Uwchraddedigion

Croeso! Mae yna nifer o resymau dros ddechrau ar gwrs astudio pellach. Mae gan rai myfyrwyr uwchraddedig syniad da ynghylch beth maen nhw am ei wneud ar ôl gorffen eu cwrs - yn wir, yn aml mae'r cwrs a ddewiswyd ganddynt yn gam tuag at eu gyrfa yn y dyfodol. Mae eraill, serch hynny, yn dal yn ansicr ynghylch beth i'w wneud.

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn brofiadol iawn wrth helpu uwchraddedigion i adnabod yr opsiynau mwyaf addawol sydd iddynt ac i weithredu arnynt. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth pwrpasol o safon i chi fel myfyriwr uwchraddedig, boed eich gofynion yn rhai penodol neu'n ansicr ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, cawn fod y rhan helaeth o uwchraddedigion yn elwa o gael trafodaeth un-i-un ag ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch eu sefyllfa bresennol a'u cynlluniau yn y dyfodol.

 

Yn gwybod beth rydych am ei wneud?

Da iawn! Rydych mewn safle gwych i wneud y gorau o'r flwyddyn (neu ddwy) ac i adael Aberystwyth gyda cham nesaf eich gyrfa yn ei le.

  • Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, ymchwiliwch i'r yrfa sydd gennych dan sylw ar wefan genedlaethol Prospects - gan roi sylw penodol i'r sgiliau a'r cymwysterau gofynnol, llwybrau mynediad a ffynonellau swyddi gwag.
  • Chwiliwch drwy ein cronfa ddata swyddi gyrfaoeddABERam swyddi perthnasol. Er bod llawer o gyflogwyr, gan gynnwys cyflogwyr bach a chanolig eu maint (SMEs), yn recriwtio drwy'r flwyddyn, mae rhai swyddi gwag â dyddiadau cau mor gynnar â'r Nadolig neu'r Pasg.
  • Gwnewch y gorau o'r adnoddau gyrfa sydd ar gael i chi - a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cymorth wrth lunio CV, llythyrau cyflwyno a ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu. Rydym yn cyfrannu gweithdai i'r Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth canolog ac rydym hefyd yn cynnal Rhaglen Gweithgareddau Cyflogadwyedd - ni chaiff pob sesiwn ei chynnal bob tymor, felly ceisiwch gynllunio o flaen llaw.
  • Edrychwch ar ein gweithgareddau am gyflwyniadau cyflogwyr - mae llawer o'r rhain yn digwydd yn ystod Tymor yr Hydref, cyn y Nadolig.
  • Ystyriwch gymryd amser i ffwrdd ar ôl i chi orffen er mwyn teithio neu gael profiad gwaith - ond meddyliwch yn ofalus ynghylch beth hoffech ei gyflawni â'r amser hwnnw a sut mae'n cyd-fynd â'ch cynlluniau eraill.
  • Dewch i siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd ynghylch eich syniadau a chael rhywun i fwrw llygad dros eich ceisiadau cyntaf.

Ddim yn siŵr beth rydych am ei wneud?

Os nad oes gennych unrhyw syniad, neu ddim yn siŵr, peidiwch â dychryn; does dim amser cywir nac anghywir i ddechrau arni. Bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn fodlon iawn eich helpu ac yn sicr nid chi fydd y myfyriwr uwchraddedig cyntaf i ddod i mewn a dweud, "Dwi ddim yn gwybod beth ydw i am ei wneud"! Er hynny, cofiwch y bydd gennych lawer o bethau fydd angen eich amser a'ch sylw, felly ceisiwch beidio â'i adael yn rhy hir cyn dod i mewn. Pan ydych yn barod i ddechrau meddwl am y peth:

  • Edrychwch ar Prospects Planner i gael help wrth benderfynu beth yr hoffech ei wneud. Edrychwch hefyd ar gwybodaeth pwnc penodol i gael syniadau i ble y gallai eich gradd fynd â chi.
  • Dewch i siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd cyn gynted ag y bo modd er mwyn i chi gael digon o amser i feddwl am eich opsiynau a dechrau cynllunio ar gyfer eich dyfodol.
  • Ystyriwch gymryd amser i ffwrdd ar ôl i chi orffen er mwyn teithio neu gael profiad gwaith - ond meddyliwch yn ofalus ynghylch beth hoffech ei gyflawni â'r amser hwnnw.

Efallai mae rhain fydd eich blynyddoedd olaf yn y brifysgol - rheolwch eich amser i wneud y gorau o'r cyfleoedd i astudio, gweithio ac elwa o'r gweithgareddau allgyrsiol a cheisiwch roi ychydig o amser i'ch hun i feddwl am fywyd ar ôl graddio - bydd yr amser yn hedfan heibio yn hynod gyflym.

Ewch i Cysylltwch a Ni i gael cyngor ynghylch gweld ymgynghorydd gyrfaoedd ac i gael disgrifiad o'r holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Mae croeso cynnes i chi ymweld â ni, a chofiwch fod croeso i chi ein defnyddio drwy gydol eich amser yn Aberystwyth ac mor hir ag yr ydych ein hangen wedyn - rydym yma i helpu.