Adborth RhWN - Bwyd a Diod
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
24/25 Semester 1
-
CYF: 66-2410-4788416 - Opsiynau Bwyd Amser Cinio
Dy sylw: I would like Hospitality to reconsider their lunch menu options (12-2 pm menu) this year. They are not as varied as what was available last year, sometimes the options are way too similar to each other or very close to items that were served the day before. There are also days where the only Halal option is a Vegan meal or a meal that is not as filling as the other options.
Ein hymateb:
Diolch am roi adborth ar y fwydlen eleni. Hoffwn fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau allweddol rydych chi wedi'u codi.Eleni, rydym wedi gwneud pob ymdrech i fod mor gynhwysol â'r llynedd gyda'r opsiynau halal. Y rhan fwyaf o ddiwrnodau, mae o leiaf 2 i 3 opsiwn halal ar gael, ac mae dros 75% o'r opsiynau llysieuol a fegan yn halal, gyda thua 60% o'r opsiynau cig hefyd yn halal.Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau pris a phroblemau cyflenwyr, ni allwn ddarparu opsiynau halal bob dydd ar gyfer y cerfdy, ond unwaith yr wythnos mae hanner cyw iâr halal ar y cerfdy.Ar gyfer y pryd o fwyd rhatach, mae yna ddau opsiwn halal ar gael bob tro: Cyw iâr ramen a thofu ac ychydig o weithiau yr wythnos mae'r prif bryd rhatach yn halal hefyd.Hefyd, mae rhai pasteiod yn y siop goffi yn halal, ac rydym yn cynnig detholiad o frechdanau gydag opsiynau llysieuol a chig sy'n halal.Rydym yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer pawb o wahanol grwpiau crefyddol, yn ogystal ag unigolion ag alergenau amrywiol.Rwyf hefyd wedi gorfod bod yn gynhwysol o grwpiau crefyddol eraill nad ydynt am fwyta cig halal eleni ar ôl cael eu hadborth.Rydym wedi ceisio cadw'r fwydlen yn gynhwysol i bawb eleni lle bo’n bosibl.Rydym wedi bod yn gwneud llawer o brydau heb win gan ddefnyddio finegr yn ei le pan fo’n bosibl, ond ni ellir newid rhai prydau yn yr un modd heb golli eu blas.Byddwn hefyd yn sicrhau bod opsiynau Halal ychwanegol ar gyfer prynu a mynd ar gael bob dydd yn y siop goffiRwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi codi'r pryderon hyn, ac os oes unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei ystyried neu ei wneud, mae croeso i chi alw heibio am sgwrs ar y mater.Cofiwch fod bwydlen newydd yn dod allan ar gyfer y tymor nesaf, a byddaf yn ymdrechu i addasu i gael mwy o brydau Halal pan fo’n bosibl.Gallwch ddod o hyd i fwydlen gyda'r holl opsiynau halal wedi'u hamlygu ar dudalen Bwydlen y Neuadd Fwyd : Gwasanaethau Croeso, Prifysgol AberystwythDiolch eto. -
CYF: 66-2410-1747901 - Prisiau Bwyd
Dy sylw: Good afternoon,
As the new semester has now started, I have once again begun to eat in the food hall on campus. Like many students, the price of food is always something I take into consideration, especially during the currently cost of living crisis. I have noticed that the price of your value meals has increased to £3.75 as opposed to the £2.50 as it was during the 2022/2023 academic year. I understand that inflation, cost of ingredients, staff wages, etc have to be taken into account but I just wanted to express my concern with the rises in prices we have seen recently. If at all possible, please could you review the price of your value meals? I am not asking for the price to change if it is not possible, I simply wish to ask for it to be reviewed because I know many students will find even £3.75 a stretch.
I also want to thank you for your efforts to cater to those with allergens. I notice that the value meal always has very few allergens in which means students like me with an allergy can benefit from this cheaper meal option, ensuring that allergies do not put a barrier on being able to afford food.
