Arwyddion newydd

Un o'r arwyddion newydd

Un o'r arwyddion newydd

26 Gorffennaf 2013

Mae'r Brifysgol yn gosod arwyddion newydd ar Gampws Penglais gyda chyfanswm o 125 o arwyddion yn cael eu codi.

Tynnwyd ein sylw at y ffaith fod chwech o’r arwyddion yn cynnwys camgymeriad sillafu ac un yn cynnwys cyfieithiad anghywir. Mae nifer wedi eu cywiro yn barod. Mae'r Brifysgol yn cymryd camau i gywiro'r camgymeriadau sy'n weddill cyn gynted ag y bo modd ac mae’r arwyddion hynny wedi eu tynnu o’u lle nes y byddant wedi eu cywiro. Mae trefniadau'n cael eu gwneud hefyd i ychwanegu'r geiriau 'Côd Post' at yr arwyddion cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Rydym yn ymddiheuro am hyn.