Aberystwyth yn buddsoddi yn eich dyfodol
03 Gorffennaf 2013
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dosbarthu 42 o Ysgoloriaethau Mynediad, ynghyd â 518 o Wobrau Teilyngdod a nifer o fwrsariaethau a rhoddion ariannol eraill i fyfyrwyr a fydd yn ymuno â’r Brifysgol am y tro cyntaf ym mis Medi 2013.
Mae myfyrwyr Ysgoloriaethau Mynediad yn derbyn rhwng £1,000 a £1,200 bob blwyddyn o astudio, sicrwydd llety am gyfnod y cwrs a chynnig diamod.
Gyda’r Wobr Teilyngdod ceir cynnig diamod a thaliad o £1,000 yn y flwyddyn gyntaf.
Yn ôl adroddiad 2012-13 gan OpinionPanel Research mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig yr ystod orau o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a gwobrau gan unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae Gwilym Tudur o Gaerdydd wedi ennill Ysgoloriaeth Mynediad Uwch gwerth £1,200 y flwyddyn. "Cefais fy synnu pan glywais y newyddion”, dywedodd. “Bydd yr ysgoloriaeth wir yn fy helpu gyda fy nghostau byw ac rwyf hefyd yn bwriadu gwario llawer arian ar lyfrau!
"Dewisais ddod i Aberystwyth yn bennaf oherwydd yr enw da sydd yn perthyn i’r adran Hanes a Chymraeg yn y Brifysgol. Mae’r ffaith fod y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth hefyd yn fantais fawr gan ei bod yn cynnwys llawysgrifau gan enwogion Cymru fel Morgan Llwyd a William Williams Pantycelyn, sy’n ddefnyddiol iawn er mwyn astudio Cymraeg a Hanes Cymru.”
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Mynediad Elizabeth Richards i Charlotte Whitehouse o Swydd Lincoln, ysgoloriaeth sydd werth £1,000 y flwyddyn. "Roeddwn wedi synnu ac yn falch iawn pan glywais y newyddion,” dywedodd Charlotte, “mae ennill Ysgoloriaeth Elizabeth Richards yn anrhydedd enfawr.
"Ni yn unig fydd yr ysgoloriaeth yn fy helpu yn ariannol, ond mae hefyd wedi rhoi hyder i mi yn fy ngwaith. Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddod i Aberystwyth ac er bod nerfau, ni fyddaf yn gadael iddynt fy nal yn ôl."
Eglurodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, "Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella lefel y cymorth sydd ar gael i'n myfyrwyr ac eisiau iddynt fwynhau eu profiad fel myfyrwyr.
"Yn wahanol i nifer o sefydliadau, mae’n holl ddyfarniadau yn agored i fyfyrwyr o bob rhan o'r DG. Mae ein hysgoloriaethau academaidd ynghyd â'n bwrsariaethau sy’n amodol ar incwm, yn golygu bod tua 80% o'n myfyrwyr yn derbyn Ysgoloriaeth, Bwrsariaeth neu Wobr o ryw fath, sydd yn gymhelliad gwych i astudio yma."
Mae yna hefyd nifer o wobrau ariannol eraill ar gael sy'n cynnwys Ysgoloriaethau Rhagoriaeth, Chwaraeon a Cherddoriaeth, a Bwrsariaethau Preswyl, Aberystwyth a Gadael Gofal (mwy o fanylion isod).
Ers i’r Brifysgol gael ei sefydlu yn 1872, mae wedi derbyn rhoddion a chymynroddion hael sy'n ei gwneud hi’n bosibl i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am astudio yn Aberystwyth a mwynhau manteision Addysg Uwch.
Am fwy o wybodaeth ar y gwobrau, ewch i http://bit.ly/14lBon7.