Many thanks once again for your willingness to cater to those with allergies and for continuing to provide some great food options in the food hall (especially the ramen!). I hope you will take my comments regarding pricing and payments into consideration.Ein hymateb:
Bore daDiolch am roi amser i ddarparu'ch adborth. Mae'n gymorth mawr i ni o ran gwybod pa negeseuon a chanfyddiadau sy'n cael eu cyfleu i fyfyrwyr. Os gallaf gymryd eich sylwadau yn eu tro.Cyflwynwyd y prydau rhatach yn nhymor 2022 oherwydd yr argyfwng costau byw. Ar adeg ei gyflwyno, roedd yn cael cymorth ariannol helaeth ac yn cael ei werthu am lai na phris y gost. Felly mae pris y pryd bwyd wedi cynyddu bob blwyddyn i ddod yn agosach at wir gost y pryd bwyd, sef £3.75 eleni. Er ein bod yn derbyn bod hyn 75c yn fwy na'r llynedd i fyfyrwyr, gallwn gadw’r pris hwn a chynyddu yn unol â chwyddiant yn unig wrth symud ymlaen. Deallwn y pwysau ariannol sydd ar fyfyrwyr, a dyna pam yr ydym wedi parhau i gynnwys Ramen yn ein pryd rhatach bob amser cinio. Gallaf eich sicrhau ein bod bob amser yn ceisio cynnig y gwerth gorau am arian i'n myfyrwyr, hyd yn oed yn y cyfnod ariannol heriol hwn.Rydym yn diolch i chi am eich sylwadau caredig am y modd yr ydym yn labelu ein halergenau a sicrhau prydau nad oes ganddynt lawer o alergenau ynddynt. Mae tîm y gegin wedi gweithio'n galed iawn ar hyn, felly byddaf yn cyfleu eich diolch iddynt. Mae'n faes lle rydym yn ymwybodol ei bod yn bwysig iawn meithrin ymddiriedaeth y cwsmeriaid hynny sydd ag alergenau ac anoddefiadau bwyd. Felly rydyn ni'n barod iawn i esbonio ein holl brosesau cynhyrchu bwyd i dawelu meddwl pobl ynghylch sut yr ydym yn rheoli alergenau yn ein bwyd.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2403-2348029 - Pecyn Bwyd a Diod
Dy sylw: Hello! I have had the Food & Drink Package for two years now, and it's been wonderful, and the place where I spend the great majority of it is at the Arts Centre Cafe (which is just absolutely incredible, great quality food and drinks, lovely employees, much love to Sarah and her team!). Their prices for their hot meals have gone up recently by at least a pound for each price level option, and while I'm not sure if prices have changed in other food outlets on campus, it has resulted in me and other students that use their Food and Drink Plan at the Arts Centre Cafe to spend a not-insignificantly larger amount of our balance to purchase the same meals. I would appreciate it if next year, the balance of Food and Drink Package reflected this increase in price, or if at all possible (though I know this is difficult while maintaining the quality and sourcing of the food in the current economic situation) the prices went back to how they used to be. Thank you very much!
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth - rydyn ni wrth ein bodd yn clywed eich bod yn mwynhau’r bwyd a’r diod a gynigir ar y campws. Mae chwyddiant ym mhrisiau bwyd wedi bod yn broblem enfawr dros y 24 mis diwethaf gyda phrisiau cynhwysion safonol yn cynyddu oddeutu 30% ac er i ni gadw ein prisiau yr un fath i helpu myfyrwyr a staff i ymdopi â’r argyfwng costau byw, yn y pen draw bu’n rhaid i ni basio rhywfaint o’r cynnydd hwn ymlaen i’n cwsmeriaid. Rwy’n gwerthfawrogi’r pwynt nad yw cyfanswm y pecyn arlwyo wedi codi yn y cyfamser, a byddwn yn adolygu hyn ar gyfer mis Medi. Cofiwch y gallwch ychwanegu at y balans ar eich Cerdyn Aber unrhyw bryd ar-lein neu wrth y til.Diolch eto am eich adborth -
CYF: 66-2306-1758305 - Chai Lattes yn IBERbach
Dy sylw: Hello, I like all the university cafes but the IBERS one is closest to me and for me as a person who does not drink coffee, there is basically only two options for hot drinks. I really like Chai tea latte and it is in all other cafes of the uni but not in IBERS, is there any specific reason why is it like that? I'd actually love to get my chai latte very often but the amount of work I have doesn't allow me to wonder around campus that much so I usually just pop into IBERS on the way to the office. Would it be possible to add chai latte in IBERS as it is Starbucks anyway and they already use milk? Thank you!
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr. Mae'r Chai Latte rydych chi'n gofyn amdano yn un o ddiodydd brand Starbucks ac o'r herwydd nid ydym yn ei werthu ar hyn o bryd yn Iberbach gan nad yw hon yn uned Starbucks. Fodd bynnag, byddwn yn edrych ar hyn er mwyn gweld a allwn ddod o hyd i gynnyrch tebyg.
Diolch i chi am eich adborth a gobeithiwn allu edrych ar ddarparu diod debyg yn y dyfodol agos.
-
CYF: 66-2306-944302 - Hiraethu am Nosh Da
Dy sylw: Please bring back Nosh Da! It filled a good gap for Uni food delivery, and the food was fairly good, despite the menu becoming unreliable shortly before the service was stopped.
