Urddo Cymrawd

Gwerfyl Pierce Jones, Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Gwerfyl Pierce Jones, Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

09 Gorffennaf 2013

Cafodd Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.

Yn Farnwr Cylchdaith ar Gylchdaith Cymru ac yn farnwr ar achosion Cyfraith Droseddol yn Llys y Goron cafodd ei gyflwyno gan Dr Glenys Williams o Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.

Wedi ei ysbrydoli gan brofiadau ei ddiweddar fam a oedd yn Ynad Heddwch, roedd Niclas yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y Gyfraith a graddiodd o Aberystwyth, lle bu hefyd yn brif warden ar Neuadd Pantycelyn.

Ar ôl gorffen ei astudiaethau, aeth ymlaen i ddilyn gyrfa yn gyfreithiwr, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol a chyfraith teulu. Y mae Niclas hefyd yn gyflwynydd a sylwebydd chwaraeon adnabyddus ar y radio. Yn ddiweddar cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd, lle caiff ei adnabod fel Niclas y Llais!

Cyflwyniad Ei Anrhydedd Farnwr Niclas Parry gan Dr Glenys Williams.

Anrhydeddus Lywydd, hybarch gynulliad, mae’n bleser gen i gyflwyno’r Anrhydeddus Farnwr Niclas Parry i chi i’w urddo’n Gymrawd gan Brifysgol Aberystwyth.

Ganwyd Niclas yn Helygain, Sir y fflint, yn un o efeilliaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Glanrafon, yr Wyddgrug, lle roedd ei dad yn brifathro, ac yna yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, lle roedd ei fam yn bennaeth yr Adran Saesneg. Bu Niclas yn Brif ddisgybl yno.

Wedi ei symbylu i fynd mewn i faes y Gyfraith o glywed am amryfal brofiadau ei diweddar fam fel Ynad Heddwch, graddiodd gydag anrhydedd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle bu'n bennaeth myfyrwyr Neuadd Pantycelyn.

Fei’ hyfforddwyd fel cyfreithiwr yn yr Wyddgrug yng nghwmni Llewelyn Jones, o dan adain y diweddar Armon Ellis OBE, hefyd a raddiodd yma yn Aberystwyth. Bu Niclas yn bartner yno hyd 2010, yn arbenigo mewn cyfraith trosedd a theulu.

Fe’i apwyntiwyd yn Gofiadur ar Gylchdaith Cymru yn 2000, ac yna yn Farnwr Cylchdaith yn 2010, ac mae’n eistedd ym maes cyfraith Trosedd yn Llys y Goron, yn bennaf yng Ngogledd Cymru.

Mae'n adnabyddus hefyd fel cyflwynydd a sylwebydd chwaraeon ar radio a theledu (yn Gymraeg ac yn Saesneg); yn gynhyrchydd drama efo Cwmni Drama Rhuthun; yn gyn aelod o Awdurdod S4C; ac yn flaenor yng nghapel Gellifor yn Nyffryn Clwyd.

Bu Niclas yn arweinydd llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yn ogystal ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ers blynyddoedd. Fei anrhydeddwyd a Gwisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Cylch 2011  ac yn yr Orsedd, fe'i ceir ei adnabod fel Niclas y Llais! Mae yn lywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Dinbych yr Haf hwn ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Yn briod a Sioned, mae'n dad i ddwy o ferched, Anna sy'n gyfreithwraig o dan hyfforddiant, a Beca sy'n feddyg.

Ac mae'n magu ieir!

Mr Llywydd, mae’n wir fraint ac yn bleser gennyf gyflwyno’r Anrhydeddus Farnwr Niclas Parry, i chi fel Cymrawd Prifysgol Aberystwyth.