Trosglwyddo allweddi i ddynodi cwblhau Campws Arloesi a Menter newydd Aberystwyth
(Chwith i’r dde): Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Peter Ryland, Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Darren Hancock, Rheolwr Gweithrediadau, Willmott Dixon; Yr Athro Colin McInnes, Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi, Prifysgol Aberystwyth; John Collingwood, Uwch Reolwr Prosiect (Cwsmer), Prifysgol Aberystwyth; Dr Rhian Hayward MBE, Prifweithredwr ArloesiAber
26 Awst 2020
Ddydd Llun 24 Awst 2020 cafodd set olaf yr allweddi ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (ArloesiAber) eu trosglwyddo, wedi i’r gwaith adeiladu ar y ganolfan bio-wyddoniaeth newydd o ansawdd byd-eang gael ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb ar ôl rhaglen adeiladu ddwy flynedd.
Roedd tîm ArloesiAber, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol a chynrychiolwyr o’r cwmni adeiladu Willmott Dixon, yn Hwb Arloesi’r campws i ddathlu cwblhau’r adeilad terfynol.
Gan gadw pellter cymdeithasol, cynhaliwyd seremoni i nodi trosglwyddo’r allweddi i gydnabod cwblhau’r prosiect a chreu Canolfan Bioburo, Biofanc a Chyfleuster Prosesu Hadau, Canolfan Bwyd y Dyfodol, Canolfan Dadansoddi Uwch a Hwb Arloesi newydd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber, Dr Rhian Hayward MBE: “Mae ArloesiAber yn fuddsoddiad mawr yn seilwaith ymchwil ac arloesi ar gyfer y DU. Rwy’n hynod falch o dderbyn yr allweddi gan ein contractwyr, sydd wedi creu’r cyfleusterau cymhleth yma a hynny i safon eithriadol. Rydym eisoes yn denu llif o brosiectau cydweithredol i’w cynnal yn yr adeiladau newydd sy’n dyst i weledigaeth ein buddsoddwyr. Bydd ArloesiAber yn gatalydd ar gyfer ymchwil a datblygu arloesol a rhyngddisgyblaethol, ac edrychwn ymlaen at gefnogi datblygu cynnyrch newydd a chreu swyddi.”
Mae’r trosglwyddo’n dynodi dechrau cam gweithredol y Campws a dderbyniodd £3m o gyllid refeniw ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.
Dywedodd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru: “Bydd y cyfleuster newydd hwn yn creu swyddi o ansawdd anhygoel, cyfleoedd newydd i fusnesau Cymreig ac yn galluogi ymchwil ansawdd byd-eang ym maes biowyddoniaeth yn y Brifysgol - mae’n newyddion gwych i Aberystwyth a’r economi lleol wrth i ni ailadeiladu Cymru yn dilyn y pandemig. Rwy’ wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r fenter hon gyda £23m o’n rhaglenni Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.”
Gyda’r gefnogaeth yma, mae ArloesiAber mewn sefyllfa berffaith i ddatblygu llif o brosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd yn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth a bwyd a diod.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure: “Mae heddiw yn dynodi carreg filltir hynod arwyddocaol ar gyfer Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ac ar gyfer Campws Gogerddan y Brifysgol. Mae’r datblygiad hwn yn un o dri phrosiect cyfalaf mawr ym Mhrifysgol Aberystwyth a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cynorthwyo wrth gyflawni’r gwaith ar amser ac o fewn y gyllideb - tipyn o gamp yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn ddigynsail ac mae’r cyfleusterau blaengar newydd hyn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd o fewn y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth a bwyd a diod yn cynnig gobaith cyffrous a hwb pwysig ac amserol i economi Cymru, ac i economi wledig canol a gorllewin Cymru yn benodol.”
Parhaodd y gwaith adeiladu’n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19, gyda’r contractwr Willmott Dixon yn dilyn Gweithdrefnau Gweithredu Safle’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu.
Dywedodd Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Willmott Dixon: “Mae’n wych ein bod ni wedi gallu trosglwyddo’r adeilad olaf heddiw. Er gwaethaf popeth y mae COVID-19 wedi’i daflu atom, mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino i gadw’r prosiect yn saff ac yn weithredol ar hyd yr amser. Mae’n glod i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ein bod ni wedi cwblhau’r gwaith ar amser ac o fewn y gyllideb.
Mae’r cyfleuster newydd hwn yn mynd i chwarae rhan allweddol bwysig wrth warchod ein cyflenwadau bwyd, dŵr ac ynni nawr ac yn y dyfodol; rydym wrth ein boddau ein bod wedi chwarae ein rhan er mwyn gwireddu hynny.”
Dywedodd Bill Poll, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC): “Fel un o’r partneriaid sy’n buddsoddi yn y Campws, mae gweld cwblhau’r garreg filltir allweddol hon a sut y bydd y cyfleusterau hyn yn galluogi ArloesiAber i barhau i yrru datblygiad cymuned arloesi fywiog a llewyrchus, gan alluogi entrepreneuriaid a busnesau i gydweithio gydag ymchwilwyr, cyrchu cyfleusterau arbenigol, ac elwa ar rwydweithiau cymorth a digwyddiadau wedi’u targedu, yn gyffrous i’r BBSRC.”
Cyllidwyd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; y BBSRC - rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU - a Phrifysgol Aberystwyth, ac mae’n darparu cyfleusterau o ansawdd byd-eang ar gyfer ymchwil bio-wyddonol.