Canllaw i Ymgeiswyr o dan 18 oed

Mae'r Polisi hwn ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth ac a fydd o dan 18 oed ar ddechrau eu cwrs.  Unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi cofrestru ac yn cyrraedd 18 oed, ni fydd y Polisi hwn yn berthnasol mwyach. 

1. Gan mai amgylchedd i oedolion yn bennaf yw'r Brifysgol, nid yw'n bosibl derbyn myfyrwyr a fydd o dan 17 oed ar ddechrau eu cwrs. O ganlyniad i reoliadau allanol, ni all y Brifysgol dderbyn ymgeiswyr ar ei chyrsiau Nyrsio os ydynt o dan 18 oed ar ddechrau'r cwrs.

Gofynion Cyfreithiol

2. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gallu gweithredu in loco parentis o ran myfyrwyr sydd o dan 18 oed. Golyga hyn na all y Brifysgol arfer y cyfrifoldeb, yr hawliau na’r awdurdod sydd gan rieni/gwarcheidwaid mewn perthynas ag unigolyn o dan 18 oed.  Mae'n hanfodol bod y Brifysgol yn gallu cysylltu â rhiant neu warcheidwad yn y DU sy'n gallu gweithredu ar ran myfyriwr nes bod y myfyriwr yn 18 oed.

3. Ni all myfyriwr o dan 18 oed fodloni contractau cyfreithiol y Brifysgol, felly disgwylir i rieni/gwarcheidwaid y myfyriwr anrhydeddu'r holl rwymedigaethau o dan unrhyw gontractau y mae'r myfyriwr yn ymrwymo iddynt â'r Brifysgol cyn eu pen-blwydd yn ddeunaw oed, megis talu ffioedd dysgu a llety.

4. Yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, mae'n anghyfreithlon i'r Brifysgol ddatgelu gwybodaeth bersonol, megis statws cais, cynnydd neu ganlyniadau myfyriwr, i rieni/gwarcheidwaid heb ganiatâd y myfyriwr.

Gwarcheidwaid y Deyrnas Unedig

5. Er mwyn dangos gwarcheidiaeth yn y DU, rhaid i fyfyrwyr fod â rhiant sy'n byw yn y DU. Os nad yw'r rhiant yn byw yn y DU, rhaid penodi Gwarcheidwad yn y DU a fydd yn bwynt cyswllt rhwng y Brifysgol a'r rhieni os bydd argyfwng yn codi neu os oes pryderon difrifol am iechyd neu les y myfyriwr.

6. Mae'n rhaid i'r Gwarcheidwad o’r DU a enwebwyd fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Yn byw yn barhaol yn y Deyrnas Unedig, gyda chyfeiriad a rhif ffôn yn y DU
  • Ddim yn fyfyriwr presennol nac yn aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, oni bai eu bod yn rhiant neu'n frawd neu'n chwaer i'r myfyriwr
  • Dros 18 oed
  • Yn gallu siarad a chyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg
  • Yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r ymgeisydd ac yn rhoi gwybod i'r Brifysgol os oes ganddynt unrhyw bryderon
  • Ar gael i fynychu'r Brifysgol, os oes angen, a bod modd cysylltu â nhw mewn argyfwng drwy gydol y cyfnod pan fo'r myfyriwr o dan 18 oed
  • Yn gallu trefnu llety arall ar fyr rybudd i'r myfyriwr os yw'r Brifysgol ar gau oherwydd argyfwng neu, yn y digwyddiad annhebygol, bod y myfyriwr yn cael eu hatal neu eu gwahardd o'r Brifysgol
  • Yn cymryd cyfrifoldeb am y trefniadau teithio ar gyfer y myfyriwr yn y Deyrnas Unedig

7. Cyfrifoldeb yr Ymgeisydd/Myfyriwr yw:

  • gallu byw'n annibynnol mewn amgylchedd oedolion gan gynnwys rheoli eu cyllid eu hunain, trefniadau domestig, lles corfforol ac emosiynol.
  • ymgysylltu'n rheolaidd â'u hadran a'r Brifysgol
  • cyfathrebu â staff os bydd problemau'n codi
  • ar ôl cofrestru, sicrhau bod eu cyfeiriad a'u manylion cyswllt yn cael eu diweddaru
  • rhoi gwybod i'w rhiant/gwarcheidwad yn y DU os ydynt wedi colli darlithoedd/dosbarthiadau tiwtorial am fwy na hanner diwrnod oherwydd salwch

8. Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol sydd angen fisa i astudio yn y DU, rhaid i'r Brifysgol gydymffurfio â rheoliadau a osodwyd gan wasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU yn Swyddfa Gartref y DU. Os nad yw'r ymgeisydd yn adnabod unrhyw un sy'n gallu gweithredu fel gwarcheidwad yn y DU, mae asiantaethau gwarcheidiaeth sy'n gallu darparu'r gwasanaeth hwn am gost a gellir dod o hyd i fanylion ar y wefan AEGIS.  Dylai ymgeiswyr sicrhau bod gan yr asiantaeth y maent yn ei dewis brofiad o oruchwylio myfyrwyr prifysgol.

