Polisi Cwynion ac Apeliadau ar gyfer Ymholwyr ac Ymgeiswyr
Mae'r Polisi hwn ar gyfer Ymholwyr ac Ymgeiswyr ac mae'n berthnasol i unrhyw un sydd naill ai'n cysylltu â'r Adran Derbyn Myfyrwyr gydag ymholiad, neu sy'n gwneud cais i astudio cwrs a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i golegau sy'n cynnig cyrsiau a ddilysir gan Brifysgol Aberystwyth gan fod y Colegau yn rheoli eu prosesau eu hunain ar gyfer ymholiadau a derbyniadau, gan gynnwys unrhyw gwynion neu apeliadau a allai godi o'r rheini.
1. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ac mae'r Adran Derbyn Myfyrwyr yn monitro adborth yn barhaus ac yn mynd i'r afael â phryderon a ddaw i'w sylw gan staff, myfyrwyr, ymgeiswyr neu ymholwyr. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i'w hymgeiswyr a'i hymholwyr, ac mae hyn yn cynnwys darparu gweithdrefnau derbyn myfyrwyr teg ac agored, fel y nodir ym Mholisi Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol, ar gyfer pob ymgeisydd, y rhai sy'n gwneud cais drwy UCAS a'r rhai sy'n gwneud cais yn uniongyrchol drwy system ymgeisio ar-lein y Brifysgol.
2. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd adegau o bosibl pan fydd ymholwr neu ymgeisydd yn teimlo'n anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan Dîm Derbyn Myfyrwyr y Brifysgol, unrhyw weithdrefnau sy'n rhan o'r broses ymholi a derbyn myfyrwyr, a/neu ganlyniadau unrhyw un o'r prosesau hyn.
3. Fel arfer, rhaid i’r ymholwr neu’r ymgeisydd gyflwyno eu cwynion neu eu hapeliadau yn bersonol i'r Brifysgol. Bydd cwyn neu apêl gan drydydd parti, naill ai drwy'r Cyfnod Datrys Cynnar neu drwy'r cam ffurfiol, yn cael ei hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, lle mae ymgeisydd wedi darparu rhesymau dilys dros y cais hwn, ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig eu bod yn hapus i'r trydydd parti weithredu ar eu rhan.
4. Ni fydd cwynion sy'n cael eu cyflwyno'n ddienw yn cael eu hystyried.
5. Gellir cyflwyno cwynion ac apeliadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na chwynion ac apeliadau a wneir yn Saesneg. Anogir ymholwyr neu ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol i gyflwyno cwyn neu apêl i gysylltu â ni'n uniongyrchol drwy e-bostio admissions@aber.ac.uk
Diffiniadau
6. Diffinnir cwyn fel pryder penodol sy'n ymwneud â chamgymeriad gweithdrefnol, afreoleidd-dra neu gamweinyddu honedig yn y gweithdrefnau ymholi neu dderbyn myfyrwyr fel y'u diffinnir yn y Polisi Derbyn Myfyrwyr. Apêl yw cais am adolygiad o benderfyniad ynghylch derbyn myfyrwyr a/neu ganlyniad cais neu gyfweliad, neu eiriad telerau ac amodau cynnig.
7. Ni fydd y Brifysgol yn ystyried trafodaethau nac anghydfodau ar faterion sy’n cwestiynu crebwyll academaidd.
Gweithdrefn
8. Mae'r Brifysgol yn gweithredu proses dau gam ar gyfer cwynion ac apeliadau.