Myfyrwyr Cyfredol

Mae mynychu Prifysgol yn rhoi cyfle gwych i ddysgu, datblygu a phrofi ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd.  Yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd, rydym yn arbenigo mewn cyd-weithio â chi fel y gallwch adnabod yr hyn sy’n apelio atoch a’r elfennau ‘rydych yn dda yn eu cyflawni, gan rhoi’r grym a‘r ysgogiad i chi weld yr holl opsiynau sydd o’ch blaen am eich dyfodol.

O’ch diwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth cynigiwn i chi:

  • porth ar-lein gyrfaoeddABER fel modd hawdd i gysylltu â’n gwasanaethau ac anfon ymholiadau
  • sesiynnau galw heibio 15 munud am wybodaeth a chyngor cyflym a bras. Dewch i'n weld yn llyfrgell Hugh Owen, dydd Llun i dydd Gwener 9.30yb-12yp yn ystod y tymor.
  • cronfa ddata o gyfleoedd ar y porth gyrfaoeddABER yn cynnwys bob math o gyfleoedd gwaith – rhan-amser/dros dro, lleoliadau, swyddi llawn-amser i raddedigion, a llawer mwy
  • rhaglen o weithgareddau gyda chyflogwyr sy’n rhoi cyfle i chi gyfarfod ag amryw o gwmnïau a sefydliadau gwahanol yn ogystal â chyn-raddedigion Aber a chyrff proffesiynol, a mynediad i’r cyfan drwy gyrfaoeddABER
  • gweminarau a gweithdai i’ch cynorthwyo i ddatblygu ac adnabod eich sgiliau fel bo cynllunio’ch dyfodol yn haws, a mynediad i’r cyfan drwy gyrfaoeddABER
  • apwyntiadau un-i-un yn rhoi amser pwrpasol o safon a chyfrinachedd i chi gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd cymwysiedig, fel gallwch drafod a chynllunio am eich dyfodol byr- a/neu hir-dymor –  yn hawdd ei drefnu drwy gyrfaoeddABER
  • cyngor ymarferol a chymorth cynllunio os oes gennych ddiddordeb bod yn hunan-gyflogedig, llawrydd neu’n fentergarol
  • cymorth a gwybodaeth gan gyn-fyfyrwyr Aberystwyth drwy’n system eFentora
  • cyngor a chefnogaeth wrth ystyried pob math o gyfleoedd profiad gwaith

 Am fanylion pellach ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig i chi 

Facebook logoInstagram logoTwitter logo

 

 

Dilynwch y ddolen gyswllt perthnasol isod at yr wybodaeth sy’n berthnasol i chi fel myfyriwr.

Israddedigion

Uwchraddedigion

Myfyrwyr Rhyngwladol