Glo yn ysbrydoliaeth
Mary Lloyd Jones
05 Gorffennaf 2013
Bydd gwaith diweddaraf yr artist o Aberystwyth, Mary Lloyd Jones, yn edrych ar dirwedd, creigiau a gwythiennau glo cymoedd De Cymru yn sgil cydweithio gyda Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (SDGD) Prifysgol Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae Mary yn gweithio ar 'Darganfyddwch y Cymoedd', prosiect sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i edrych o'r newydd ar dirluniau’r cymoedd drwy greu posteri a gweithiau celf eiconig gan ddeg o artistiaid gwahanol.
Ers tro byd bu ganddi ddiddordeb mewn archaeoleg, daeareg a thirweddau, ac maent yn amlwg iawn yn ei gwaith. Mae'r marciau cyntaf a wnaed gan ddyn ar greigiau a cherfluniau wedi dal ei dychymyg ac yn naturiol, byddant yn rhan o'r gwaith mae’n ei gynhyrchu ar gyfer prosiect y cymoedd.
Gyda'i stiwdio yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Mary wedi gwneud yn fawr o fapiau daearegol a delweddau lloeren o SDGD ac mae’n teimlo eu bod yn creu persbectif newydd a gwahanol i’w gwaith.
Dywedodd, "Rwy'n hynod o ffodus fod y Brifysgol ar stepen fy nrws. Mae'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ased mawr o ran fy ngwaith i ac yn cynnig i mi’r cyfle i weld ffurfiannau creigiau o safbwynt gwahanol, sy’n gymorth mawr wrth greu gweithiau celf newydd.
"Mae'r cymoedd yn arbennig, yn dirwedd cyfareddol sy’n llawn o wythiennau diddorol, haenau, tywodfaen, lleidfaen a charreg glai sydd i’w gweld yn glir ar y mapiau ac yn creu patrymau gwych. Rwy’n casglu syniadau o'r mapiau yma ac yna’n creu darn o gelf sy'n adlewyrchu traddodiadau Cymreig, y berthynas gyda'r tir a'r ymwybyddiaeth o hanes.
"Mae'n bwnc pwerus ac mae cael cyfle i weithio ar gynllun o’r fath yn destun balchder ac yn anrhydedd i mi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael trafod y gweithiau i gyd gyda’r artistiaid eraill a'u gweld wedi’u harddangos yn ddiweddarach yn y flwyddyn."
Dywedodd cartograffydd a churadur mapiau SDGD, Antony Smith, "Mae bob amser yn bleser gweithio gyda Mary ac mae darparu mapiau a delweddau lloeren ar gyfer ysbrydoliaeth artistig yn newid braf. Mae'n ddiddorol sylwi ar ei sgiliau creadigol wrth greu gwaith celf o ddeunydd o ffynhonnell wahanol ac mae’n gyffrous gweld y cynnyrch terfynol yn dilyn ei holl waith caled."
Symudodd Mary Lloyd Jones i’w stiwdio newydd yn yr Hen Goleg ym mis Ionawr 2013. Cyn hynny roedd hi’n gweithio yn un o unedau creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Fel artist Mary wedi hen ennill ei phlwy yng Nghymru ac fe’i hurddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2009. Ers ei phlentyndod bu’n tynnu lluniau a pheintio'r byd o’i chwmpas, ac mae wedi bod yn arddangos ei gwaith ers 1966.
Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect Darganfyddwch y Cymoedd yw ymgyrchoedd posteri eiconig Shell yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Derbyniodd y cynllun gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r prosiect 'Darganfyddwch y Cymoedd' wedi’i ddyfeisio gan bartneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd a ariennir drwy brosiect Interreg IVB WECAN ar y cyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn cymryd ysbrydoliaeth o ymgyrchoedd poster eiconig Shell o ganol yr ugeinfed ganrif.
Mynegodd Dr David Llewellyn, cydlynydd Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ei foddhad o gael Mary yn rhan o’r prosiect, "Fe wnaeth dros 150 o artistiaid ddangos diddordeb yn y prosiect ac rydym yn hynod falch fod Mary, sydd yn creu gwaith beiddgar a bywiog ac yn cymryd ei hysbrydoliaeth o dirwedd Cymru, yn un o'r rhai a ddewiswyd.”
Dewiswyd deg o artistiaid i gynhyrchu gweithiau celf fydd yn cael eu defnyddio mewn ymgyrch poster ac mae arddangosfa fawr ar y gweill ar gyfer mis Hydref 2013 yn NhÅ· Bedwellty yn Nhredegar. Am fwy o fanylion, ewch i http://www.discoverthevalleys.org.uk.
AU22813