CYF:66-2010-391226 - Oriau addysgu

Dy sylw: The amount of teaching this semester is an absolute joke. I only have pre-recorded lectures and I get 2 a week. That's all the teaching I'm getting, 1 recording per module a week and links to youtube videos or free online articles. Is the university really suggesting that 1 30 minute lecture a week is an appropriate amount of teaching? Never has my timetable consisted of just 2 lectures a week. There is no excuse, I'm not even getting any live online lectures, the university is literally providing the minimum teaching that is possible as you can't really go any less than a lecture a week. I'm still paying full 9 grand and getting youtube videos for that?

Ein hymateb:

Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am eich pryderon ynglŷn ag oriau cyswllt eich cwrs. Yn anffodus, ni allaf roi ateb manwl ichi ynglŷn â’ch amgylchiadau penodol chi heb imi wybod ym mha flwyddyn yr ydych chi a pha fodiwlau yr ydych yn eu hastudio, eich enw a’ch ffrwd seminar, grwpiau gwaith ac yn y blaen. Byddwn yn awyddus iawn i gael y manylion hynny er mwyn ymchwilio’n fanylach i’r mater. Nid yw nifer yr oriau cyswllt yr ydych yn eu crybwyll yn adlewyrchu lefel y ddarpariaeth a gynlluniwyd ar eich cyfer.

Mae’r Brifysgol wedi gweithio’n galed iawn dros lawer o fisoedd i addasu’r campws a’i gweithgareddau yng ngoleuni’r pandemig byd-eang. Serch yr heriau sydd wedi dod i ran pob prifysgol o ganlyniad i COVID-19 ac, yn wir, i gymdeithas gyfan, nod y Brifysgol yw cynnig profiad i’w myfyrwyr sydd gyn debyced â phosib i’r profiad rhagorol y ceisiwn ei sicrhau bob amser.

Yn yr Adran Seicoleg, mae nifer yr oriau dysgu cyswllt yn amrywio o’r naill wythnos i’r llall, ac mae’n dibynnu ar y flwyddyn a’r modiwl astudio, os oes gennych weithdai neu sesiynau tiwtora, os oes gennych waith cwrs, ac ati. Bydd rhagor o oriau cyswllt rai wythnosau o’u cymharu ag wythnosau eraill. Nid oes gennym wythnos ddarllen ‘chwaith, felly nid oes toriad yn ystod y semester. Mae nifer yr oriau cyswllt hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y gwaith cwrs a’r aseiniadau eraill a roddir i fyfyrwyr, felly ceir digon o amser i gwblhau’r rhain. Dylech dreulio’r rhan fwyaf o’ch amser cynnal astudiaethau hunangyfeiriedig, fel y dylai pethau fod mewn blwyddyn ‘arferol’.

Deallwn fod nifer fawr o fyfyrwyr wedi dangos empathi a dealltwriaeth tuag at y staff dysgu yng ngoleuni’r pwysau sydd arnyn nhw ac , yn wir, ar bob un ohonom oherwydd COVID-19, ac maent wedi bod yn amyneddgar iawn.