Cyfrifiadureg

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Mae’r sgiliau a'r profiad a ddatblygwch drwy eich addysg a phrofiadau allgyrsiol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr, ac yn hanfodol i'ch cyfraniad effeithiol yn y gweithle. Byddwch yn gallu i ddatrys problemau masnachol, diwydiannol a gwyddonol, ymchwilio a chyflwyno atebion posib yn rhesymegol a gydag eglurder, gymhwyso theori a chysyniadau i amrywiaeth o gyd-destunau.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae llawer o bosibiliadau yn agored i raddedigion, a gall gradd Cyfrifiadureg cael eu cymhwyso i ystod eang o bosibiliadau. Edrychwch ymhellach i lawr y dudalen hon i gael gwybodaeth am yr hyn y mae graddedigion Cyfrifiadureg Aber yn ei wneud.

Mae sgiliau penodol a enillwyd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg megis dadansoddi data, datrys problemau, rheoli prosiect, sgiliau technegol a rhaglennu, mewn alw mawr gan gyflogwyr. Mae rhai myfyrwyr a graddedigion yn penderfynu abenigo mewn pwnc penodol trwy astudiaethau ôl-raddedig, tra bod eraill yn symud i gyflogaeth i raddedigion.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Bydd y rhestr o ddolenni isod yn cynnig man cychwyn dda ar gyfer chwilio am brofiad gwaith a gwaith graddedig yn ymwneud a’ch pwnc.

 

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae llawer o fyfyrwyr Cyfrifiadureg yn symud ymlaen i swyddi megis Gwe-ddatblygwr, Datblygwr Meddalwedd, Dylunio a Pheirianneg. Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion Cyfrifiadureg:

  • Dadansoddwr Data Gwybodaeth Busnes
  • Dadansoddwr
  • Dadansoddwr E-fasnach
  • Dadansoddwr Technegol
  • Datblygwr 'App'
  • Datblygwr Cymwysiadau PHP
  • Datblygwr Gemau
  • Datblygwr Gemau Java Symudol
  • Datblygwr iPhone
  • Datblygwr System
  • Gwe-ddatblygwr
  • Gwe-ddylunydd
  • Gweinyddydd
  • Gweinyddydd Datblygu a Systemau
  • Gweinyddydd Ymchwil Cronfeydd Data
  • Peiriannydd Cyfathrebu Gwledol
  • Peiriannydd Labordy
  • Peiriannydd Profion Graddedig
  • Peiriannydd Rhwydwaith
  • Peiriannydd Ymchwil a Datblygu
  • Prif Ddatblygwr
  • Rhaglennydd Cyfrifiadurol
  • Swyddog Datblygu a Chynnal Isadeiledd
  • Swyddog Fforensig Digidol a Throsedd Uwch-Dechnoleg
  • Technegydd Data
  • Uwch-beiriannydd
  • Uwch-ddatblygwr Cynnyrch
  • Ymgynghorydd Graddedig
  • Ymgynghorydd Gwarchodaeth
  • Ymgynghorydd TG

Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion Cyfrifiadureg Aberystwyth i weithio iddynt:

  • AA & G Management
  • Admiral
  • BT
  • Can Media
  • CCL Forensics
  • Coda Software Ltd
  • Connect Distribution
  • Endsleigh Insurance
  • Feral Interactive
  • Fidessa
  • Focus Solutions
  • Fujitsu Services
  • GloverSure
  • Cysylltiadau Llywodraeth Ei Mawrhydi/HM Government Communications
  • Intermark
  • JustSearch
  • Lockheed Martin
  • Lognito Ltd
  • MBN International
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol 
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Nokia Solutions and Networks
  • Pixel Mags Inc
  • Planet Media UK
  • Renishaw plc
  • Rockstar Games
  • SCL Internet
  • Sun Microsystems
  • T-Mobile