Arian loteri ar gyfer prosiect sy’n estyn cefnogaeth gyfreithiol i gyn-filwyr

Cafodd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr ei sefydlu yn 2015 gan Dr Olaoluwa Olusanya o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr ei sefydlu yn 2015 gan Dr Olaoluwa Olusanya o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

14 Awst 2020

Mae prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cynnig cefnogaeth gyfreithiol am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn cyllid o bron i hanner miliwn o bunnoedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Bydd y grant o £498,392 dros dair blynedd yn ei gwneud hi’n haws i gyn-aelodau’r lluoedd arfog a'u teuluoedd gael gafael ar wybodaeth a chyngor cyfreithiol am ddim, yn ogystal â'u cyfeirio at wasanaethau arbenigol sy’n cynnig cyngor cyfreithiol a di-gyfreithiol.

Bydd y cyllid yn ariannu platfform dwyieithog, symudol ac ar-lein newydd ar gyfer prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, ynghyd â rhwydwaith o ganolfannau galw heibio ledled Cymru.

Bydd y platfform yn gwella mynediad at gyfiawnder ar adeg o ymbellhau cymdeithasol, ac yn helpu cyn-filwyr sydd fwyaf agored i niwed neu sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell i oresgyn anableddau corfforol, afiechyd neu broblemau'n ymwneud â henaint, a'r heriau sy'n gysylltiedig â theithio i glinigau’r prosiect sy’n cynnig cyngor cyfreithiol.

Ers ei sefydlu gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2015, mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr wedi estyn cymorth i o ddeutu 1,000 o gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Dan arweiniad yr uwch-ddarlithydd Dr Ola Olusanya, mae'r prosiect yn darparu cyngor cyfreithiol, arweiniad a gwaith achos yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'u cyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-filwyr a sifiliaid.

"Rydym yn falch iawn bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu cyllid i Gyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr am y tair blynedd nesaf," meddai Dr Olusanya.

"Drwy ddylunio a defnyddio technoleg mewn modd arloesol a chyfuno hynny gyda gwaith ein canolfannau galw heibio, ein gobaith yw gwella mynediad at gyfiawnder i gynifer o gyn-filwyr a'u teuluoedd â phosibl. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru wrth gynllunio'r platfform ar-lein newydd, ac yn cynnig mentora gan gymheiriaid i'r rheini sydd angen cymorth wrth ddefnyddio adnoddau digidol.

“Nid yw'n syndod efallai fod y rhan fwyaf o'r materion sy’n cael eu cyfeirio at y prosiect yn ymwneud â’r uned deuluol a sgil effeithiau tor-perthynas ar ôl dychwelyd i fywyd sifil, gan gynnwys ysgariad a gwahanu, cyswllt plant, cynhaliaeth plant ac achosion cyfraith gyhoeddus megis gwrandawiadau gofal."

Caiff y platfform ar-lein newydd ei lansio yn 2022 a chaiff canlyniadau'r prosiect eu rhannau a'u cyfleu i ystod eang o gynulleidfaoedd.

Dywedodd Sally Williams, Rheolwr Cyllid Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch iawn o gefnogi gwaith Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr wrth iddyn nhw ddarparu’r prosiect pwysig hwn i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Diolch i'r rheini sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol am ei gwneud yn bosibl i ariannu prosiectau fel hyn sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cynifer o bobl yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn gweithio gyda mwy nag 20 o sefydliadau partner ledled Cymru a'r DU, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, Woody's Lodge, Age Cymru, Oriel VC, Change Step, GIG Cymru i Gyn-filwyr, Hwb Cyn-filwyr Penparcau, Grŵp Cyn-filwyr Aberystwyth, Swyddogion Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog, a grwpiau cyfamod eraill y lluoedd arfog. 

Derbyniodd y prosiect grant o £45,800 gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2019, ac yn 2016 dyfarnwyd iddo £20,000 gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn a £5,000 gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru.