‘Yfory, Heddiw’
‘Yfory, Heddiw’
21 Gorffennaf 2013
Bydd cynnyrch arloesol o Brifysgol Aberystwyth yn cael ei arddangos yn yr Arddangosfa ‘Yfory, Heddiw’ yn y Pafiliwn Gwyrdd yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, Gorffennaf 22ain - 25ain.
Dewiswyd y cynnyrch, sydd wedi’i seilio ar ymchwil yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Aberystwyth, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, i fod yn rhan o’r arddangosfa uchel ei phroffil a drefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar y cyd â’r partneriaid Cyswllt Ffermio.
Mae farmGRAZE, sef ap symudol ar gyfer rheoli pori da byw yn fwy effeithlon, ac AberWolf, sef math newydd cyffrous o laswellt a ddatblygwyd ar sail degawdau o fridio planhigion, ymhlith y cynhyrchion arloesol fydd yn cael eu harddangos yn ystod yr wythnos.
Mae’r arddangosfa ‘Yfory, Heddiw’, yn fenter newydd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2013, a’i nod yw hybu ac annog arloesi yn amaethyddiaeth y Deyrnas Gyfunol a hwyluso’r defnydd o dechnoleg newydd drwy drosglwyddo’r ymchwil ddiweddaraf i fusnesau ar lawr gwlad.
Bydd cynrychiolwyr o IBERS a Swyddfa Cyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, wrth law drwy gydol yr wythnos i ddangos sut y mae gweithgareddau ymchwil o safon fyd-eang Aberystwyth yn cyfrannu at lunio dyfodol ffermio.
Caiff ymwelwyr hefyd gyfle i ddysgu mwy am y modd y mae Aberystwyth yn canolbwyntio ar ddiwydiant wrth ddatblygu cynnyrch newydd yn ystod y cyflwyniadau canlynol, fydd yn rhan o’r rhaglen fforwm yn y Pafiliwn Gwyrdd.
Dydd Llun, Gorffennaf 22ain am 2 o’r gloch, bydd Dr Rhian Hayward o’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori yn trafod dulliau arloesol tîm Trosglwyddo Technoleg y Brifysgol wrth ddatblygu apiau symudol o ymchwil sydd ar flaen y gad ym maes amaethyddiaeth ac iechyd anifeiliaid. Bydd Rhian yn tynnu sylw at y ffordd y mae portffolio’r apiau mobileFARM sy’n seiliedig ar ymchwil IBERS wedi’u troi’n gynnyrch ymarferol i gynyddu cynhyrchiant ar gyfer ffermwyr a pherchnogion tir / anifeiliaid. (www.mobilefarmapps.com).
Dydd Mercher, 24ain Gorffennaf am 2 o’r gloch, bydd Mr Alan Lovatt o IBERS yn trafod ‘Datblygiadau wrth Fridio Planhigion’, gan gyfeirio at AberWolf, sef y math diweddaraf o laswellt llawn siwgr gan IBERS sy’n cynnig rhagor o welliannau o ran cynnyrch, lefelau siwgr a hirhoedledd. Bydd Alan yn tynnu sylw at y ffordd y mae ymchwil IBERS ar laswellt llawn siwgr eisoes wedi arwain at fagu amrywiadau sydd wedi gwella cyfraniad glaswelltir at borthi da byw ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Yn ogystal â bod yn rhan o’r arddangosfa ‘Yfory, Heddiw’, mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen lawn o weithgareddau yn y Pafiliwn Addysg a’r Ardal Gofal Cefn Gwlad. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.aber.ac.uk/cy/ibers/events/rws
AberWolf
Mae AberWolf yn fath newydd cyffrous o laswellt a ddatblygwyd ar sail degawdau o fridio planhigion. Arweiniodd ymchwil IBERS ar laswellt llawn siwgr eisoes at fagu amrywiadau sydd wedi gwella cyfraniad glaswelltir at borthi da byw ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae mathau o laswellt sy’n llawn siwgr yn defnyddio nitrogen yn fwy effeithlon na mathau arferol ac yn arwain at wastraffu llai o nitrogen gan yr anifail. Maent yn cyfrif am dros 28% o’r gwerthiant hadau rhygwellt parhaol yn y Deyrnas Unedig, gyda mwy na 175,000ha wedi’u hau yn y Deyrnas Unedig yn unig o’r mathau hyn ers 2005. Mae eu defnydd mewn gwledydd eraill hefyd yn cynyddu wrth i effaith gadarnhaol glaswellt llawn siwgr ar effeithlonrwydd cynhyrchu, economeg amaeth ac fel llwybr i leihau effaith amgylcheddol cynhyrchu da byw gael eu gweld. Mae nifer o archfarchnadoedd Prydain yn defnyddio glaswellt llawn siwgr yn eu cadwyn gyflenwi i leihau eu hôl troed amgylcheddol.
