Canolfan ymchwil yr ucheldir yn croesawu cria bach

04 Awst 2020

Mae praidd o alpaca yng nghanolfan ymchwil yr ucheldir Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu dau aelod newydd i’w plith yn ystod cyfnod clo Covid-19.

Arian loteri ar gyfer prosiect sy’n estyn cefnogaeth gyfreithiol i gyn-filwyr

14 Awst 2020

Mae prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cynnig cefnogaeth gyfreithiol am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn cyllid o bron i hanner miliwn o bunnoedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Oedi ailagor Canolfan y Celfyddydau yn dilyn difrod llifogydd

19 Awst 2020

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth oherwydd cyfyngiadau Covid-19, wedi gorfod gohirio cynlluniau i ailagor oherwydd difrod llifogydd a achoswyd gan lawiad trwm diweddar.

Croesawu cyhoeddiad am ganlyniadau arholiadau

18 Awst 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad llywodraethau Cymru a’r DU ynghylch canlyniadau arholiadau.

Prifysgol Aberystwyth yn croesawu aelodau newydd i’r Cyngor

20 Awst 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu tri aelod annibynnol newydd i eistedd ar Gyngor y Brifysgol.

Belarws: pa rôl y gallai Rwsia ei chwarae yn nyfodol Alexander Lukashenko?

21 Awst 2020

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn edrych ar ba rôl y gallai Rwsia ei chwarae yn nyfodol Alexander Lukashenko.

Trosglwyddo allweddi i ddynodi cwblhau Campws Arloesi a Menter newydd Aberystwyth

26 Awst 2020

Ddydd Llun 24 Awst 2020 cafodd set olaf yr allweddi ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber) eu trosglwyddo, wedi i’r gwaith adeiladu ar y ganolfan bio-wyddoniaeth newydd o ansawdd byd-eang gael ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb ar ôl rhaglen adeiladu ddwy flynedd.

Cynhadledd Prifysgol Aberystwyth i ysgogi dysgu a bywiogi'r addysgu

28 Awst 2020

Cynorthwyo myfyrwyr i deimlo cyswllt personol wrth i ddysgu o bellter cymdeithasol ddod yn beth arferol; defnyddio'r 'pwynt mwyaf dryslyd' i ystyried cynnydd a dirnadaeth myfyrwyr; ac a yw ansawdd cwsg, presenoldeb a materion iechyd meddwl yn rhagfynegi perfformiad academaidd; mae'r materion hyn i gyd ymhlith y pynciau a drafodir eleni yn y gynhadledd.