Y Sioe Amaethyddol Frenhinol
19 Gorffennaf 2013
Os ydych yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru eleni, galwch heibio i Bafiliwn Addysg y Brifysgol ar gyrion y prif gylch i gyfarfod staff y Brifysgol neu i ddysgu mwy am ein cyrsiau a'r ymchwil ddiweddaraf.
Cynhelir ystod eang o weithgareddau yn y Pafiliwn drwy gydol yr wythnos (22-25 Gorffennaf) gan gynnwys dadleuon, trafodaethau, derbyniadau a gweithdai, ac arddangosfa sy’n canolbwyntio ar Wyddor Anifeiliaid a Cheffylau.
Bydd gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth babell fawr yn yr ardal Gofal Cefn Gwlad ar faes y Sioe.
Bydd cyfle i gymryd rhan mewn arddangosiadau Labordy Byw, deall o ble ddaw bwyd, dysgu pa fathau o feillion sy’n boblogaidd ymysg ffermwyr, neu ymweld â’r Bartneriaeth Hyfforddiant Uwch am sut i gael mwy o gymwysterau yn y sector amaeth-bwyd ym mhabell IBERS.
Ceir rhestr lawn o weithgareddau Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yma: http://www.aber.ac.uk/cy/ibers/events/rws/.
Dywedodd Russell Davies, Rheolwr Marchnata Prifysgol Aberystwyth, "Mae’r Sioe Frenhinol fel arfer yn denu tua 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol, a'r llynedd daeth 227,000 o bobl i’r Sioe.
"Rydym yn falch iawn o fod yma gan ei fod yn gyfle i ni hysbysebu ein cyrsiau a hyrwyddo ein hymchwil. Hefyd rydym yn croesawu’r rhai a fydd yn ymynychu’r Sioe i ymuno â ni am sgwrs gan ein bod eisiau clywed eu barn a'u hawgrymiadau."
Un o'r prif ddigwyddiadau yn y Pafiliwn yn ystod y digwyddiad pedwar-diwrnod fydd dadl ar yr argyfwng cig ceffyl ar ddydd Llun 22 Gorffennaf am 3pm. Fe fydd y drafodaeth yn trafod y gwersi a ddysgwyd a'r cyfleoedd ar gyfer ffermio yng Nghymru a’r diwydiant bwyd.