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich sylw 'Rho Wybod Nawr' am wasanaeth danfon bwyd Nosh. Daeth hwn i ben ym mis Mehefin 2022 ac ni chafodd ei ailddechrau ar ddechrau'r flwyddyn hon am fod y galw wedi gostwng ar ôl i gyfyngiadau COVID lacio. Er mwyn gwneud iawn am hyn, rydym wedi newid amseroedd ein gwasanaeth a'n steil er mwyn gallu cynnig bwyd poeth yn y Neuadd Fwyd 7 diwrnod yr wythnos, a hyd at 9 o'r gloch gyda'r nos hefyd.
Er mwyn i ni allu cynnig y gwerth gorau i fyfyrwyr (gan gynnwys pryd poeth am £ 2.50) teimlir mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw cadw ein costau cyn ised â phosib er mwyn sicrhau y gallwn gynnig ein bwyd am y pris isaf posib. Yng ngoleuni costau presennol gwasanaeth danfon bwyd, yn ogystal â'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau danfon bwyd eraill sydd ar gael i fyfyrwyr, teimlwyd nad oedd angen i ni fod yn rhan o'r farchnad hon gan nad oedd o fudd i'r myfyrwyr.
Er ein bod yn diolch i chi am eich sylwadau, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn adolygu'r gwasanaethau a ddarperir i fyfyrwyr yn gyson yn unol â'u hanghenion, felly os bydd hyn yn newid yna byddwn wrth gwrs yn ailedrych ar y sefyllfa.
-
CYF: 66-2303-8486316 - Mwy o Ddewisiadau Llysieuol yn y Neuadd Fwyd
Dy sylw: The £2.50 value meals in the food hall are a great idea, however, they always seem to contain meat and there is never a vegetarian option
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth. Mae pryd poeth gwerth da y dydd am £2.50 yn cael ei baratoi’n ffres yn ddyddiol. Weithiau bydd hwn yn bryd feganaidd, llysieuol neu gig. Yn ogystal â hyn mae’r dewis o Ramen fel pryd gwerth da am £2.50 hefyd ar gael amser cinio. Mae’r ramen ar gael yn feganaidd ac yn ddi-glwten os oes angen. Rydym ni bob amser yn sicrhau bod gennym ddewis feganaidd a llysieuol ar gyfer y pryd gwerth da drwy’r dydd.
Fodd bynnag mae eich cwestiwn yn codi’r pwynt y gallai fod angen i ni adolygu ein harwyddion i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
Diolch am dynnu ein sylw at hyn, a gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r opsiynau amgen sydd ar gael yn safonol.
-
CYF: 66-2302-5841528 - Hufen Iâ ar y Campws
Dy sylw: Seeing as though the spring is fast approaching and the weather will hopefully be improving, it would be nice to have somewhere on campus that sold ice cream. Perhaps in the SU shop? I think a lot of people would really appreciate this and would be very popular with students. Having spoken to others about this, they are also in agreement with me. If this is a possibility, I would ask that there are vegan and dairy free alternatives seeing as though there is a significant percentage of the student population that is vegan or lactose-intolerant.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu ynghylch gwerthu hufen ia. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried ac yn gobeithio sicrhau rhewgell gan ein cyflenwyr dros yr wythnosau nesaf. Byddwn wrth gwrs yn cadw cynhyrchion feganaidd hefyd fel mater o drefn.
-
CYF: 66-2302-9127107 - Amserlen Prydau Bwyd
Dy sylw: It would be great if there was a timetable of what the Value Meal food on what days a few weeks in advance. Putting it in the food hall and onto the website so that students can make an informed decision rather than having to wait to see what the meal is on the day.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynglŷn â'r opsiwn Bwyd Bargen £2.50 a gynigir yn y Neuadd Fwyd bob dydd. Er mwyn i ni allu cynnig prydau poeth am bris mor arbennig, mae angen i'r cogyddion ddefnyddio pa gynhwysion bynnag sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian ar y pryd ac o'r herwydd penderfynir y fwydlen ar y diwrnod a'i choginio'n ffres er mwyn i chi ei mwynhau. O ganlyniad i hyn, ni allwn gyhoeddi’r fwydlen o flaen llaw yn anffodus.