Ychwanegwyd AberWolf at restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig yn 2013 a dyma’r math diweddaraf o laswellt llawn siwgr gan IBERS sy’n arwain y farchnad sy’n cynnig rhagor o welliannau o ran cynnyrch, lefelau siwgr a hirhoedledd.
mobileFARM - Apiau Symudol i Ffermwyr - www.mobilefarmapps.com
Mae mobileFarm yn anelu i gefnogi ffermwyr a pherchnogion anifeiliaid yn lleol ac yn fyd-eang i weithio’n effeithlon i arbed arian ac i ddarparu canllawiau ar gyfer yr arferion gorau. Mae portffolio apiau mobileFARM yn cynnwys farmGRAZE a horseRATION.
farmGRAZE
Bydd yr ap farmGRAZE, a seilir ar arbenigedd tîm o IBERS, yn helpu ffermwyr i reoli pori eu da byw yn fwy effeithlon, gan arbed arian ar borthiant a gwrtaith.
Bydd yr ap hwn yn golygu y bydd ffermwyr yn gallu cyfrif faint o dir pori sydd ar gael i’w stoc, a hynny mewn cae penodol, neu ar draws ei daliad i gyd.
Dau fersiwn o’r ap sydd ar gael i ffermwyr – fersiwn am ddim a fersiwn a delir amdano. Bydd y fersiwn am ddim yn helpu ffermwyr i wella eu penderfyniadau rheoli, gan wella eu tir pori ac yn cynnig cyngor ar reoli eu tir glas.
Bydd y fersiwn sydd ar werth (£5.99) yn mynd gam ymhellach ac fe fydd yn cadw data mesuriadau gwair, plotio gwybodaeth am borfeydd ar ffurf graffiau, anfon gwybodaeth allan i’ch cyfrif e-bost ar ffurf taenlenni, a gosod nodiadau ar galendr eich ffôn poced i’ch atgoffa chi i wirio taldra’ch gweiriau.
horseRATION
Hwn yw’r ap cyntaf i gael ei ddylunio’n arbennig fel dyfais porthiant bwydo ceffylau ac fe enillodd Wobr Arloesi Cymdeithas Fasnach Ceffylau Prydain yn 2013.
Mae horseRATION, yn debyg i ap farmGRAZE, wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio arbenigedd IBERS, a bydd yn helpu perchnogion ceffylau a merlod i reoli eu costau bwyd yn effeithiol ac osgoi biliau milfeddyg diangen.
Mae dau fersiwn o'r ap horseRATION ar gael – fersiwn am ddim a fersiwn a delir amdano. Bydd y fersiwn rhad ac am ddim yn helpu perchnogion gyfrifo swm y porthiant sydd ei angen ar geffyl, tra bod y fersiwn llawn yn cynnwys cyfrifiadau bwyd caled ynghyd â’r darlun cyflawn. Mae’r ddau fersiwn yn cynnig awgrymiadau ar sut i fwydo yn ogystal â gwybodaeth archwiliad iechyd.
Mae’r fersiwn a delir amdano (£4.99) yn mynd cam yn bellach ac yn caniatáu i’r defnyddiwr i gadw gwybodaeth am sawl ceffyl, arbed ac adalw’r swm bwyd, allforio’r wybodaeth i e-bost a gosod nodyn atgoffa yng nghalendr ffôn y person.
Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth (www.aber.ac.uk), a sefydlwyd yn 1872, yn brifysgol ddysgu ac ymchwil flaenllaw a dyfarnwyd iddi Wobr Penblwydd y Frenhines Addysgu Uwch a Phellach yn 2009. Yn ôl The Times Good University Guide 2013 mae hi ymysg y 10 prifysgol uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am fodlonrwydd myfyrwyr. Rydym yn gymuned o 12,000 o fyfyrwyr a 2,300 o staff.
Nod Prifysgol Aberystwyth yw creu cyfleoedd, ymchwil rhagorol sy’n creu effaith, dysgu sy’n ysbrydoli, meithrin ein cysylltiadau â’r byd, gweithio mewn partneriaeth a buddsoddi yn ein dyfodol. Elusen gofrestredig Rhif 1145141.
Er mwy gwybod mwy ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/
AU27813