Bywyd newydd i’r Hen Goleg
01 Gorffennaf 2013
Mae cynlluniau i ail-ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth gam yn nes wedi i Gyngor y Brifysgol gymeradwyo astudiaeth ddichonoldeb.
Aberystwyth yn buddsoddi yn eich dyfodol
03 Gorffennaf 2013
Prifysgol Aberystwyth yn dosbarthu nifer fawr o ysgoloriaethau, gwobrau, bwrsariaethau a rhoddion ariannol i fyfyrwyr sy’n ymuno mis Medi
Elusen fyny fry
04 Gorffennaf 2013
Myfyrwyr a staff yn pleidleisio dros wneud Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor.
Cymrodyr er Anrhydedd 2013
04 Gorffennaf 2013
Urddo deg Cymrawd yn ystod seremonïau graddio 2013 sydd yn cael eu cynnal rhwng dydd Mawrth 9 a dydd Gwener 12 Gorffennaf.
Glo yn ysbrydoliaeth
05 Gorffennaf 2013
Mapiau daearegol a lluniau lloeren Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ysbrydoli gwaith diweddara’r artist Mary Lloyd Jones sy’n dathlu cymoedd y de.
Secondiad Canolfan y Celfyddydau
05 Gorffennaf 2013
Secondio Louise Amery i swydd Cyfarwyddwr Ganolfan y Celfyddydau yn dilyn ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.
Cynhadledd Cymraeg i Oedolion
05 Gorffennaf 2013
Aberystwyth yn cynnal y Gynhadledd Genedlaethol Cymraeg i Oedolion i Diwtoriaid am y tro cyntaf ar 6 Gorffennaf.
Graddio 2013
09 Gorffennaf 2013
Mwy na 2,700 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon wrth i Graddio 2013 ddechrau heddiw, ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.
Urddo Cymrawd
09 Gorffennaf 2013
Cyflwyno’r Barnwr Niclas Parry yn Gymrawd y Brifysgol gan Dr Glenys Williams o Adran y Gyfraith a Thoseddeg.
Urddo seren ffilmiau mud
10 Gorffennaf 2013
Cyflwyno ‘prif gyfeilydd y ffilmiau mud’, Neil Brand, yn Gymrawd gan yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf.
Urddo Betsan Powys
10 Gorffennaf 2013
Cyflwyno’r newyddiadurwraig a Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys, yn Gymrawd gan Alwena Hughes Moakes.
Urddo Dr Elaine Storkey
11 Gorffennaf 2013
Cyflwynwyd yr academydd a’r ddarlledwraig flaenllaw, Dr Elaine Storkey, yn Gymrawd gan yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth.
Urddo Prifweithredwr Adnoddau Naturiol Cymru
11 Gorffennaf 2013
Cyflwyno Prifweithredwr Adnoddau Naturiol Cymru, Dr Emyr Roberts, yn Gymrawd gan yr Athro Neil Glasser o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes a Gwleidyddiaeth.
Urddo’r actor Richard Lynch
12 Gorffennaf 2013
Cyflwyno’r actor Richard Lynch yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth gan yr Athro David Ian Rabey o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Prifweithredwr S4C yn Gymrawd
12 Gorffennaf 2013
Dr Elin Haf Gruffydd Jones yn cyflwyno Ian Jones, Prifweithredwr S4C, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Horsegate: gwersi a ddysgwyd
16 Gorffennaf 2013
IBERS yn cynnal trafodaeth yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol
Llyfr y Flwyddyn 2013
16 Gorffennaf 2013
Mae gan Brifysgol Aberystwyth sawl cysylltiad gyda Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Y Sioe Amaethyddol Frenhinol
19 Gorffennaf 2013
Ymwelwch â Phafiliwn y Brifysgol a phabell wyddoniaeth IBERS yn ystod y Sioe Amaethyddol Frenhinol eleni.
Campws arloesi £35m
21 Gorffennaf 2013
Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi bwriad i fuddsoddi £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan.
£2.5m i Bwllpeiran
21 Gorffennaf 2013
BBSRC yn cyhoeddi ei bwriad i gefnogi ail ddatblygu canolfan ymchwil Pwllpeiran gyda £2.5m o fuddsoddiad.
‘Yfory, Heddiw’
21 Gorffennaf 2013
Cynnyrch arloesol o’r Brifysgol yn cael ei arddangos yn yr Arddangosfa ‘Yfory, Heddiw’ yn y Pafiliwn Gwyrdd yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon.
Aberystwyth - y lle mwyaf diogel i astudio
22 Gorffennaf 2013
Prifysgol Aberystwyth wedi ei raddio fel y Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr i astudio.
Société de Linguistique Romane
23 Gorffennaf 2013
Etholwyd yr Athro David Trotter, Pennaeth Adran Ieithoedd Ewropeaidd, yn Llywydd y Société de Linguistique Romane ar gyfer 2013-16.
Canllaw Clirio
26 Gorffennaf 2013
Gyda dim ond tair wythnos i fynd tan Clirio, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y broses mor hawdd â phosib eleni drwy greu canllaw fideo i helpu unigolion.
Arwyddion newydd
26 Gorffennaf 2013
Mae'r Brifysgol yn gosod arwyddion newydd ar Gampws Penglais gyda chyfanswm o 125 o arwyddion yn cael eu codi.
Awduron gwobrau preswyl Pwllpeiran
30 Gorffennaf 2013
Elizabeth Godwin a Karen Owen wedi eu penodi’n Awduron Preswyl Pwllpeiran.
Dirprwyaeth o Tsiena
31 Gorffennaf 2013
Dirprwyaeth o rai o sefydliadau ymchwil amaethyddol mwyaf blaenllaw Tsiena yn ymweld ag IBERS.
Ysgoloriaeth Llyndy Isaf
31 Gorffennaf 2013
Caryl Hughes, sy’n raddedig o Aberystwyth, yw enillydd cyntaf ysgoloriaeth Llyndy Isaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.