Mae'r bwydlenni safonol yn dal i gael eu hysbysebu ac maent i'w gweld yn:-https://www.aber.ac.uk/en/hospitality/thefoodhallweeklymenus/
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2211-8193902 - Caffi IBERbach: rhagor o opsiynau figan
Dy sylw: More vegan food options (especially in Ibers cafe)
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich adborth ynghylch y dewis o fwyd figan sydd ar gael. Gallwch weld rhestr lawn o'r dewis sydd gennym yn https://www.aber.ac.uk/en/hospitality/vegan-options/
Fodd bynnag rydym wrthi drwy'r amser yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael yn dibynnu ar y galw gan gwsmeriaid, beth sydd ar gael ar y farchnad a chyfyngiadau gweithredu. Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am IBERbach, lle mae gennym ddewis o frechdanau, cawl, cacennau a diodydd figan. Byddwn yn edrych ar hyn eto i weld a allwn ehangu'r dewis. Fodd bynnag gan mai caffi bach yw hwn lle mae'r rhan fwyaf o eitemau wedi eu pacio'n barod, rydym wedi'n cyfyngu yn yr hyn y gellir ei brynu. Diolch yn fawr i chi am eich sylwadau ac mae pob croeso i chi gysylltu eto os hoffech gwrdd i drafod hyn yn fanylach gyda ni.
-
CYF: 66-2209-4136828 - Cwrw Heb Glwten
Dy sylw: Please can the SU get gluten free beer in the bar? Thanks!
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynghylch cwrw heb glwten. Fe wnawn ni archebu stoc o’r cynnyrch hwn ac fe ddylai fod yma erbyn dydd Mawrth i chi ei flasu. Rhowch wybod i staff bar UM beth yw eich barn ar ôl i chi flasu’r cwrw!
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2207-4415408 - Diolch i staff caredig mewn siopau a bwytai ar y campws
Dy sylw: Thank you so much to the lovely hospitality staff, particularly those in the Piazza caffi and the SU shop for being so friendly and kind to their customers. The seagulls have been vicious recently as more people sit outside in the warm weather to have lunch. It's surprisingly upsetting to be attacked by a gull and the staff in these outlets have been wonderful, warning people about the risks beforehand and showing genuine concern in the aftermath. Thank you to them for their fantastic customer service :)
Ein hymateb:
Yn gyntaf, diolch yn fawr am roi o’ch amser i ysgrifennu geiriau caredig iawn. Mae Caffi’r Piazza yn cael ei reoli gan Sarah Hughes a'i thîm o Ganolfan y Celfyddydau, a chaiff staff siop Undeb y Myfyrwyr eu rheoli gan Helen, gyda Sian yn rheolwr arni. Felly byddaf yn pasio eich diolch ymlaen atynt hwy.
Roeddem wedi gobeithio mai un o fanteision y Pandemig fyddai bod y gwylanod yn rhoi’r gorau i ddwyn cinio pobl. Ond pwy oedd i wybod eu bod mor amyneddgar ac mor awyddus i ddychwelyd i'w harferion drwg.
Hoffwn adleisio eich teimladau fod y caredigrwydd a'r angerdd a ddangosir gan y staff hyn yn ysbrydoliaeth i ni i gyd o ran sut i ymdrin â phobl.
-
CYF: 66-2205-2411514 - Opsiynau figan / llysieuol
Dy sylw: There are not enough vegetarian/vegan options in TaMed Bach, Chef’s Table in the Food Hall and the SU shop. A couple of my friends who are vegetarian only seem to be able to choose from one or two different sandwiches/meals.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr.
Mae Bwrdd Cogydd Tamed Da bob amser yn cynnwys 4 prif gwrs ar gyfer pob gwasanaeth, gydag un yn figanaidd ac un yn llysieuol.
Yn siop goffi TaMed bach rydym ni’n gweini detholiad mawr o roliau neu basteiod poeth, gyda 50% o’r rhain yn llysieuol ac yn figanaidd. Er enghraifft ceir rholiau selsig figanaidd a rholiau brecwast amrywiol llysieuol a figanaidd er enghraifft wy a hash brown neu muffin Selsig Quorn ac wy. Hefyd mae gennym bastai Figanaidd sbigoglys, feta, pwmpen cnau menyn, stêc ddi-gig seiliedig ar blanhigion fferm wedi’i phupuro, Proper Cornish Vegan Pasty, rhol Pizza Llysieuol i enwi ychydig yn unig. Hefyd mae gennym datws trwy’u crwyn a seigiau Ramen (nwdls) sy’n opsiynau figanaidd a llysieuol. Hefyd mae cawl y dydd bob amser yn gawl figanaidd.
Rydym ni hefyd yn gweini amrywiol frechdanau a wraps sy’n dod o’r tu allan a chaiff y rhain eu harchebu gyda chymhareb 50/50 o lenwadau llysieuol neu figanaidd/cig.
Yn siop Undeb y Myfyrwyr unwaith eto mae gennym ni amrywiol eitemau poeth sydd bob amser yn 50% llysieuol. Mae hyn yn cynnwys rholyn cig poeth, fydd ag opsiwn o lenwad llysieuol hefyd. Hefyd mae gennym ddetholiad o frechdanau a rholiau llysieuol a figanaidd.
