Croesawu cyhoeddiad am ganlyniadau arholiadau
Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr
18 Awst 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad llywodraethau Cymru a’r DU ynghylch canlyniadau arholiadau.
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan lywodraethau Cymru a’r DU bod graddau Safon Uwch bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau.
“Rydyn ni’n llwyr werthfawrogi bod gwneud cais i brifysgol drwy’r broses glirio yn gallu rhoi straen ar rai myfyrwyr, ac mae hyn wedi bod yn arbennig of wir eleni. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwn ni’n anrhydeddu lleoedd i’r myfyrwyr hynny sydd wedi gweld eu graddau’n newid yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf, ac sydd bellach yn cwrdd â’n cynnig ni. Yn ogystal, bydd cynigion am leoedd i’r myfyrwyr hynny sydd wedi penderfynu apelio yn erbyn eu canlyniadau Safon Uwch, neu eu hail-sefyll, yn cael eu cadw ar agor.
“Rydym yn awyddus i fod mor gefnogol ag sy’n bosib gyda’r nod o sicrhau bod unrhyw un a allai gael budd o addysg uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i ymuno â ni. Mae ein tîm clirio yma ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth law i hwyluso’r broses a chynnig canllaw i ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod o hyd i’r cwrs gorau ar eu cyfer.”