9. Rhaid dychwelyd y ffurflenni caniatâd ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol i'r Brifysgol cyn cyhoeddi Tystysgrif Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS). Os ydych yn defnyddio asiantaeth gwarcheidiaeth, rhaid darparu prawf o'r contract i'r Brifysgol cyn cyhoeddi CAS.

10. Bydd y rhiant, nid y gwarcheidwad yn y DU, yn parhau fel gwarcheidwad cyfreithiol y myfyriwr nes eu bod yn 18 oed.

Prosesu cais gan ymgeisydd o dan 18 oed

11. Bydd y staff derbyn myfyrwyr yn gwirio oedran yr ymgeisydd yn erbyn dyddiad dechrau'r cwrs. Bydd y rhai sydd rhwng 17 a 18 oed ar y diwrnod y mae'r cwrs yn dechrau yn cael eu hystyried yn erbyn y meini prawf mynediad cyhoeddedig.  Efallai y bydd angen asesiad risg ar rai cyrsiau cyn y gellir cadarnhau penderfyniad academaidd.  Mae llawer o gyrsiau Aberystwyth yn addas ar gyfer y rhai sy'n 17 oed ond efallai y bydd angen asesiad risg ar gyfer nifer fach o deithiau maes neu arosiadau preswyl, yn arbennig y rhai sy’n rhan o’r cynnwys hanfodol yn y flwyddyn gyntaf, er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r cymorth a'r trefniadau cywir ar waith.  Felly, bydd staff derbyn yn gofyn i'r adran berthnasol gwblhau asesiad risg yn rhan o'r broses hon.  Yn yr achos prin lle nad yw'r adran yn gallu darparu ar gyfer rhywun sy'n 17 oed ar gwrs penodol, cynigir mynediad gohiriedig i'r ymgeisydd fel y gallant ddechrau ar eu hastudiaethau y tro nesaf y byddwn yn derbyn myfyrwyr a phan fyddant yn 18 oed.

12. Bydd ymgeiswyr sy'n cael cynnig lle i astudio yn Aberystwyth yn cael ffurflen ganiatâd drwy e-bost y mae angen ei chwblhau i ddangos bod ganddynt gydsyniad rhiant a phrofi bod ganddynt warcheidiaeth yn y DU. Bydd ymgeiswyr yn derbyn dolen i'r Ffurflen Caniatâd Dan 18 tra bydd y rhiant/gwarcheidwad yn derbyn y Ffurflen Caniatâd Dan 18 y Rhiant/gwarcheidwad, a rhaid i'r ddwy gael eu cwblhau a'u dychwelyd cyn y gellir cofrestru.

13. Bydd y Brifysgol yn cysylltu â’r gwarcheidwaid yn y DU a enwir i gadarnhau eu bod wedi cytuno i weithredu fel gwarcheidwad i'r ymgeisydd. Ni fydd ffurflenni caniatâd yn cael eu cymeradwyo nes bod y gwarcheidwad yn y DU a enwebwyd wedi cadarnhau eu bod yn hapus i weithredu fel gwarcheidwad ar ran y myfyriwr.

14. Os nad yw ymgeiswyr yn sicrhau bod y ddwy ffurflen yn cael eu dychwelyd, a/neu os nad yw'r Brifysgol yn gallu eu dilysu, ni fydd modd iddynt gofrestru.

15. Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r adran academaidd berthnasol a'r gwasanaethau proffesiynol a chymorth cyn cofrestru, am unrhyw fyfyriwr a fydd o dan 18 oed ar ddechrau eu cwrs. Ni fydd y staff addysgu nag aelodau eraill o staff yn cael gwybod am oedran myfyriwr fel mater o drefn oni bai bod angen asesiad risg i sicrhau bod y trefniadau diogelu priodol ar waith ar gyfer y myfyriwr unigol ar eu cwrs.

Llety

16. Gall y Brifysgol gynnig llety i'r rhai o dan 18 oed. Fodd bynnag, nid yw'r myfyriwr yn gymwys i lofnodi'r Contract Meddiannaeth yn unol â deddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru. Mae'r ffurflen gydsynio hon yn galluogi'r myfyriwr i lofnodi'r contract gyda'r Rhiant/Gwarcheidwad yn derbyn yr holl gyfrifoldeb drwy'r ffurflen gydsynio nes bod y myfyriwr yn 18 oed.