Yn ogystal â hyn mae gennym fwydlen sydd ar gael i’w harchebu drwy Nosh Da, sy’n cynnwys nifer o opsiynau figanaidd a llysieuol, y gellir eu harchebu yn y Neuadd Fwyd neu eu danfon atoch ar y campws. https://vinestudent.io/outlets/nosh-da Unwaith eto, mae 50% o’r fwydlen yn llysieuol neu figanaidd.
I gael rhagor o wybodaeth cyflwynwch eich hun a’ch cydweithwyr i aelod o staff er mwyn iddyn nhw esbonio’r opsiynau llysieuol neu figanaidd sydd ar gael ar y diwrnod hwnnw.
-
CYF:66-2203-1339617 - Cyri Katsu yn Nosh Da
Dy sylw: Hello. I am writing about the change of menu at Nosh Da. There used to be a vegetarian katsu curry option that was the price of a value meal, £5.75. this has now come off the menu and has been replaced with a 'build your meal'. You can essentially build a katsu curry but it is £7.45, so you're basically paying £2 more for nothing extra? I'm wondering if the kastu curry can be put on along side the ramen/value meal choices as it was a great fresh, healthy vegetarian choice. Thanks.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu â Rho Wybod Nawr am y dewis Cyri Katsu yn Nosh Da.
Ym mis Ionawr diwygiwyd bwydlen Nosh Da i fod yn opsiwn adeiladu eich prif gwrs eich hun, sy’n gadael i chi ddewis eich protein, carbohydrad a saws ac yna saig ochr i gyd-fynd â hynny. Roedd hyn am ein bod am hyrwyddo opsiwn pryd iachus a chytbwys i’n myfyrwyr, felly nawr mae gennych chi lysiau neu salad yn opsiwn i gyd-fynd â’ch pryd. Felly mae’r £1.70 ychwanegol (£5.75 oedd y pris gwerthu a bellach mae’n £7.45 ar gyfer yr opsiwn adeiladu eich bwyd eich hun) yn talu cost y saig ychwanegol sy’n cyd-fynd â’ch dewis o brif gwrs.
Diolch am eich sylwadau caredig am y Ramen a’r pryd o fwyd gwerth a byddwn yn siarad gyda’r cogydd am ychwanegu cyri Katsu fel opsiwn ar gyfer y pryd o fwyd gwerth amser cinio ar y prif gownter.
-
CYF:66-2203-1116717 - Oriau agor Tamed Da
Dy sylw: Tamed is scheduled to open at 0800, but they always forget to actually unlock the door. As such, it often doesnt open until much later (when someone realises).
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu â Rho Wybod Nawr. Amser agor Tamed Da yw 8:30 bob dydd, fel y nodir ar ein tudalennau gwe:- https://www.aber.ac.uk/cy/hospitality/opening-hours/#food-hall
Ymddiheurwn am unrhyw ddryswch gyda hyn, ond rydym ni’n gofyn i staff agor y drysau cyn gynted ag y gallan nhw felly rydym ni’n aml yn agor yn gynt na’r amser hwn.
Gobeithio bod hyn yn esbonio’r sefyllfa i chi.
-
CYF:66-2201-9875019 - Brecwast yn Tamed Da
Dy sylw: Please can Ta Med start doing breakfast again? Even the ability to buy some toast would be good as there is nowhere on campus now with this facility.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ar y ddarpariaeth brecwast. Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o roliau brecwast ac eitemau o Tamed Bach. Byddwn yn sicrhau bod arwyddion clir yn tynnu sylw cwsmeriaid at y rhain ac yn ychwanegu bagels a thost. Unwaith y bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn dychwelyd i’r campws byddwn yn edrych ar adnewyddu’r arlwy brecwast yn Tamed Da hefyd. Diolch eto am eich adborth
-
CYF:66-2201-4513911 - Prisiau bwyd Nosh Da yn codi
Dy sylw: Nosh da this academic year has gone terribly and is being really badly run, and not run with the best interests of students in mind. Things are being jacked up in price for no reason (£7 for a box of some freezer chips and a small bit of lasagne?!), they're taking very popular items off the menu to force students to buy more expensive combinations of the same food (Chicken and chips boxes - removed and getting both items separately is more expensive). The ways of contacting them on their social media pages for example are less friendly than they used to be and now never helpful. The person who's overseen all of this is likely the one responsible, whoever that is, and should be told they are running this for students and not try try and rake in as much excess greedy profit as they can.
Ein hymateb:
Helo, Diolch am eich adborth ar y gwasanaeth Nosh Da.
