Prifysgol Aberystwyth yn croesawu aelodau newydd i’r Cyngor
Tri aelod annibynnol newydd y cyngor o’r chwith i’r dde: Rhuanedd Richards, Dr William Williams a Kate Eden.
20 Awst 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu tri aelod annibynnol newydd i eistedd ar Gyngor y Brifysgol.
Mae Kate Eden, Rhuanedd Richards a Dr William Williams wedi ymuno â Chyngor y Brifysgol ac maent wedi cychwyn ar eu swyddi ers 1 Awst 2020, gan wasanaethu am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd.
O dan gadeiryddiaeth Dr Emyr Roberts, mae gan Gyngor y Brifysgol fwyafrif o aelodau annibynnol gan fwyaf o'r sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn dod ag ystod o brofiad ac arbenigedd proffesiynol i lywodraethiant y Brifysgol. Y penodiadau newydd yw:
Mae Kate Eden yn gyfarwyddwr anweithredol gyda dros bymtheg mlynedd o brofiad ar lefel uwch reolwr yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi dal swydd Is-Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ac yn aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn Cadeirio’r Pwyllgor Archwilio.
Golygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw yw Rhuanedd Richards. Mae hi wedi bod yn gynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru, yn Brif Weithredwr Plaid Cymru ac yn ddiweddarach yn gynghorydd polisi ar gyfer Llywydd y Senedd.
Dr William Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Alacrity a fe sy’n gyfrifol am ddatblygiad strategol a gweithredol y Sefydliad. Treuliodd dros ugain mlynedd fel academydd a rheolwr academaidd, gan ffocysu ar addysg ôl-raddedig.
Wrth groesawu'r penodiadau, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Dr Emyr Roberts: 'Hoffwn longyfarch y penodiadau newydd hyn sy’n dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i'r Cyngor. Rwy'n falch iawn o benodi aelodau o'r safon hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw er budd y Brifysgol. Hoffwn hefyd ddiolch i Anne Davies, Richard John ac Ian MacEachern sydd wedi gadael y cyngor yn ddiweddar a hefyd i Robert Williams sy’n gadael y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd am eu gwaith diflino dros y blynyddoedd.”
Yn ogystal â’r penodiadau newydd i’r cyngor mae yna hefyd dri phenodiad newydd i’r is-bwyllgorau:
Ymuna Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, â’r Pwyllgor Adnoddau a Pherfformiad.
Ymuna’r uwch gyfreithiwr teulu Melanie Hamer o bractis Cyfraith Teulu Wendy Hopkins â’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Mae Sharron Lusher, cyn Brif Weithredwr Coleg Sir Benfro, yn ymuno â’r Pwyllgor Llywodraethu a Chydymffurfiaeth.
Y Cyngor yw corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol ac mae'n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y Brifysgol yn ogystal ag ymddygiad materion gweinyddol a materion eraill y Brifysgol, yn unol â'i hamcanion.