amrywioldeb y Brifysgol, rydym yn cadw'r hawl i dynnu’r derbyniad/cofrestriad yn ôl ac i derfynu unrhyw gontract.

Data Personol

33. Mae’r Brifysgol yn casglu a phrosesu data ymgeiswyr yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Caiff gwybodaeth bersonol ei chadw a'i gwaredu'n ddiogel yn unol â Rhestr Cadw Cofnodion y Brifysgol. Gall ymgeiswyr ofyn am gopi o'u data personol a gedwir gan y Brifysgol.

34. Nid yw'r Brifysgol yn defnyddio data personol sensitif i lywio ei phroses gwneud penderfyniadau. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro yn unig ac, mewn achosion lle mae ymgeisydd wedi datgan anabledd, i ganiatáu i dîm y Gwasanaethau Myfyrwyr gysylltu ag ymgeisydd i asesu unrhyw anghenion cymorth sydd eu hangen i astudio yn Aberystwyth.

Dewis iaith

35. Yn unol â Safonau'r Gymraeg, mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu polisi dwyieithog i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae croeso i ymholwyr ac ymgeiswyr gyfathrebu â ni a derbyn gohebiaeth gennym yn Gymraeg neu Saesneg.

36. Gall ymgeiswyr newid y dewis iaith ar unrhyw gam o'r broses.

Gweithdrefn Cwynion ac Apeliadau Ymgeiswyr

37. Dylai ymgeiswyr sy'n credu bod ganddynt reswm i apelio yn erbyn canlyniad eu cais neu sy'n anhapus ag agwedd ar y broses derbyn myfyrwyr, gyfeirio at y Weithdrefn Cwynion ac Apeliadau Ymgeiswyr.

Cofrestru

38. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfarwyddiadau ynghylch cofrestru tua thair wythnos cyn dechrau'r tymor. Mae manylion llawn ar gael ar dudalennau cofrestru’r Brifysgol.