Rydym ni wedi ychwanegu llawer o eitemau newydd i fwydlen Nosh y tymor hwn sydd wedi arwain at ddewis helaeth iawn. Fodd bynnag, o ganlyniad i’ch adborth chi a nifer o ddarnau eraill o adborth byddwn yn dod â nifer o’r eitemau ar yr ‘hen’ fwydlen Nosh yn ôl gan gynnwys rhai prydau blwch a chyw iâr popcorn fel bod gennych chi ddewis ehangach fyth o brydau blasus i gael eu danfon at eich drws! Bydd hyn yn weithredol o ddydd Gwener felly gwyliwch am yr ychwanegiadau. Byddwn ni hefyd yn gostwng pris y pryd Lasagne i’w lefel cyn y Nadolig, sef £5.75 – roedd hwn wedi codi i adlewyrchu cynnydd yng nghostau nifer o’r cynhwysion ond rydym ni am lyncu’r costau ychwanegol hyn. Gobeithio eich gweld chi cyn hir
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2110-2306719 - Opsiynau brecwast yn yr Undeb
Dy sylw: The SU should defo have a breakfast menu and lunchtime. breakfast could have bacon sandwiches, sausages sandwiches, pancakes etc. and the lunch menu could have wraps and jacket potatoes. I don't really fancy a full 9 inch pizza for lunch. As well as this, expand their tea menu with cheesy chips, maybe a variety of sauces for your burgers etc.
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich sylw Rho Wybod Nawr am y fwydlen ym Mar yr Undeb. Mae'n werth sylwi bod ystod lawn o opsiynau brecwast ar gael yn Siop y Myfyrwyr o 8:30 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys bacwn a rholiau a dewis o eitemau fegan a llysieuol hefyd. Mae arnaf ofn na allwn baratoi sglodion yn y bar, gan nad oes system dynnu aer ar gyfer unrhyw offer ffrio. Rydym felly wedi newid y fwydlen i gyd-fynd â'r hyn y gallwn ei ddarparu gyda'r cyfleusterau sydd ar gael, yn ogystal â'r hyn sydd fwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr. Rydym felly yn cynnig amrywiaeth o fyrgyrs, parseli a phitsas rhwng 12 ac 8.30 bob dydd. Rydym yn cynnig tatws trwy'i crwyn trwy’r dydd yn y Neuadd Fwyd, Penbryn hefyd. Y fwydlen de yn y bar yw'r dewis llawn o de Tazo sy'n rhan o ddewis Starbucks. Mae'n cynnwys dewis eang o de ffrwythau hefyd. Diolch am eich sylwadau ac edrychwn ymlaen at eich gweld eto ym Mar yr Undeb.
-
CYF:66-2110-3340007 - Opsiynau di-glwten
Dy sylw: I have Coeliac's disease and have come up to campus for a day of lectures to realise there are very few gluten free options. I am on campus all day, bringing my own food isn't always an option (today it wasn't) and I have been to the IBERS Cafe & the Student Union's shop, neither of which had any options for me for a lunch in between lectures other than a bag of crisps. Pre-COVID I could always find a wrap or a sandwich and I understand there are supply issues and you cannot cater for everybody - but there are many students that cannot eat gluten due to health issues (IE Coeliac's where ingesting gluten can have serious consequences). The Art Centre have some but it isn't really suitable day-to-day (IE expenses and options) and the menu is very unclear as to what actually is gluten free. There is an abundance of vegan and dairy free options which is great, but no gluten free/healthy gluten free (I know NoshDa do chips and pizza gluten free but again, isn't ideal). Avoiding gluten is not a fad diet, I feel students like me should not have to choose between staying on campus or going home to eat - especially when there have been options for us in the past.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth. Mae'n ddrwg iawn gennym eich bod wedi cael problemau'n cael opsiynau Heb Glwten yr wythnos diwethaf. Roeddem yn cael problemau gyda chadwyn gyflenwi ein dewis arferol o frechdanau ond dylai’r rhain fod yn ôl ar werth yr wythnos hon yn Siop Undeb y Myfyrwyr a chaffi Iberbach. Fodd bynnag, mae nifer o opsiynau eraill heb glwten ar gael yn y siop, Cawl, Salad, Potiau Reis ac ati. Mae'r Neuadd Fwyd/Tamed Da yn cynnig amrywiaeth o opsiynau Heb Glwten gan Nosh Da; brechdanau (yn amodol ar yr hyn a dderbyniwn) yn ogystal â'r bwth cownter poeth (cownter y Cogydd a bwyd stryd), opsiynau Cig a Llysieuol. Gallaf gadarnhau bod o leiaf o un pryd heb glwten yn cael ei baratoi ar y cownter bob dydd. Gwneir pob cig rhost gyda grefi/sawsiau heb glwten a chynigir prydau y gellir eu haddasu hefyd i fodloni'r anghenion. Mae Nosh Da yn cynnig pitsas heb glwten, parseli, prydau mewn bocsys y gellir eu haddasu wrth archebu. Rwy'n gobeithio bod hyn yn ateb eich ymholiad ac y byddwch yn dod o hyd i opsiynau Heb Glwten sydd wrth eich bodd.
