Oedi ailagor Canolfan y Celfyddydau yn dilyn difrod llifogydd
19 Awst 2020
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth oherwydd cyfyngiadau Covid-19, wedi gorfod gohirio cynlluniau i ailagor oherwydd difrod llifogydd a achoswyd gan lawiad trwm diweddar.
Dros yr wythnosau diwethaf bu staff yng Nghanolfan y Celfyddydau yn paratoi i ailagor rhai cyfleusterau i'r cyhoedd, gan edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pobl yn ôl i'r adeilad, yn enwedig cyn i’r tymor newydd ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn anffodus, achoswyd difrod sylweddol i’r Ganolfan yn dilyn y glaw trwm ddydd Llun, 10 Awst.
Roedd y glaw trwm yn ormod i’r draeniau yn y Ganolfan a'r cyffiniau, a bu dŵr yn llifo drwy rannau o'r adeilad, gan gynnwys ardal y swyddfa docynnau, cyntedd y Neuadd Fawr, ac ardal y bar ac Oriel 2 ar y llawr cyntaf. Mae yna ddifrod hefyd i ardaloedd cefn llwyfan a rhywfaint o'r seddi balconi yn y Neuadd Fawr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Dafydd Rhys: “Mae ein cynlluniau gwreiddiol ar gyfer ailagor fesul cam o ddechrau mis Medi wedi’u gohirio wrth i ni asesu’r difrod. Afraid dweud, gall difrod dŵr gymryd peth amser i’w unioni, yn anad dim oherwydd yr angen i sychu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn drylwyr cyn i’r gwaith adfer ddechrau.
“Rydym yn hynod falch yng Nghanolfan y Celfyddydau ein bod yn darparu canolbwynt pwysig i’r celfyddydau yng nghanolbarth Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl cyn gynted ag y gallwn.”
Mae'r gwaith sydd ei angen i atgyweirio'r difrod i'r adeilad wedi cychwyn a bydd yn parhau, tra bod cynlluniau ar waith i addasu agoriad dosbarthiadau dysgu creadigol ac arddangosfeydd.