-
CYF:66-2110-2826405 - Cwpanau ailgylchadwy
Dy sylw: I think it's not okay that the starbucks in the SU is giving out plastic cups. It should all be paper and biodegradable
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth am y cwpanau yn Starbucks yn Undeb y Myfyrwyr. Yn anffodus, nid yw cwpannau dichonol wedi eu gwneud o bapur yn llwyr wedi eu dyfeisio eto, er bod Starbucks yn buddsoddi biliynau o ddoleri mewn ymchwil ar y pwnc hwn. Mae'r cwpanau poeth a ddefnyddir i gyd wedi'u gorchuddio â phlastig ac mae'r cwpanau oer wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu a gellir ailgylchu pob rhan ohonynt. Fel rhan o fasnachfraint 'We proudly Serve' Starbucks mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cwpanau a gyflenwir gan y cwmni. Fodd bynnag, mae Starbucks a'r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau swm y gwastraff a gynhyrchir. Yn ystod 2020, cafwyd gwared â'r holl wellt plastig ac mae'r caead y gellir ei ddefnyddio heb welltyn wedi'i gyflwyno ac ar gael. Mae'r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i reoli gwastraff yn gyfrifol ac mae caeadau plastig Starbucks a'r llewys papur yn cael eu hailgylchu. Rydym hefyd yn annog pobl i beidio â defnyddio cwpanau untro trwy ychwanegu 'treth blastig' o 20c (er bod dod â'ch cwpanau eich hun wedi'i atal yn ystod covid). Roedd cyfle hefyd i bob myfyriwr gael Cwpan Eco am ddim trwy gwblhau Her Mapiau yn ystod wythnos y Glas.
-
CYF:66-2109-8778723 - Prisiau bwyd yn Tamed Da
Dy sylw: while nice the food was steep in price over £7 for a bowl of beef curry
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth am brisiau bwyd yn Tamed da. Rydym yn falch eich bod wedi mwynhau'r bwyd. Rydych yn llygad eich lle i nodi y dylai'r prisiau gael eu harddangos ac rydym wedi cywiro hynny. O ran y prisiau eu hunain, mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau prif gwrs yn Tamed – Bwrdd y Cogydd - £7.80 Bwyd Stryd - £6.80 (rydym wedi llwyddo i'w ostwng yn dilyn eich sylwadau) Ramen - £5.50 (o Tamed Bach) Nosh – rhwng £3.95 a £7.95. Cynigir gostyngiadau hefyd i fyfyrwyr a staff (10% a 5% yn y drefn honno). Rydym wedi cael ein heffeithio gan y cynnydd mawr diweddar yng nghostau bwyd oherwydd Brexit a Covid (gweler y manylion yn yr adroddiad atodedig) - rydym wedi gweithio’n galed i godi'r prisiau cyn lleied ag y bo modd i'n cwsmeriaid, ond yn anffodus rydym wedi gorfod codi rhai. Er cymhariaeth, mae prif brydau bwrdd y Cogydd wedi codi o £7.50 y llynedd i £7.80 eleni, sy'n gynnydd o 4%. Mae'r prisiau hyn yn dal yn cymharu'n dda â Chanolfan y Celfyddydau (£8.95) ac mewn mannau eraill tu allan i'r campws.
-
CYF:66-2109-1264201 - Pris diodydd poeth ar y campws
Dy sylw: Aber is a fantastic uni in a beautiful setting, it attracts many environmentally conscious students and staff alike. In order to enable students to make more environmentally conscious choices why does the university still put a surcharge for milk alternatives? Especially when the cost of ‘milk’ is already accounted for in the price of the drink. Most outlets seem to be around the 30p mark, but the worse I have seen is the Arts Centre charging 50p. Surely the cost of the milk alternatives do not equate to that amount, when some part of the original cost accounts for milk, there must still be room for profit charging the same for everyone. Is it not possible to rise the standard price of hot drinks across campus by a few pence to account for this difference and remove this unnecessary surcharge?
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth.
Mae prisiau coffi yn y brifysgol yn seiliedig ar bolisi prisio brandiau coffi lleol a chenedlaethol ac yn adlewyrchu pris y cynhwysion a ddefnyddir ym mhob diod. Gan hynny, mae llaeth yn gynnyrch ychwanegol i'r coffi ei hun, yn hytrach nag yn ddewis amgen fel yr awgrymwch, ac nid yw ei bris wedi ei gynnwys yng nghost y ddiod yn barod.
Byddai'n annheg codi tâl ar y rhai sy’n cael coffi du am rywbeth nad ydynt yn ei gael er mwyn sybsideiddio pris coffi sy’n cynnwys llaeth.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2102-5959322- Bwyd a diod ar y campws
Dy sylw: I feel the provision of food and drink on campus is lacking over the pandemic. While students are discouraged to be on campus, there are still many people on campus, staff, postgrads, students booking the library. But food and drink facilities are closed. The piazza was open, but now isn't. Nosh da is only open from 2pm. With research work having various timed aspects, flexibility in when to be able to access services is needed. The vending machines are also empty (EL building e.g).
Ein hymateb:
Mae'r holl safleoedd arlwyo ar agor eto ar gyfer gwasanaethau prynu a mynd nawr bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi'u codi. Byddwn yn parhau i gael ein tywys gan LlC.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-6496626 - Prisiau diod yn Undeb y Myfyrwyr
Dy sylw: Drink prices in the SU, if brought down more people would go! It’s better selling lots of product for a small margin than nothing trying to get a big margin!
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich adborth. Rydym yn gosod ein prisiau am ddiodydd ac ati ym mar UM bob haf ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys cost cynnyrch, cymariaethau â bariau yn y dref a phrifysgolion eraill, a'r angen i wneud digon o elw i dalu costau Cyflog Byw Gwirioneddol y staff. Wedi dweud hynny, rydym wedi rhedeg nifer o gynigion prisiau gostyngedig i helpu i liniaru effaith y pandemig Covid-19 ac rydym wedi cael ein calonogi'n fawr gan y cynnydd yn y defnydd o'r bar ers i'r rhain gael eu cyflwyno. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar gynigion newydd ar gyfer mis Ionawr i barhau i wneud ein prisiau'n atyniadol fyfyrwyr a chadw'r bar yn brysur.
-
CYF:66-2010-7176422 - Arlwyo ar gyfer gwahanol anghenion dietegol
Dy sylw: The cafe on the first floor of the arts centre had a brilliant vegetable soup that was gluten and dairy free, and an absolutely amazing gluten free dairy free brownie/chocolate cake. I was so pleased they could cater! It would however be nice for them to have gluten free bread to go with the soup. But in general, more gluten and dairy free options would be greatly appreciated around campus, especially on Nosh Da as very often, these two allergies /intolerances go hand in hand. But I am so grateful for the wonderful service I received in the arts centre!!!! More options around campus please in case there is no more soup left!!! Thanks :)
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau am opsiynau heb glwten a llaeth i'w bwyta ar y campws. Ar gyfer Nosh Da mae'r byrgyrs i gyd yn ddi-glwten ac ar gael gydag opsiwn caws fegan (lle bo hynny'n briodol) Mae'r canlynol hefyd yn ddi-glwten a fegan - pastai Madarch a Chennin, Bocs Reis Tofu, Bocs Reis Tatws Melys a Ffacbys, llawer o'r Bocsys Salad a'r archebion ychwanegol, y pitsa Margherita a’r holl bitsas llysieuol (nodwch eich bod eisiau gwaelod pitsa heb glwten pan fyddwch yn archebu). Mae yna amryw o opsiynau heb glwten a fegan eraill yn y caffis bach o amgylch y campws os gofynnwch. Mae'r holl sglodion/sglodion cyrliog ar y campws yn ddi-glwten
Gobeithio bod hyn yn helpu!
-
CYF:66-2010-3893207 - costau cludiant Nosh Da
Dy sylw: Nosh Da minimum delivery used to be £5 last year in term time, but is still £7.50 after it was changed after march last year when everyone went home, is it able to be changed back? It is much more feasible for one person to have a meal for themselves and not need someone else to add something to the order/add something that will go to waste at £5 instead of £7.50, and that may be useful for many students in the current situation if they need to self isolate etc.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ac am ddefnyddio gwasanaeth dosbarthu Nosh Da. Rydym yn falch o allu lleihau'r isafswm archebu i £5 o heddiw ymlaen - gobeithio bod hyn yn datrys y broblem i chi!
19/20 Semester 1
-
CYF:66-1910-2029715 - Dewis yn y peiriannau gwerthu
Dy sylw: Healthier & vegan options in the vending machines on campus
Ein hymateb:
Ar hyn o bryd rydym allan i dendr ar gyfer peiriannau bwyd a diod newydd a byddwn yn ystyried yr ystod o ddewisiadau fegan ac iach yn rhan o'r broses hon. Bydd hyn yn rhannol yn dibynnu ar nifer y ceisiadau am unrhyw un lleoliad i sicrhau bod angen y gwasanaeth